Bydd cefnogwyr yn dychwelyd i Rodney Parade wrth i Gasnewydd herio Forest Green Rovers yng nghymal cyntaf rownd gynderfynol y gemau ail-gyfle heno (nos Fawrth, Mai 18, 8.15yh).
Dim ond gwahaniaeth goliau oedd yn gwahanu’r ddau dîm yn nhabl yr Ail Adran ar ddiwedd y tymor, gyda Chasnewydd yn bumed a Forest Green Rovers yn chweched.
Cafodd y clwb hwb heddiw ar ôl i’r capten Joss Labadie wella mewn da bryd ar gyfer y gêm.
Ond hyd yn oed wedyn, mae un cefnogwr wedi dweud wrth golwg360 ei fod yn “nerfus”.
“Dw i’n eithaf nerfus, ond gobeithio’r eith popeth yn iawn a gallwn ni ennill gartref,” meddai Rob Hyde.
“Dw i’n gyffrous wrth gwrs, mae Forest Green yn dîm eithaf da felly bydd hi’n gêm anodd.
“Ond os chwaraewn ni’n gêm, dw i’n meddwl bod siawns da gennym ni yn erbyn Forest Green.
“Byddai’n beth da iawn i’r clwb pe bawn ni’n gallu cyrraedd League One y tro yma.”
Ychwanegodd fod yr atgofion o’r ymgais yn 2019, pan gollodd Casnewydd yn rownd derfynol y gemau ail-gyfle yn erbyn Tranmere yn “fyw yn y cof”.
Cefnogwyr yn dychwelyd
Bydd 900 o gefnogwyr yn cael mynychu’r gêm, ond bydd yn rhaid iddyn nhw ddilyn canllawiau Covid-19 er mwyn cael gwneud hynny.
Ymhlith y rhain mae:
- gofyn i gefnogwyr beidio â mynychu os oes ganddynt unrhyw symptomau Covid-19.
- rhaid i gefnogwyr wisgo gorchuddion wyneb bob amser oni bai eu bod o dan 12 oed, neu os ydynt wedi’u heithrio.
- rhaid i gefnogwyr ddod â math dilys o ID megis pasbort neu drwydded gyrru at ddibenion Profi ac Olrhain, yn ogystal â’u e-docyn.
- rhaid i gefnogwyr aros yn eich sedd drwy gydol y gêm a dilyn y systemau un ffordd sydd ar waith.
- gofyn i gefnogwyr beidio â dod ag unrhyw fagiau mawr gan y bydd angen eu chwilio, a fydd yn oedi mynediad.
- gatiau’n agor am 6.15yh a byddan nhw’n cau am 8yh. Fydd dim mynediad ar ôl hynny.
Cafodd deiliaid tocynnau tymor a oedd â diddordeb mynd i’r gêm gais i gofrestru eu diddordeb erbyn 6yh ddydd Gwener (Mai 14).
Fodd bynnag, fydd Rob Hyde ddim ymhlith y cefnogwyr yn Rodney Parade.
“Yn anffodus, dim ond newydd gael fy mrechiad cyntaf ydw i felly fydda i ddim yn mynd,” meddai.
“Bydd o’n anodd peidio gallu mynd i’r gêm, ond dw i’n llawn gobaith, a bydd y dorf yn siŵr o fod yn hwb i’r tîm.
“O leiaf dw i’n gallu clywed y dorf o fy nhŷ yng Nghasnewydd!”