Mae’r capasiti cefnogwyr ar gyfer gêm gyfeillgar Cymru yn erbyn Albania yn Stadiwm Dinas Caerdydd wedi cynyddu i 6,500.

Roedd y gêm ddydd Sadwrn, 5 Mehefin wedi cael ei dewis fel un o ddigwyddiadau prawf Llywodraeth Cymru ar gyfer dychwelyd torfeydd yn ddiogel.

Yn wreiddiol, y bwriad oedd caniatáu i 4,000 o gefnogwyr fynychu.

Ond mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau y bydd 2,500 o gefnogwyr ychwanegol yn cael mynd i wylio’r gêm.

“Yn dilyn y cynllunio a’r trefnu a roddwyd ar waith gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru a Stadiwm Dinas Caerdydd, cytunwyd y gall y gêm fynd yn ei blaen gyda chapasiti o 6,500,” meddai Cymdeithas Bêl-droed Cymru mewn datganiad.

Hon fydd gêm gartref gyntaf Cymru o flaen cefnogwyr ers iddyn nhw guro Hwngari 2-0 ym mis Tachwedd 2019, gan sicrhau ei lle yn nhwrnament Ewro 2020/