Mae’r Urdd am brofi fod y Neges Heddwch yn “fwy na hashtag”, wrth i’r neges eleni fynd i’r afael â ‘Chydraddoldeb i Ferched’.

Mae’r Neges Heddwch wedi’i llunio eleni gan Brifysgol Abertawe ar gyfer Dydd Ewyllys Da heddiw (Mai 18).

Mae’r Neges Heddwch yn bodoli ers 99 o flynyddoedd, ac eleni mae ieuenctid Cymru wedi penderfynu defnyddio’r neges i fynegi eu gweledigaeth am genhedlaeth ble mae cydraddoldeb rhwng y rhywiau.

Yn y neges, maen nhw’n galw ar bobol ifanc ar hyd a lled y byd i ddefnyddio’r “normal newydd” i greu dyfodol gwell drwy fynnu cydraddoldeb i ferched.

Mewn ymateb i’r neges mae’r Urdd fel mudiad yn gweithredu drwy ymrwymo i helpu i daclo tlodi mislif gan ddarparu cynnyrch hylendid am ddim yng Ngwersylloedd yr Urdd, pob Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, a’u digwyddiadau chwaraeon cenedlaethol.

Byddan nhw hefyd yn sicrhau cydraddoldeb i ferched ar bob un o fyrddau canolog yr Urdd, a sicrhau cefnogaeth i ferched ym myd hyfforddiant ac arweinyddiaeth, yn enwedig ym maes chwaraeon.

Yn ogystal, maen nhw am gynnig Gwersylloedd Glan-llyn, Llangrannog, a Chaerdydd fel lleoliadau i grwpiau o ferched bregus gael ymlacio.

“Taro tant ar draws y byd”

“Mae’r Urdd yn arwain drwy esiampl ac yn sicrhau cydraddoldeb i ferched ar bob lefel, gan brofi fod y Neges Heddwch yn gymaint fwy na hashtag eleni,” meddai Siân Lewis, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru.

“Mae cydraddoldeb a hawliau merched yn hollbwysig er mwyn sicrhau dyfodol sy’n darparu ar gyfer pawb.

“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe am ei chefnogaeth i’r Neges.

“Mae wedi bod yn fraint i gydweithio â’r Brifysgol o gofio ei hymrwymiad clir i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynwysoldeb.

“Mae brwdfrydedd ac ymrwymiad y myfyrwyr i lunio’r Neges ac i wneud gwahaniaeth yn heintus – rwy’n hyderus y bydd y Neges yn taro tant ar draws y byd ac y bydd gweithredu yn ei sgil.”

“Gwaith i’w wneud”

“Fel myfyrwraig meddygaeth, dwi wedi profi a chlywed am discrimination yn erbyn menywod ym myd meddygaeth,” meddai Shannon Rowlands o Gastell Newydd Emlyn, un o’r myfyrwyr a gyfrannodd at y Neges Heddwch eleni.

“Gan fy mod i’n ferch, mae cleifion wedi cymryd yn ganiataol mai myfyriwr nyrsio ydw i yn hytrach na doctor, ac mae ffrindiau benywaidd gen i sy’n awyddus i fod yn llawfeddygon wedi derbyn cyngor i’w ailystyried fel gyrfa os ydyn nhw eisiau plant.

“Dwi wedi bod mor ffodus i gwrdd â menywod hynod ysbrydoledig tra ar leoliadau gwaith, sy’n profi bod menywod yn gallu gweithio mewn unrhyw faes maen nhw eisiau.

“Mae pethau yn sicr yn gwella, ond mae dal gwaith i’w wneud – a dwi’n siŵr fod yr un peth yn wir am broffesiynau eraill, hefyd.”

Neges amlieithog

Ar Fai 18 bob blwyddyn ers 1922 mae’r Urdd wedi rhannu Neges Heddwch ac Ewyllys Da gyda’r byd, gyda’i chyrhaeddiad yn cynyddu’n flynyddol.

Neges 2020 oedd y mwyaf llwyddiannus hyd yn hyn, gan gyrraedd dros 37 miliwn o bobol mewn 40 o wledydd ledled y byd, a chafodd ymatebion gan enwogion megis Catherine Zeta-Jones, Matthew Rhys, a Michael Sheen.

Cafodd y neges eleni ei ffurfio gan 21 myfyriwr o Abertawe gyda chefnogaeth y bardd a’r awdur Llio Maddocks, yn dilyn gweithdai ‘Cydraddoldeb i Ferched’ o dan ofal Gwennan Mair, Cyfarwyddwr Ymgysylltu Creadigol Theatr Clwyd.

Mae posib darllen Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd 2021 mewn dros 60 iaith yma, a bydd y fideo yn cael ei lansio’n swyddogol ar gyfryngau cymdeithasol yr Urdd fore heddiw am 8am.