Bydd gan dîm pêl-droed Abertawe fantais o un gôl ar ddechrau ail gymal y gêm ail gyfle yn erbyn Barnsley, ar ôl buddugoliaeth o 1-0 yn Oakwell heno (nos Lun, Mai 17).

Andre Ayew sgoriodd y gôl hollbwysig – ei ail gôl ar bymtheg y tymor hwn – saith munud cyn yr egwyl ar ddiwedd hanner cyntaf digon di-fflach.

Bu’n rhaid i Barnsley ymosod gryn dipyn yn yr ail hanner, ond arhosodd yr amddiffyn yn gadarn, yn enwedig yr amddiffynnwr canol Marc Guehi a’r golwr Freddie Woodman a gadwodd lechen lân am yr unfed tro ar hugain y tymor hwn.

Mae’r Elyrch yn parhau’n ddi-guro yn erbyn Barnsley ar ôl pymtheg mlynedd – y trydydd tro iddyn nhw eu curo y tymor hwn heb ildio’r un gôl.

Manylion y gêm

Dechreuodd y gêm yn wyllt gyda’r Elyrch yn ceisio cael mantais gynnar drwy groesiadau o’r ystlys gan Jake Bidwell a Conor Hourihane, wrth i Romal Palmer gael cyfle prin y pen arall i’r cae.

Ond aeth y ddau dîm yn amddiffynnol am weddill yr hanner cyntaf cyn i Ayew ddangos ei ddoniau wrth dorri i mewn o’r ystlys ar ôl derbyn pàs arbennig gan Kyle Naughton i mewn i wagle, ac osgoi camsefyll cyn tanio’r ergyd i gornel isa’r rhwyd.

Aeth Barnsley yn ymosodol ar unwaith, a bu’n rhaid i Freddie Woodman aros ar ddihun i atal ymdrech gan Michal Helik â’i ben.

Parhau i ymosod wnaeth Barnsley ar ddechrau’r ail hanner, a bu’n rhaid i Woodman wneud cyfres o arbedion i gynnal y fantais – un oddi ar ergyd gan yr eilydd Carlton Morris cyn i Callum Brittain ergydio’n agos.

Fe wnaeth e arbed cic rydd gan Cauley Woodrow wedyn, a hynny ar ôl i Ayew weld cerdyn melyn am dacl eiddgar ar Morris.

Er iddyn nhw barhau i ymosod mewn ymgais i unioni’r sgôr, llwyddodd yr Elyrch i wrthsefyll ymosodiadau Barnsley.

Daeth Conor Hourihane o fewn trwch blewyn gydag ymgais o gic rydd cyn i Wayne Routledge, Jay Fulton a Jamal Lowe wrthymosod yn beryglus cyn i amddiffyn Barnsley atal y bygythiad.

Gallai Lowe fod wedi dyblu mantais yr Elyrch wrth guro Toby Sibbick, ond aeth y bêl heibio’r postyn wrth iddo fe ergydio.

Taniodd y capten Matt Grimes chwip o ergyd â’i droed dde cyn i Morris daro’r trawst i Barnsley ag un ymdrech olaf.

Dydd Sadwrn yn y Liberty

Ar sail y perfformiad heno, bydd yr Elyrch yn teimlo’n ddigon hyderus wrth ddychwelyd i Stadiwm Liberty ddydd Sadwrn (Mai 22).

Bydd cael y ‘Jack Army’ yno am y tro cynta’r tymor hwn yn hwb ychwanegol wrth iddyn nhw geisio mynd un cam ymhellach nag y gwnaethon nhw’r tymor diwethaf.

Ac mae’r rheolwr Steve Cooper yn awyddus i sicrhau bod y tîm yn dysgu’r gwersi o’r gemau ail gyfle y tymor diwethaf, wrth iddyn nhw ennill y cymal cyntaf o 1-0 cyn colli’r ail gymal o 3-1.

Ond yn wahanol i’r tymor diwethaf, gartref fydd yr Elyrch ar gyfer yr ail gymal hollbwysig.

“Rydyn ni wedi bod yma o’r blaen, yr adeg yma y llynedd, ac rydyn ni’n gwybod mai mantais fach yw hi,” meddai.

“Mae hi ond yn bwysig os ydych chi’n ei rheoli hi ac yn ei gwarchod hi, a rhaid i ni ganolbwyntio ar hynny fel meddylfryd wrth fynd i mewn i ddydd Sadwrn.

“Byddai’n dda cael sgwrs gyda’r chwaraewyr yn ystod yr wythnos wrth baratoi, a dyna fyddwn ni’n ei wneud, rydyn ni’n agored â’r chwaraewyr ac yn gofyn iddyn nhw beth maen nhw’n ei feddwl.

“Nid dim ond y chwaraewyr oedd yma y llynedd sy’n bwysig, ond bois fel Conor Hourihane [cyn-chwaraewr Barnsley] sydd wedi’i gwneud hi gyda chlybiau blaenorol.

“Rydyn ni eisiau creu yr hyn rydyn ni’n credu yw’r cynllun cywir.

“The difference is we were away for the second leg last year, while this time we are at home.

“Bydd gyda ni gefnogwyr yn y stadiwm a fydd yn rhan o’r hafaliad, a bydd hi’n dda cael myfyrio ar heno a sicrhau ein bod ni’n ymrwymo i’r cynllun hwnnw.

“Rhaid i ni ganolbwyntio ar y pethau y gallwn ni eu rheoli, a pharatoi i gyflawni ddydd Sadwrn.”