Er bod y tymor arferol ar ben yn y Bencampwriaeth a’r is gynghreiriau yn Lloegr, mae gan ambell i Gymro gêm neu ddwy ar ôl yn gemau ail gyfle. Cyfle iddynt hwy a’r rhai sydd yn chwarae yn yr Uwch Gynghrair greu argraff munud olaf wrth i’r Ewros agosáu.

 

*

 

Uwch Gynghrair Lloegr

Mae Danny Ward yn enillydd Cwpan FA. Ar y fainc yr oedd y Cymro wrth i’w dîm guro Chelsea o gôl i ddim ddydd Sadwrn ond mae’n siŵr y caiff fedal gan iddo chwarae yn erbyn Brentford a Brighton yn rowndiau cynnar y gystadleuaeth. Chelsea a oedd gwrthwynebwyr Caerlŷr yn y gynghrair nos Fawrth hefyd ond ar y fainc yr oedd Ward eto wrth i’w dîm golli’r tro hwn.

Roedd hi’n wythnos gymysg i Tyler Robers. Ar ôl rhediad hir o ddechrau gemau, fe gollodd ei le yn nhîm Leeds ar gyfer eu dwy gêm gynghrair wrth i Marcelo Bielsa newid mymryn ar siâp y tîm. Daeth oddi ar y fainc serch hynny am y chwarter awr olaf yn y fuddugoliaeth o bedair gôl i ddim yn erbyn Burnley ddydd Sadwrn a’r fuddugoliaeth o ddwy i ddim yn Southampton nos Fawrth. A Roberts a gafodd yr ail gôl yn erbyn y Seintiau, yn rhwydo ar yr ail gynnig wedi i ergyd Patrick Bamford gael ei harbed, ei gôl gyntaf o’r tymor!

Cymro arall a sgoriodd yr wythnos hon a oedd Hal Robson-Kanu, yn rhoi West Brom ar y blaen yn erbyn Lerpwl ddydd Sul wrth iddo ddechrau ei gêm gynghrair gyntaf o’r tymor. Tarodd Lerpwl yn ôl i ennill o ddwy gôl i un, gyda Neco Williams a Ben Woodburn yn gwylio o’r fainc.

Tyler Roberts a Hal Robson-Kanu

Ar y fainc yr oedd Wayne Hennessey a Neil Taylor hefyd wrth i Crystal Palace groesawu Aston Villa i Selhurst Park ddydd Sul. Stori gyfarwydd iawn i Taylor ond digwyddiad prin iawn i Hennessey, sydd bellach yn drydydd dewis yn y gôl i Palace.

Roedd newyddion da gan Dan James oddi ar y cae’r wythnos hon wrth iddo gyhoeddi ei fod ef a’i bartner, Ria, yn disgwyl bachgen bach ym mis Medi. Mae’r asgellwr yn parhau i fod wedi ei anafu ac nid oedd yng ngharfan Man U ar gyfer y gêm gyfartal yn erbyn Fulham nos Fawrth.

Mae disgwyl i James fod yn ôl yn ffit yn fuan ond ni ellir dweud yr un peth am Ethan Ampadu a Ben Davies. Cyhoeddwyd yr wythnos hon fod anafiadau’r ddau amddiffynnwr yn mynd i’w cadw allan am weddill tymor eu clybiau, o leiaf.

Un arall, fel Davies, sydd yn absennol o garfan Tottenham ar hyn o bryd yw Joe Rodon ond nid oes awgrym mai anaf yw’r rheswm am hynny. Fe wnaeth Gareth Bale chwarae ym muddugoliaeth Spurs yn erbyn Wolves ddydd Sul, gan greu’r ail o ddwy gôl ei dîm, i Pierre-Emile Højbjerg.

 

*

 

Y gemau ail gyfle

Mae gan Abertawe un droed yn Wembley wedi iddynt guro Barnsley yng nghymal cyntaf rownd gynderfynol gemau ail gyfle’r Bencampwriaeth yn Oakwell nos Lun.

Un gôl i ddim a oedd hi gyda Ben Cabango yn chwarae’i ran yn y llechen lân, yn dechrau yng nghanol yr amddiffyn. Nid oedd lle i Connor Roberts serch hynny, wrth i Kyle Naughton gae ei ffafrio ar y dde o bedwar yn y cefn. Un sydd yn elwa o’r system 4-3-3 honno yw’r blaenwr, Liam Cullen, a dechreuodd y Cymro ifanc yn y llinell flaen eto yn y gêm holl bwysig hon.

