Bydd tîm pêl-droed Casnewydd yn ceisio efelychu Abertawe ac ennill cymal cyntaf eu gêm ail gyfle yn erbyn Forest Green Rovers heno (nos Fawrth, Mai 18, 8.15yh).

Ac mae tîm Mike Flynn wedi cael hwb ar ôl i’r capten Joss Labadie wella mewn da bryd ar gyfer y gêm ar ôl cael wyth o bwythau yn ei goes.

Roedd pryderon na fyddai ar gael am weddill y tymor ar ôl iddo fe gael anaf i’w ben-glin yn y gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Southend ar Fai 8.

Fe fydd yr amddiffynnwr canol Priestley Farquharson hefyd ar gael ar ôl gwella o anaf i’w ffêr – anaf a allai fod wedi ei weld yntau ar y cyrion am weddill y tymor hefyd.

Mae’n debyg y bydd y rheolwr yn cadw at yr un tîm eto, ar ôl iddyn nhw ennill tair a chael dwy gêm gyfartal yn eu pum gêm olaf yn y gynghrair i gyrraedd y gemau ail gyfle.

O safbwynt yr ymwelwyr, fe fydd y rheolwr dros dro Jimmy Ball wedi cael hwb o glywed y gallai Nicky Cadden, y chwaraewr canol cae, fod yn holliach ar gyfer y gêm.

Mae e wedi gwella o anaf i linyn y gâr ar ôl bod allan ers Ebrill 20 ac os na fydd e’n barod ar gyfer y gêm heno, mae e’n debygol o chwarae yn yr ail gymal.

Ond mae Dan Sweeney, Elliott Whitehouse a Jamille Matt, cyn-chwaraewr Casnewydd, allan am gyfnodau hir.

Mae Forest Green wedi ennill eu dwy gêm ddiwethaf – y naill yn erbyn Tranmere a’r llall yn erbyn Oldham – er eu bod nhw wedi colli chwech allan o’r deg gêm diwethaf.