Gall yr Elyrch esgyn i Uwchgynghrair Lloegr unwaith eto gydag un fuddugoliaeth fawr bnawn Sadwrn. Ac mae llwyddiant o fewn cyrraedd Casnewydd a Wrecsam hefyd…

O dan amgylchiadau arferol, fe fyddai Stadiwm Liberty wedi bod dan ei sang ddydd Sadwrn diwethaf ar gyfer un o’r gemau mwyaf yn hanes diweddar tîm pêl-droed Abertawe, wrth iddyn nhw guro Barnsley o 2-1 dros ddau gymal a chael herio Brentford am le yn Uwchgynghrair Lloegr y tymor nesaf.