Mae Marcus Rashford wedi datgelu ei fod wedi cael ei gam-drin yn hiliol ar ei gyfrifon cyfryngau cymdeithasol ar ôl i Manchester United golli yn rownd derfynol Cynghrair Europa yn Gdansk nos Fercher (Mai 26).

Dywedodd y gŵr 23 oed ei fod wedi derbyn “o leiaf 70 sarhad hiliol” yn sgil colled Manchester United i Villarreal ar giciau o’r smotyn yn dilyn gêm gyfartal 1-1.

Datgelodd Rashford ei fod wedi derbyn cyfres o negeseuon hiliol pan agorodd ei ffôn, a dywedodd ei fod wedi derbyn neges uniongyrchol gan berson a oedd yn honni ei fod yn athro mathemateg.

Yn ddiweddarach, fe wnaeth y clwb drydar i ddweud bod eu chwaraewyr wedi derbyn “camdriniaeth warthus”.

Ysgrifennodd Rashford ar Twitter: “Wedi cyfrif o leiaf 70 neges hiliol ar fy nghyfrifon cymdeithasol hyd yn hyn.

“I’r rhai sy’n ceisio gwneud i mi deimlo’n waeth nag yr wyf eisoes yn teimlo, pob lwc i chi’n trïo.”

Ychwanegodd: “Rwy’n fwy blin fyth bod un o’r camdrinwyr a adawodd fynydd o emojis mwncïod yn fy DM yn athro mathemateg gyda phroffil agored. Mae’n dysgu plant!!”

Mewn datganiad, dywedodd Manchester United eu bod wedi eu “ffieiddio gan y casineb a’r cam-drin ar-lein sydd wedi’u hanelu at Marcus Rashford a chwaraewyr eraill ar y cyfryngau cymdeithasol ar ôl y gêm neithiwr” a’u bod yn ei “gondemnio’n llwyr”.

Nid dyma’r tro cyntaf i’r ymosodwr ddioddef camdriniaeth ar y cyfryngau cymdeithasol.

Ym mis Ionawr, ymchwiliodd heddlu Manceinion Fwyaf i sylwadau hiliol a anfonwyd ato ef a sawl chwaraewr arall.

Brwydr pêl-droed yn erbyn hiliaeth yn dal i fod “mewn lle tywyll” – medd cyn-ymosodwr Caerdydd

“Mae hiliaeth mor amlwg ar y cyfryngau cymdeithas nes ei fod yn dod law yn llaw,” yn ôl Cameron Jerome

Cyrff pêl-droed Lloegr yn galw ar gwmnïau cyfryngau cymdeithasol i fynd i’r afael â hiliaeth

Cyfryngau cymdeithasol wedi dod yn “hafanau ar gyfer camdriniaeth” meddai arweinwyr pêl-droed yn Lloegr