Mae cefnogwyr tîm pêl-droed Cymru yn cael eu cynghori i beidio â theithio i Rufain na Baku ar gyfer Ewro 2020 fis nesaf.

Bydd Cymru’n herio’r Swistir ar Fehefin 12 a Thwrci ar Fehefin 16 yn Baku, cyn teithio i Rufain i herio’r Eidal ar Fehefin 20.

Ond daw’r rhybudd gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru ar ôl iddyn nhw fod yn trafod y sefyllfa â’r Swyddfa Dramor.

Mae’r Eidal ac Azerbaijan ar Restr Oren Llywodraeth Prydain yn sgil amrywiolion Covid-19 ac mae Llywodraeth Prydain yn annog pobol i gadw draw o’r gwledydd ar eu rhestr ‘Oren’ neu ‘Goch’.

Y cyngor ar hyn o bryd yw i beidio â theithio oni bai bod rhaid.

Mae pobol hefyd yn cael eu cynghori i wirio a fyddai eu hyswiriant yn ddilys pe baen nhw’n penderfynu anwybyddu’r cyngor, ac yw cwmnïau yn trefnu teithiau i wledydd ar y rhestr ‘Oren’.

“Er nad ydi hi bellach yn anghyfreithlon i deithio, mae CBDC yn cynghori cefnogwyr i wneud dewis ar sail gwybodaeth am deithio i Baku a’r Eidal ar gyfer EWRO 2020 UEFA o ystyried y wybodaeth sydd wedi’i amlinellu uchod, gan na fydd teithio ar gyfer gemau yn cael ei ystyried yn hanfodol,” meddai’r Gymdeithas Bêl-droed mewn datganiad.

“I’r cefnogwyr sy’n parhau’n benderfynol o deithio er gwaetha’r rhybuddion, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn cynghori’n gryf i gefnogwyr wirio os yw eu hyswiriant teithio yn ddilys ac yn addas.”