Mae’r ail gymal ddydd Sadwrn a bydd yr enillwyr yn wynebu Bournemouth neu Brentford yn y rownd derfynol. Mae Bournemouth un gôl i ddim ar y blaen o’r cymal cyntaf yn Dean Court, gôl a gafodd ei chreu yn gelfydd i Arnaut Danjuma gan David Brooks. Cafodd Chris Mepham ymddangosiad prin hefyd, yn dod i’r cae fel eilydd yn hwyr yn yr hanner cyntaf yn dilyn anaf i’r capten, Steve Cook. Roedd yn edrych yn anaf cas hefyd felly mae’n debyg y bydd Mepham yn dechrau’r ail gymal.

David Brooks

Mae Blackpool mewn llwyr reolaeth o’u gêm gynderfynol yng ngemau ail gyfle’r Adran Gyntaf. Maent dair gôl i ddim ar y blaen ar ôl y cymal cyntaf yn Rhydychen nos Fawrth wedi llechen lân arall gan Chris Maxwell.

Bydd Lincoln Regan Poole a Brennan Johnson yn herio Sunderland yn y rownd gynderfynol arall nos Fercher.

Mae Casnewydd mewn sefyllfa gref yn eu rownd gynderfynol hwy yn yr Ail Adran, ddwy gôl i ddim ar y blaen yn erbyn Forest Green Rovers yn dilyn y cymal cyntaf ar Rodney Parade nos Fawrth. Ac roedd y Cymry yn ei chanol hi hefyd; Josh Sheehan a greodd gôl gyntaf wych Matt Dolan cyn i’r bechgyn ifanc gyfuno ar gyfer yr ail, Aaron Lewis yn creu a Lewis Collins yn gorffen yn daclus.

Chwaraeodd Tom King a Liam Shephard eu rhan yn y gôl a’r amddiffyn hefyd wrth i’r Alltudion ddal eu gafael am lechen lân holl bwysig yn y cefn.

Nid oedd hi’n noson gystal i’r unig Gymro yn nhîm Forest Green wrth i Aaron Collins fethu cyfle da i unioni’r sgôr eiliadau cyn i’w frawd, Lewis, ddyblu mantais Casnewydd!

 

*

 

Yr Alban a thu hwnt

Daeth tymor Aberdeen yn Uwch Gynghrair yr Alban i ben gyda chrasfa yn erbyn Rangers ar y Sadwrn olaf. Pedair gôl i ddim a oedd hi gyda Ryan Hedges yn chwarae’r rhan fwyaf o’r gêm. Diwedd siomedig i dymor eithaf da i Hedges, er i’r ail hanner gael ei amharu gan anaf.

Nid oedd Ash Taylor yn y garfan oherwydd anaf, gan olygu ei fod wedi chwarae’i gêm olaf i’r Cochion. Cadarnhawyd yr wythnos hon na fydd yr amddiffynnwr, sydd allan o gytundeb, yn cael cynnig un newydd.

Daeth Christian Doidge oddi ar y fainc am yr ugain munud olaf wrth i Hibs orffen eu tymor yn y gynghrair gyda gêm gyfartal ddi sgôr yn erbyn Celtic. Gall hynny fod yn arwydd da i’r Cymro gan i sawl chwaraewr rheolaidd gael eu gorffwyso ar gyfer y gêm hon gyda golwg ar rownd derfynol Cwpan yr Alban yn erbyn St Johnstone ddydd Sadwrn.

Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Aaron Ramsey mewn gêm gyffrous yn erbyn y pencampwyr, Inter, yn Serie A nos Sadwrn. Enillodd yr Hen Wreigan o dair gôl i ddwy i gadw’i gobeithion o orffen yn y pedwar uchaf yn fyw. Mae Juve angen gwell canlyniad na Milan neu Lazio wrth iddynt deithio i Bologna ar y Sul olaf i sicrhau lle yng Nghynghrair y Pencampwyr y tymor nesaf.

Cyn hynny, maent yn wynebu Atalanta yn rownd derfynol y Coppa Italia nos Fercher felly siawns y bydd munudau i Rambo yn un o’r gemau pwysig hynny dros y dyddiau nesaf.

Mae tymor James Lawrence gyda’i glwb ar ben wedi iddo gael ei anfon oddi ar y cae yng ngêm olaf ond un St. Pauli yn y 2. Bundesliga ddydd Sul. Derbyniodd yr amddiffynnwr, sydd wedi cael ail hanner cryf i’r tymor, ddau gerdyn melyn yn y golled o ddwy gôl i un yn erbyn Hannover 96.

Nid oedd Robbie Burton yng ngharfan Dinamo Zagreb na Dylan Levitt yng ngharfan NK Istra ar gyfer gemau cynghrair eu timau dros y penwythnos a go brin y bydd y naill na’r llall yn agos at yr un ar ddeg cychwynnol wrth i’r ddau dîm wynebu ei gilydd yn rownd derfynol Cwpan Croatia nos Fercher.

 

*

 

Gwilym Dwyfor