Mae busnesau lletygarwch ac adloniant yng Nghymru wedi galw am eglurder ynghylch pryd y gellir codi rheolau ymbellhau cymdeithasol wrth iddynt groesawu cwsmeriaid dan do.
Wrth i gyfyngiadau coronafeirws gael eu llacio ddydd Llun, roedd peintiau’n cael eu gweini mewn tafarndai, prydau bwyd mewn bwytai, a sinemâu yn dangos ffilmiau am y tro cyntaf ers mis Rhagfyr.
Ond mae rheolau ymbellhau cymdeithasol a’r rheol chwe pherson yn golygu bod llawer o fusnesau’n gorfod gweithredu gyda llai o gapasiti, heb unrhyw arwydd eto gan Lywodraeth Cymru a fydd y cyfyngiadau’n cael eu codi yr haf hwn.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y gall busnesau sy’n dal i gael eu heffeithio gan gyfyngiadau hawlio cymorth ariannol ychwanegol o hyd at £25,000 i helpu i dalu costau parhaus.
“Pryder ynghylch pa mor hir y gallwn fodoli ar y capasiti is hwn”
Yng nghanolfan gelfyddydau y Chapter yn Nhreganna, Caerdydd, dim ond 40 o bobl a ganiatawyd y tu mewn i un o’i sinemâu ar gyfer sgrinio’r ffilm a enillodd Oscar am y ffil orau, sef Nomadland. Mae hyn yn 20% o’i gapasiti arferol.
Dywedodd rheolwr rhaglen sinema y Chapter, Claire Vaughan, ei bod hi’n “gyffrous” gallu croesawu cynulleidfaoedd yn ôl, ond dywedodd bod pryderon ynglŷn â sut y byddai’r cyfyngiadau parhaus yn effeithio ar y busnes.
“Mae pryder ynghylch pa mor hir y gallwn fodoli ar y capasiti is hwn,” meddai.
“Mae’n fy mhoeni, ar y lefel honno, bod cynulleidfaoedd yn dod i mewn, ond heb roi llawer o elw i ni. Byddai cael hynny’n digwydd am gyfnod hir iawn yn anodd.”
Dywedodd Ms Vaughan fod y sinema’n mwynhau ei blwyddyn orau erioed cyn i Covid daro, a’i bod yn gobeithio y byddai rhyddhau nifer o ffilmiau mawr fel Nomadland yn golygu y byddai cynulleidfaoedd yn dychwelyd i gefnogi’r lleoliad.
“Ein bara menyn yw cerddoriaeth fyw, i fod”
Agorodd The Deep Bar yng nghanol Caerdydd y llynedd fel lleoliad cerddoriaeth fyw, ond hyd yma nid yw wedi gallu cynnal perfformiadau oherwydd y cyfyngiadau.
Mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi dweud y byddai llefydd fel lleoliadau cerddoriaeth fyw a chlybiau nos yn dod “tua diwedd y ciw ailagor” ac mai dim ond “tua diwedd Mehefin ac i mewn i Orffennaf” y byddai hynny’n cael ei ystyried.
Dywedodd Scott Hillen, rheolwr cyffredinol y bar: “Ein bara menyn yw cerddoriaeth fyw, i fod, a dim ond cymaint o ddiodydd y gallwn eu gwerthu gyda’r uchafswm o bobl y gallwn eu cael yma, felly mae’n mynd i fod yn dynn iawn i ni.
“Ar yr ochr bositif, mae pawb yn gyffrous am ddod yn ôl, oherwydd ein bod yn dal i chwarae cerddoriaeth, a bydd pobl yn dod yma am ddiod a bwyd. Rwy’n edrych ymlaen at ddychwelyd y tu mewn.”
Ychwanegodd Mr Hillen na fu “unrhyw eglurder” gan y Llywodraeth ynghylch pryd y gallai busnesau fel ei un yntau gynnig perfformiadau byw.
“Byddwn yn parhau i drafod yn rheolaidd â’r sector”
Mae newidiadau heddiw (dydd Llun 17 Mai) hefyd yn golygu y gall pob llety i dwristiaid ailagor yn ogystal ag atyniadau ymwelwyr dan do, gan gynnwys amgueddfeydd ac orielau.
Hefyd, bydd hyd at 30 o bobl yn gallu cymryd rhan mewn digwyddiadau dan do wedi’u trefnu a hyd at 50 o bobl yn gallu cymryd rhan mewn digwyddiadau awyr agored wedi’u trefnu.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae mesurau lliniaru i gefnogi agor lletygarwch dan do o heddiw ymlaen wedi’u datblygu gyda rhanddeiliaid y diwydiant a byddwn yn parhau i drafod yn rheolaidd â’r sector.
“Bydd rhagor o fanylion am unrhyw newidiadau i gyfyngiadau yng Nghymru yn cael eu cyhoeddi yn yr adolygiad nesaf o’r rheoliadau.”