Steffan Powell fydd cyflwynydd stadiwm y Tân Cymreig ar gyfer y gystadleuaeth griced Can Pelen newydd.

Bydd y tîm dinesig yn chwarae yng Ngerddi Sophia yng Nghaerdydd yn ddiweddarach y tymor hwn.

Yn wreiddiol o Glanaman, mae llais y Cymro Cymraeg yn gyfarwydd i wrandawyr Newsbeat ar Radio 1, ac mae e wedi cyflwyno rhai o raglenni mwya’r BBC, gan gynnwys Proms in the Park a The Gaming Show.

Cafodd ei enwi ar restr y Sefydliad Materion Cymreig o 30 o bobol a fydd yn helpu i siapio dyfodol Cymru.

“Mae Cymru wedi cynnal rhai o’r digwyddiadau chwaraeon gorau yn y byd – o ffeinal Cynghrair y Pencampwyr i Gwpan Ryder, Cwpan Rygbi’r Byd a gemau prawf bythgofiadwy yng Nghyfres y Lludw,” meddai.

“Dw i wedi cyffroi gan y bydd y Can Pelen yn creu rhagor o hanes yn y byd chwaraeon – ac alla i ddim aros i fod yn rhan o’r tîm sy’n dod â hi’n fyw.”

Cerddoriaeth fyw

Yn y cyfamser, daeth cadarnhad hefyd y bydd Rachel K Collier o Abertawe’n perfformio yn y stadiwm yn ystod y gystadleuaeth.

Mae’n un o’r nifer o artistiaid sydd wedi cael budd o’r cynllun BBC Music Introducing.

GRLTLK o Gaerdydd fydd y DJ ar gyfer y tîm, ac fe fyddan nhw’n creu trac sain unigryw ar eu cyfer er mwyn adlewyrchu’r ddinas a’i phobol, y chwaraewyr a’r artistiaid cerddorol sy’n hanu o’r brifddinas.

Fe fydd yn helpu i greu awyrgylch wrth i’r chwaraewyr ddod i’r cae – o’r timau cyfan i’r batwyr wrth iddyn nhw gerdded i’r llain.

Daw hyn wrth i drefnwyr y gystadleuaeth gadarnhau y bydd cerddoriaeth fyw ym mhob gêm, ac y bydd y cyfan yn cael ei ddarlledu ar y BBC a Sky.

Doniau newydd

Fel rhan o ymgais y byd criced i ddenu cynulleidfa newydd i gemau, maen nhw hefyd yn awyddus i feithrin doniau newydd.

Yn ogystal â rhoi cyfle i artistiaid newydd, maen nhw hefyd am weld cyflwynwyr newydd yn cael lle blaenllaw yn y gemau, ac fe fydd un ‘Rising Host’ yn cael y cyfle i gyd-gyflwyno â Steffan Powell yn y stadiwm.

Bydd yr unigolyn hwnnw’n cael ei ddewis ar drothwy’r gystadleuaeth.

“Cerddoriaeth wrth i fi chwarae criced?!” meddai Tom Banton, un o sêr ifainc y Tân Cymreig. “Mae hynny’n swnio fel fy haf delfrydol, a bod yn onest!

“Dw i’n troi at Justin Bieber neu Drake fel artistiaid i wneud i fi deimlo’n dda, felly dw i’n edrych ymlaen at glywed rhai o’u traciau nhw wrth i fi chwarae.”

Beth yw’r Can Pelen?

Bydd y gystadleuaeth ddinesig newydd y dechrau ar Orffennaf 21 ac yn gorffen ar Awst 21.

Mae wyth tîm dinesig newydd wedi’u creu – y Tân Cymreig (Caerdydd), Southern Brave (Southampton), Northern Superchargers (Leeds), London Spirit, Trent Rockets (Nottingham), Oval Invincibles (Llundain), Manchester Originals a Birmingham Phoenix.

Bydd y timau dynion a merched yn cystadlu yn ystod yr un cyfnod.

Y bwriad yw cyfuno adloniant gyda chriced er mwyn denu cynulleidfa newydd, yn blant ac yn fenywod, i wylio’r gamp.

Mae’n fformat newydd sbon ar gyfer y gemau fydd yn para llai na thair awr.

Bydd y ddau dîm yn wynebu can pelen, a’r tîm sy’n cael y nifer fwyaf o rediadau fydd yn ennill.

Bydd y cyfan yn fyw ar Sky Sports a’r BBC.