Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, wedi bod yn edrych ymlaen wrth i’w dîm baratoi i herio Brentford yn Wembley ddydd Sadwrn (Mai 29, 3 o’r gloch) am le yn Uwch Gynghrair Lloegr y tymor nesaf.
Daethon nhw o fewn trwch blewyn i’r ffeinal y tymor diwethaf, cyn colli yn erbyn Brentford dros ddau gymal yn y gêm gyn-derfynol, ond mae ganddyn nhw gyfle y tro hwn i dalu’r pwyth ac i fynd sawl cam ymhellach.
Ymhlith y prif bynciau trafod oedd dyfodol un o’r mawrion, Wayne Routledge, wrth i Steve Cooper gadarnhau na fydd e ar gael ar gyfer y gêm fawr ac mae hynny’n golygu, gyda’i gytundeb yn dod i ben ar ddiwedd y tymor, fod ei ddyfodol yn ansicr ar hyn o bryd.
“Y cwestiwn nesaf yw beth sy’n dod nesaf,” meddai Steve Cooper, wrth osgoi rhoi ateb pendant i’r amheuon y gallai gyrfa un o’r hoelion wyth fod wedi dod i ben ar wastad ei gefn ar stretsiar yn Stadiwm Liberty yr wythnos ddiwethaf.
“Fe gawn ni’r sgwrs honno yr wythnos nesaf, ac fe benderfynodd Wayne a fi fod rhaid canolbwyntio ar y gêm.
“Yn nhermau’r tymor nesaf, byddwn ni’n pigo i fyny ar hynny yr wythnos nesaf – ar ei gais e.”
Llai o gefnogwyr na’r disgwyl
Serch hynny, mae e wedi canmol gweddill y garfan wrth iddyn nhw baratoi yr wythnos hon ond mae’n siomedig na fydd cynifer o gefnogwyr â’r disgwyl yn cael bod yn Wembley o ganlyniad i gyfyngiadau Covid-19 – er bod rhai tocynnau ychwanegol wedi mynd ar werth ar gyfer y gêm erbyn hyn.
Roedd y clwb a Brentford wedi cyhoeddi llythyr yn gofyn am roi mynediad i fwy o gefnogwyr, ac mae rhai tocynnau ychwanegol bellach ar werth, ond bydd y stadiwm ymhell o fod yn hanner llawn hyd yn oed.
“Rydyn ni wedi bod hebddyn nhw ers cyhyd, ac rydych chi’n cael blas ar gael nifer penodol ar gyfer y rownd gyn-derfynol, ac fe wnaeth hynny ein hatgoffa ni i gyd pa mor bwysig yw’r cefnogwyr,” meddai Steve Cooper wedyn.
“Dwi ddim yn meddwl bod rhaid dweud y byddai pawb o’r ddau dîm eisiau mwy o gefnogwyr ar gyfer stadiwm mor fawr, mae hynny ychydig yn drist ac fe fyddai wir wedi ychwanegu at yr achlysur.
“Mae hi bob amser yn arbennig yn Wembley, ac mae’n beth da mewn ffordd y bydd rhai cefnogwyr yno oherwydd dydyn ni ddim wedi cael unrhyw un yn gwylio ein gemau ers cyhyd.”
Pwysigrwydd y gêm
Hon, yn sicr, yw’r gêm fwyaf yn hanes diweddar y clwb ac yn sicr ers i’r Elyrch gwympo o’r Uwch Gynghrair yn 2018.
Ac mae Steve Cooper yn sylweddoli maint y cyfrifoldeb a’r hyn sydd yn y fantol wrth i’w dîm geisio manteisio ar y cyfle i ddychwelyd i’r brif adran a’r holl fuddiannau ariannol sy’n dod gyda hynny.
“Mae’n rhaid i chi gael y cydbwysedd yn iawn, mae cymaint i chwarae ar ei gyfer,” meddai.
“Mae’n gêm ac mae’n rhaid i chi gadw at eich ffordd o weithio a rhoi negeseuon cyson fel bod y chwaraewyr yn teimlo’n gyfforddus ac mor glir â phosib wrth fynd i mewn i’r gêm.
“Bydd yr holl dimau mewn gemau terfynol yn defnyddio dulliau tebyg. Ar ddiwedd y dydd, rydych chi eisiau i’ch tîm fod mor barod â phosib. Dyna ein dull ni.
“Rydych chi eisiau bod yn yr Uwch Gynghrair.
“Rydyn ni wedi rhoi cyfle i ni ein hunain o gyrraedd yno trwy’r gemau ail gyfle.
“Byddai’n golygu popeth.
“Mae [y clwb] wedi bod yno o’r blaen, ac roedd y daith honno’n un arbennig.
“Fe fu’n rhaid i’r clwb ailsefydlu ei hun ac ailadeiladu, os liciwch chi.
