Mae manylion cyfres ddogfen am Glwb Pêl-droed Wrecsam wedi cael eu datgelu rai misoedd ar ôl i’r prosiect gael ei grybwyll.

Bydd yr actorion Ryan Reynolds a Rob McElhenney, dau o sêr y byd ffilm Americanaidd sydd bellach yn berchen ar y clwb, yn serennu yn Welcome to Wrexham.

Fe wnaeth y ddau brynu’r clwb ym mis Chwefror, gan fuddsoddi £2m ar unwaith, a bydd Welcome to Wrexham yn gofnod o’r cyfnod hwnnw, gan ddilyn hynt a helynt y clwb dros y ddau dymor nesaf.

Yn ôl neges ar wefan y clwb, mae Nick Grad, llywydd rhaglenni gwreiddiol cwmni FX Entertainment wedi cadarnhau y bydd yna gyfres ddogfen yn edrych ar hanes y clwb, y dref a’r perchnogion newydd wrth iddyn nhw fentro i’r byd pêl-droed.

Bydd Ryan Reynolds, Rob McElhenney, Nick Frenkel a John Henion yn cyd-gyfarwyddo’r gyfres, fydd yn cael ei chynhyrchu gan Broadwalk Pictures, ac mae disgwyl manylion darlledu maes o law.

Bydd Wrecsam, sy’n bumed yn y Gynghrair Genedlaethol ar hyn o bryd, yn herio Notts County ar y Cae Ras heno (nos Fawrth, Mai 18).