Mae’r gantores amryddawn EÄDYTH yn cael clamp o wythnos i’w chofio!

Mae ei chân ‘Cydraddoldeb i Ferched’ allan ac yn Drac yr Wythnos ar Radio Cymru.

Ac mae gan y gantores 23 oed sengl newydd sbon danlli ARALL allan ar ein cyfer ni’r wythnos hon, sef ‘Inhale/Exhale’.

Hefyd yr wythnos yma, mi fydd hi’n canu mewn cynhadledd hip-hop ryngwladol.

Ac yn goron ar y cyfan, mi fydd Radio 1 yn chwarae ei fersiwn fyw hi o ‘Inhale/Exhale’ fel rhan o’u ‘Big Weekend’ rhithiol sy’n digwydd ar-lein eleni.

Hefyd, mae EÄDYTH wedi bod yn brysur yn creu’r tracsain ar gyfer sioe newydd o’r enw The Merthyr Stigmatist gyda Theatr y Sherman.

Ond gadewch i ni drafod y caneuon newydd gynta’…

Mae ‘Cydraddoldeb i Ferched’ yn gyfuniad o eiriau Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd, a cherddoriaeth a llais gan EÄDYTH, ac mae ‘Inhale/Exhale’ yn gân bersonol ganddi yn croniclo ei theimladau yn ystod y cyfnod clo.

A’r hyn sy’n clymu’r ddwy gân yw llais hyfryd a cherddoriaeth hamddenol, swynol a soulfull y gantores gafodd ei magu yn Aberaeron yng Ngheredigion, ac sydd bellach wedi setlo ym mhentref Aberfan ger Merthur Tudful.

Geiriau sy’n golygu lot

Mae’r geiriau mae EÄDYTH yn eu canu ar ‘Cydraddoldeb i Ferched’ yn ffrwyth cydweithio rhwng criw o fyfyrwyr Prifysgol Abertawe dan arweiniad y nofelydd Llio Maddocks.

A geiriau da ydyn nhw hefyd:

‘Hawliau merched yw hawliau dynol

Hawliau dynol yw hawliau merched

Ni allwch achub y byd

Os nad yw’r byd yn gyfartal…

Nid cegog, ond awdurdodol

Nid emosiynol, ond angerddol…’

“Dw i wir yn teimlo fod geiriau ‘Cydraddoldeb i Ferched’ yn rhai hynod amserol,” meddai EÄDYTH, “ac wrth eu darllen, ro’n i’n medru uniaethu â nhw yn llwyr.

“Mae hi wedi bod mor braf cael bod yn rhan o gyhoeddi’r Neges Heddwch eleni, ac mae’n gyffrous meddwl y bydd y neges yn cael ei darllen a’i chlywed ar draws y byd.”

Bu’r Urdd yn rhannu Neges Heddwch ac Ewyllys Da pob blwyddyn ers 1922, a’r genadwri eleni wedi’i chyfieithu i 65 o ieithoedd.

Ac wrth fynd ati i greu’r gerddoriaeth i fynd gyda’r geiriau, roedd gan EÄDYTH syniadau pendant am yr hyn roedd hi eisiau ei gyflawni.

“Dw i’n meddwl fod y gerddoriaeth yn y gân yn gymysgedd o fy nylanwadau i,” meddai, “ond achos fy mod i wedi siarad efo’r Urdd, wnaethon ni gytuno fod angen i’r gân fod yn rhywbeth rili cryf, rhywbeth mae pobol yn gwrando arni a meddwl: ‘Waw! Mae hwn yn sefyll allan fel cân gyda neges’.

“Felly roeddwn i eisiau creu cân gryf gyda bîts anthemig, a’r llais yn cyd-fynd efo’r anthemic vibe.”

Ac mae hi wrth ei bodd bod ‘Cydraddoldeb i Ferched’ yn Drac yr Wythnos ar Radio Cymru’r wythnos hon, ac yn cael ei chwarae yn ddyddiol ar yr orsaf genedlaethol.

“Mae e’n grêt! Dyna beth yr yden ni angen, gwasgaru’r neges dros Gymru i gyd.

“Felly dyma siawns dda iawn i’r gân gael cefnogaeth ar draws y wlad. A dw i mor falch, mor excited, bod y gân yn cael sylw.”