“Rydyn ni wedi cyrraedd gêm ola’r tymor ac wedi rhoi cyfle 50-50 i’n hunain o ennill, ac mae’n rhaid bod hynny’n rywbeth i anelu ato.
“Byddai’n golygu popeth i’r ddinas ac i’r clwb, mae pawb yn ymwybodol o hynny.
“Heb siarad am y peth yn ormodol, galla i’ch sicrhau chi ein bod ni’n gwybod yn union beth mae’n ei olygu.”
Y gwrthwynebwyr
Cyrhaeddodd Brentford ffeinal y gemau ail gyfle ar ôl curo Bournemouth o 3-2 dros y ddau gymal a chafodd yr Elyrch ddwy gêm gyfartal yn eu herbyn nhw yn y gynghrair y tymor hwn ar ôl y siom o golli iddyn nhw yn y gêm gyn-derfynol y tymor diwethaf.
Ond mae Steve Cooper yn dweud mai’r gêm hon yn unig sy’n bwysig.
“Maen nhw’n dîm da, ac fe gawson ni ddwy gêm anodd yn eu herbyn nhw eleni,” meddai.
“Wnaethon ni ddim chwarae cystal yn y gêm gartref, ac mae’n rhaid i chi ei chael hi’n iawn yn eu herbyn nhw.
“Mae ganddyn nhw lawer o chwaraewyr da iawn, mae’n gêm anodd ond yn un rydyn ni’n canolbwyntio’n fawr arni ac yn edrych ymlaen ati.
“Dwi ddim yn meddwl bod yr hyn sydd wedi digwydd yn y gorffennol yn mynd i gael llawer o effaith ar y gêm hon.
“Os ydych chi’n chwarae yn erbyn unrhyw dîm ar ôl ychydig fisoedd, bydd y tîm yn edrych yn wahanol, rydyn ni’n chwarae gosodiad newydd nawr o gymharu â’r hyn roedden ni’n ei wneud.
“Efallai y bydd ganddyn nhw osodiad gwahanol hefyd, mae rhai pethau yr un fath ond rhaid i chi gymryd y gêm fel ag y mae hi.”
Ysbryd y garfan a meiddio breuddwydio
Ar drothwy’r gêm, mae Steve Cooper hefyd wedi canmol ysbryd y garfan a’r ffordd maen nhw’n cydweithio.
Mae hynny wedi nodweddu’r garfan ifanc hon ers i’r Cymro o Bontypridd gael ei benodi cyn dechrau’r tymor diwethaf, ac yntau wedi cael profiad helaeth o weithio gyda chwaraewyr ifainc o fewn system oedrannau Lloegr, a daeth yr uchafbwynt pan enillodd tîm dan 17 Lloegr Gwpan y Byd yn 2017.
“Un nod cyffredin, undod,” meddai Steve Cooper yw’r prif ffactor sydd wedi cadw carfan yr Elyrch i symud yn yr un cyfeiriad y tymor hwn.
Mae hynny wedi bod yn weladwy dros ei ddau dymor wrth y llyw, ac fe fyddai cyrraedd yr Uwch Gynghrair yn sicr yn benllanw’r gwaith hwnnw, ond fydd e ddim yn gadael i unrhyw un golli ffocws.
“Mae’r diwylliant yn cynnwys pawb, dim hierarchiaeth, deall pa mor arbennig yw ein clwb a’r gwerthoedd mae’r clwb a’r ddinas yn eu disgwyl.
“Wrth gwrs, rydych chi’n ceisio chwarae â steil a hunaniaeth ond cyn bwysiced ag unrhyw beth, gyda chalon a chwant hefyd oherwydd rydyn ni’n gwybod pwy rydyn ni’n eu cynrychioli.
“Dw i wir wedi cyffroi, oherwydd rydych chi’n gweld pa mor hyderus yw’r chwaraewyr.
“Mae’n fy llenwi â chymaint o hyder a balchder hefyd.
“Rydyn ni wedi bod ar daith ers sawl blwyddyn, mae pobol wedi mynd a dod, dyna sy’n digwydd, ond rydyn ni wir yn edrych ymlaen at fynd i Lundain a chwarae ar y llwyfan mawr.”
Ond mae’n atal ei hun rhag dweud ei fod e wedi bod yn breuddwydio am yr eiliad fawr pan ddaw’r chwiban olaf a’r cyfle i arwain yr Elyrch yn ôl i’r Uwch Gynghrair.
“Dw i’n meddwl am ein paratoadau a’n dulliau,” meddai.
“Am ddadansoddi’r gwrthwynebwyr a ni ein hunain hefyd.
“Mae cymaint i chwarae ar ei gyfer ac rydyn ni’n gwybod fod rhaid i ni gredu yn sut rydyn ni’n chwarae a gweithio.
“Rydyn ni’n gwybod fod y gwobrau’n fawr, ac mae hynny’n ysgogiad enfawr i ni.”