Mae’r Prif Weinidog wedi cael gwared ar unrhyw obaith i gefnogwyr gael mynychu “gêm fwyaf Tref Caernarfon ers blynyddoedd” – er bod y sefyllfa wedi’i disgrifio fel “ffars” gan un Aelod Seneddol.
Bydd Caernarfon yn croesawu’r Drenewydd ar gyfer y gêm ail-gyfle hollbwysig ddydd Sadwrn (Mai 29), gydag enillydd y gêm yn cymhwyso ar gyfer Ewrop, ac yn derbyn swm ariannol chwe ffigwr.
Wedi i Gynghrair Cymru gael ei hepgor o’r ‘digwyddiadau prawf’, mae pwysau wedi bod ar weinidogion i ganiatáu i rai cefnogwyr, o leiaf, gael mynd i’r Oval yn sgil sefyllfa “hurt” lle mae cefnogwyr yn cael dod at ei gilydd mewn tafarndai i wylio’r gêm, ond ddim tu allan yng nghae Caernarfon.
“Anwybyddu” y Cymru Premier
Wrth geisio perswadio’r Prif Weinidog ddydd Mercher (Mai 26), fe wnaeth Llyr Huws Gruffydd, AoS dros Ogledd Cymru, bwyntio at ddigwyddiadau prawf Casnewydd ac Abertawe – dau dîm sy’n chwarae ym mhyramid Lloegr – a chyhuddo’r Llywodraeth o “anwybyddu” timau sy’n chwarae yng nghynghrair uchaf Cymru.
“Nid yw’r timau sy’n chwarae yn system byramid Lloegr yn cynrychioli pêl-droed llawr gwlad Cymru, a byddai treialu digwyddiadau yng nghynghrair y Cymru Premier, er enghraifft, yn llawer mwy perthnasol i dimau ar draws Cymru,” meddai Llyr Huws Gruffydd.
“Onid yw’n ffars fod rhaid i gefnogwyr y Cymru Premie wasgu mewn i dafarndai i wylio’r gemau, neu eu gwylio nhw o adeilad y clwb yn edrych dros y cae, yn hytrach na gwneud hynny o’r cae, yn yr awyr agored, gydag ymbellhau cymdeithasol?
“Nid yw’n rhy hwyr, wrth gwrs, i newid hynny. Felly, a fyddech chi’n ailystyried caniatáu i rai cefnogwyr fynychu gêm olaf, hanfodol y tymor rhwng Caernarfon a’r Drenewydd ddydd Sadwrn – y gêm fwyaf yn hanes clwb pêl-droed Caernarfon?”
Ymarferol “amhosib”
Ond wrth ymateb, dywedodd Mark Drakeford y byddai’n “amhosib” trefnu digwyddiad prawf arall ar gymaint o fyr rybudd, gan ddweud fod misoedd o waith paratoi wedi mynd tuag at y rhai sydd wedi’u trefnu, gan gynnwys gêm Cymru yn erbyn Albania yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar Fehefin 5, o flaen 6,500 o gefnogwyr, cyn iddyn nhw hedfan i bencampwriaeth Ewro 2020.
“Roedd yna ystyriaethau ymarferol pan wnaethon ni benderfynu lle fyddai’r treialon yn cael eu cynnal. Mae yna lawer iawn o waith tu ôl i’r treialon,” meddai’r Prif Weinidog.
“Mae’n amhosib dweud, ‘Wel, dydd Sadwrn, gall rhywbeth arall gael ei gynnal’. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhan o bob digwyddiad prawf. Mae awdurdodau lleol yn rhan o bob digwyddiad prawf. Beth bynnag rydyn ni’n ei ddefnyddio fel treial, mae grwpiau lleol yn rhan o’r treial hefyd.
“Felly, nid oedd hi’n ymarferol bosib cynnal digwyddiad prawf ymhob man ar gyfer popeth, a gwneud hynny’n ddiogel.
“Dyna pam fod gennym ni restr o bum digwyddiad prawf, a dyna pam ein bod ni am ddysgu gwersi ganddyn nhw er mwyn gweld a allwn ni wneud mwy yn y dyfodol, ond gwneud hynny mewn ffordd sy’n ddiogel i bobol sy’n mynychu’r digwyddiadau ac sy’n llwyddiannus i’r bobol sy’n cynnal y digwyddiadau hefyd.”
“Ergyd wirioneddol”
Cymaint yw’r awydd yng Nghaernarfon am gael mynychu’r gêm, fe wnaeth Sian Gwenllian, yr Aelod Seneddol lleol, ysgrifennu at weinidogion yn gynharach yn yr wythnos er mwyn gofyn a fyddai nifer cyfyngedig o gefnogwyr yn cael mynychu’r Oval, a threialu rheoliadau cyn tymor newydd y gynghrair ym mis Awst.
“Bydd enillydd y gêm yn sicrhau lle yng nghystadleuaeth Cyngres Europa y flwyddyn nesaf,” meddai Sian Gwenllian.
“Dyma’r gêm bwysicaf yn hanes Tref Caernarfon ac mae llawer o gyffro ymhlith eu cefnogwyr.”
“Mae hyn yn newyddion siomedig iawn ac yn ergyd wirioneddol i gefnogwyr brwd ac ymroddedig Clwb Pêl Droed Caernarfon, sydd wedi sefyll ochr yn ochr â’r clwb yn ffyddlon trwy amseroedd caled iawn ac a fydd, yn anffodus, yn colli allan ar y gêm bwysicaf yn hanes y clwb,” meddai Sian Gwenllian AoS a Hywel Williams AS mewn datganiad ar y cyd yn dilyn ymateb Mark Drakeford.
“Pe bai llywodraeth Cymru wedi bod yn barod o’r cychwyn cyntaf i weithio gyda’r clwb ac eraill i oresgyn rhai o’r rhwystrau ymarferol i ganiatáu mynediad i’r Oval, yna fe ellid fod wedi osgoi’r siom yma.
“Mae hwn yn benderfyniad afresymegol. Rydym yn gobeithio y bydd cefnogwyr yn cael eu digolledu trwy fuddugoliaeth ddydd Sadwrn, a dymunwn y gorau i’r Clwb yn erbyn y Drenewydd yn y gêm bwysig hon.”