Ar ben hynny, mae ganddi gân newydd arall sydd am fod ar Radio 1, ac mae am gael perfformio yng nghynhadledd rhynwgladol hip-hop y New Skool Rules.

“Rydw i’n rili cyffrous am y projectau yma i gyd,” meddai.

“Mae e’n really full on, ond mae yn beth da iawn achos dw i’n cadw yn brysur ac mae rhywbeth newydd ar y gweill trwy’r amser.

“Felly unwaith dw i wedi symud ymlaen o un peth, dw i’n cael rhywbeth arall i edrych ymlaen at.

“Ac mae cael cefnogaeth pobol, mae yn wych, a dw i’n ddiolchgar iawn i bawb sy’n rhoi’r profiadau yma i fi.”

Yn ogystal â chwarae fersiwn fyw o ‘Inhale/Exhale’ ar Radio 1 y penwythnos yma, “maen nhw hefyd yn mynd i rannu promotional video ar instagram a pethe”.

Ac mi fydd EÄDYTH i’w gweld ar wefan cynhadledd gerddoriaeth hip-hop New Skool Rules am 8.50 ar nos Wener, Mai 28.

“Rydw i’n gwneud rhyw chwech munud o set!” meddai EÄDYTH dan chwerthin.

“Ond mae’n cŵl. Dw i wedi pre-recordio’r set yma yn Aberfan, a hala fe fewn iddyn nhw chware fe.”

Ewch i www.newskoolrules.com/tickets/ os ydech chi awydd gweld y perfformiad yma.

Ac nid yw recordio perfformiad byw ar gyfer sioe ar y we yn ddim byd newydd i EÄDYTH.

Fe recordiodd hi set ar gyfer Gŵyl Fach y Fro (Bro Morgannwg) a gafodd ei chynnal yn ddigidol nôl ym mis Ebrill, a dyna’r perfformiad welodd pyntars Tafwyl ryw bythefnos yn ôl hefyd.

Roedd EÄDYTH i fod i chwarae yn fyw yn yr ŵyl Gymraeg yng Nghastell Caerdydd, ond yn anffodus fe gafodd ei tharo yn wael – ond fe gafodd y dorf fwynhau perfformiad ganddi ar sgrîn fawr.

Clawr y sengl newydd

Cân y clo a chrwydro’r fro

Fe gafodd y gân newydd ‘Inhale/Exhale’ ei hysbrydoli yn rhannol gan deithiau cerdded o amgylch mynyddoedd Merthyr.

Ac er ei bod hi’n gân sy’n trafod y cyfnod clo, mae hi’n gân bositif.

“Ydy, ie, mae hi yn,” cytuna EÄDYTH.

“Ar ddechrau locdown, doeddwn i ddim cweit yn siwr beth oedd yn mynd ymlaen.

“Ac fel pawb arall, ddim yn siwr o’r dyfodol, ddim yn gwybod sut oedd gyrfa fi yn mynd i gario ymlaen.

“A wnes i gael brêc o’r miwsig am dipyn bach, a dod nôl yn rili cryf ac eisiau bod yn greadigol.

“Wedyn wnes i ddechrau sgrifennu’r gân yma, a’r neges tu ôl iddi yw bod e’n gallu bod yn rili anodd. Mae’r byd yn gallu bod yn anodd, a’r sefyllfa gyda’r locdawn hefyd.

“Ond dw i wedi ffeindio heddwch wrth fynd tu allan, cerdded, ffeindio heddwch yn y mynyddoedd ym Merthyr.

“A dw i wedi gwneud lot o meditation, ac mae hwnna yn cynnwys anadlu mewn ac anadlu allan.

“Mae hwnna wedi helpu fi, o ran iechyd meddwl, yn y cyfnod clo… a dyna pam roeddwn i eisiau rhyddhau cân sydd yn cynrychioli sut dw i wedi teimlo dros y cyfnod.”

Mi fydd gan EÄDYTH “sengl arall allan yn fuan… ond mae o’n kind of cyfrinach ar hyn o bryd.

“Felly dw i ddim am ddweud gormod!”

Yr Urdd yn profi fod Neges Heddwch 2021 yn “fwy na hashtag”

Mae’r Neges yn mynd i’r afael â chydraddoldeb i ferched eleni