Hannah McAllister fydd pennaeth nesaf Golff Cymru, gan ddod yn un o’r prif weithredwyr benywaidd cyntaf yn y byd ar gorff llywodraethu golff integredig.

Hi yw Cyfarwyddwr Datblygu’r corff ar hyn o bryd, a bydd hi’n olynu Richard Dixon, fydd yn ymddeol yn yr haf ar ôl 30 mlynedd ar frig y gamp.

Ymunodd Hannah McAllister, sy’n 42 oed ac yn fam i ddau o blant, â Golff Cymru o ganlyniad i gais Cymru 19 mlynedd yn ôl i gynnal Cwpan Ryder, a ddaeth i’r Celtic Manor yng Nghasnewydd yn 2010.

Bu’n ddirprwy brif weithredwr ers tair blynedd yn ogystal ag ymgymryd â rôl y Cyfarwyddwr Datblygu.

O dan ei harweiniad, mae mwy na hanner miliwn o bobol wedi cael budd o gynlluniau Golff Cymru.

Yn ystod y pandemig Covid-19, mae Golff Cymru wedi cydweithio â 99% o glybiau Cymru i oresgyn unrhyw anawsterau a gododd yn sgil y feirws.

“Galla’ i adeiladu ar seiliau cadarn Golff Cymru, ei dyfu a’i ddatblygu ymhellach ac arwain ein tîm sefydledig drwy’r newidiadau a’r heriau sydd o’n blaenau,” meddai.

“Bydda’ i’n ceisio cynnig sefydlogrwydd a chreu cynaladwyedd.

“Mae gennym ni ddiwylliant gwych a dw i wedi cyffroi am y cyfnod sydd i ddod.

“Rydyn ni wedi creu perthynas dda iawn â’n clybiau a’n golffwyr, byddwn ni’n adeiladu ar hynny ac yn ei symud yn ei blaen.

“Felly mae wedi bod yn flwyddyn anodd ond mewn rhai ffyrdd, fu yno fyth amser gwell i gymryd drosodd.

“Dw i’n teimlo bod gen i’r profiad hwnnw – ond mae angen i fi fynd â fe i’r cam nesaf nawr a dw i’n edrych ymlaen yn fawr ato.”

Talu teyrnged i’w rhagflaenydd

Mae Hannah McAllister wedi talu teyrnged i Richard Dixon, oedd wedi arwain y gwaith o uno undebau golff y dynion a’r merched i greu Golff Cymru – a Chymru oedd y wlad gyntaf o blith gwledydd Prydain i wneud hyn.

“Mae angen i Richard fod yn falch,” meddai.

“Mae e wedi creu’r diwylliant gwaith gwych hwn, mae e wedi fy ngalluogi i a staff eraill i ddatblygu ac mae e’n gadael y sefydliad â’i ben yn uchel oherwydd mae e’n gwybod y bydd y sefydliad mewn lle da.

“Fe fu’n daith wych ac rydyn ni wedi bod trwy strategaethau gwahanol hefyd.”