Mae tafarndai, bwytai, a chaffis yng Nghymru wedi cael ailagor tu mewn heddiw (Mai 17), wrth i Gymru symud at Lefel Rhybudd 2.

Dyma’r tro cyntaf i’r sector lletygarwch gael ailagor tu mewn ers mis Rhagfyr, ac mae rheolwyr a pherchnogion wedi dweud wrth golwg360 eu bod nhw wrth eu boddau.

Mae gan chwe pherson o chwe aelwyd wahanol hawl i gyfarfod ac eistedd gyda’i gilydd tu mewn, ac mae lleoliadau adloniant megis sinemâu a theatrau yn cael ailagor hefyd.

‘Methu gofyn am well’

Absolutely ecstatic!” meddai Nia Williams, rheolwraig La Marina yn y Felinheli, wrth ddweud sut mae hi’n teimlo am ailagor.

“Rydyn ni reit llawn ar gyfer y penwythnos nesaf yma, ac mae hi’n llenwi ar gyfer gweddill yr wythnos hefyd.

“Mae hi wedi bod yn fantastic ar gyfer amser cinio heddiw, a fedra i’m gofyn am well.

“Roedd o’n lyfli,” cael gweld pobol eto meddai Nia Williams.

“Roedd yna atmosffer hollol lyfli yma amser cinio, pawb mor hapus yn dod mewn i fwyta. Roedd o’n amazing.

“Mae gennym ni le tu allan hefyd, ac roedd rhaid ni weithio allan y logisitics ar gyfer sut i wneud ein gwaith eto.

“Ond rydyn ni’n dda am be yda ni’n ei wneud, mae’r chef yn dda am be mae o’n ei wneud… dw i’n gwybod y byddwn ni’n iawn efo’r ochr yna!

“Mae o wedi bod yn amser hir, caled, a dw i just yn falch ein bod ni’n cael agor yn ôl.”

“Anhygoel gweld hen wynebau”

“Rydyn ni wedi cyffroi, wrth ein boddau i fod yn ôl ar agor,” meddai Diane Harrison, o gaffi’r Eating Gorilla ym Mhenrhyndeudraeth.

“Mae hi wedi bod yn weddol brysur heddiw, ddim yn hurt o brysur. Bydd pobol ychydig yn betrus am ddod yn ôl allan eto, dw i’n meddwl.

“Ond rydyn ni wedi cael digon o gefnogaeth,” esboniodd wrth golwg360.

“Dw i ychydig bach yn betrus, mae e’n dipyn o gyfrifoldeb gwneud yn siŵr ein bod ni’n cadw at bob rheol a chasglu’r holl wybodaeth yn iawn.

“Mae e’n anhygoel gweld hen wynebau’n ôl eto, ac mae lot o bobol yn dweud mai dyma’r tro cyntaf iddyn nhw ddod allan eto felly mae’n neis iddyn nhw ddod i gael coffi neu gael sgwrs a gweld pobol eraill.”

“Neis” dod yn ôl i drefn

“Wedi cyffroi, rhyddhad, mae’n neis bod yn ôl mewn rwtîn arferol,” meddai Iain Blair, landlord tafarn y Ship & Castle yn Aberystwyth, wrth golwg360.

“Mae hi’n eithaf prysur, dw i wedi cael lot o bobol yn galw ar y ffôn isie bwcio byrddau – mae’n dda.

“Roedd yna ychydig bach o nerfau, ond gobeithio fod popeth yn gweithio’n iawn eto. Mae popeth yn hyd yn hyn!”

“Diwrnod mawr”

Un o’r rhai cyntaf i fanteisio ar y llacio mewn rheolau oedd Stephen a Sandra Foley, a deithiodd o’u cartref ym Mhen-y-bont ar Ogwr i Gaerdydd er mwyn mynd i’w hoff gaffi, sef Coffee Barker yn y brifddinas.

“Roedden ni eisiau dathlu’r diwrnod cyntaf yn ein hoff le,” meddai Stephen Foley, sy’n 72.

“Ar ôl hyn, byddwn ni’n mynd i’n hoff lefydd eraill ym Mhen-y-bont ar Ogwr am ginio. Rydyn ni’n gwneud diwrnod ohoni.

“Mae’n ddiwrnod mawr. Rydyn ni wedi bod yn aros amser hir nes bydd popeth yn agor eto.”

Cymryd bob dydd fel mae’n dod

Dywedodd Jeff Richards, sy’n rhedeg tafarn y Borough yng Nghaerdydd, ei fod yn hapus cael ailagor eto, ond ei fod am i Mark Drakeford ymroi i gael gwared ar reoliadau ymbellhau cymdeithasol erbyn canol Mehefin, yr un pryd â chynlluniau Lloegr.

“Pam wnawn nhw ddim gwneud e efo’i gilydd? Masgiau i ffwrdd, cael gwared ar ymbellhau cymdeithasol, gadael i bobol benderfynu eu hunain.

“Ond mae’n dda iawn ein bod ni’n gallu cael bwrdd o chwech nawr. Dw i’n gobeithio bydd y tywydd yn aros yn ffafriol fel bod pobol eisiau dod i’r dre.

“Byddwn ni’n brysur iawn dros y penwythnos, os yw’r tywydd yn iawn. Ond fe wnawn ni gymryd bob dydd fel mae’n dod.”

Busnesau yn galw am eglurder ar ddyddiad gorffen ymbellhau cymdeithasol

“Mae pryder ynghylch pa mor hir y gallwn fodoli ar y capasiti is hwn,” meddai rheolwr rhaglen sinema y Chapter

Cymru’n symud i rybudd lefel dau

Ailagor gwasanaeth dan do ar gyfer tafarndai, bwytai, bariau a chaffis