Bu farw menyw oedrannus ar ôl dioddef diffyg hylif, diffyg maeth a briwiau pwyso yn ystod ei phedwar mis mewn cartref nyrsio, clywodd cwest.
Bu farw Dorothea Hale, 75, a oedd wedi dioddef strôc ac a oedd yn gaeth i wely neu gadair, yn yr ysbyty wythnosau ar ôl cael ei derbyn yno o gartref nyrsio Grosvenor House yn Abertyleri, Sir Fynwy.
Roedd Mrs Hale yn breswylydd yn y cartref nyrsio o fis Gorffennaf tan fis Tachwedd 2006 pan gafodd ei throsglwyddo i’r ysbyty.
Cofnododd staff nyrsio fod y fam-gu yn dioddef o ddiffyg maeth, dadhydradu, a briwiau pwyso.
‘Operation Jasmine’
Clywodd Llys Crwner Gwent yng Nghasnewydd fod Mrs Hale wedi marw ym mis Ionawr 2007 a chafodd ei marwolaeth sylw yn ymgyrch ‘Operation Jasmine’ – sef ymchwiliad gan yr heddlu i esgeuluso trigolion oedrannus mewn sawl cartref gofal yn y De.
Bu i’r ymchwiliad barhau am bron i ddegawd a chostio dros £11 miliwn gyda ditectifs yn edrych ar 63 o farwolaethau.
Clywodd y cwest fod Mrs Hale wedi cael diagnosis o gyflwr ar y galon a’i bod wedi cael llawdriniaeth ym mis Mawrth 2006.
Dioddefodd ddwy strôc yn ddiweddarach, gan barlysu ei hochr chwith, a’i gadael yn angen gofal nyrsio llawn amser.
Roedd gan Mrs Hale system fwydo wedi’i gosod gan ei bod yn ei chael hi’n anodd llyncu, ac ym mis Gorffennaf symudodd i Grosvenor House.
Mae nodiadau a wnaed gan staff nyrsio yn yr ysbyty cyn ei throsglwyddo yn cofnodi bod y fam i ddau yn cael ei throi’n rheolaidd bob tair neu bedair awr ac nad oedd ganddi, bryd hynny, unrhyw ddoluriau pwyso.
Colli pwysau
Dywedodd Catherine Cawte, merch Mrs Hale, wrth y cwest nad oedd hi wedi sylweddoli ar y dechrau faint o bwysau roedd ei mam wedi’i golli ar ôl symud i’r cartref nyrsio.
“Byddwn i’n dweud pan oedden ni yno … roedd hi’n bwyta. Doeddwn i ddim yn poeni ei bod hi’n diflannu o flaen ein llygaid tan yr wythnos ddiwethaf honno,” meddai.
“Ni fyddwn wedi dweud ei bod yn dioddef o ddiffyg maeth oherwydd yr ychwanegion a’r bwyd yr oedd fy nhad [yn ei roi iddi].”
Dywedodd bod ei mam … yn cwyno am gael pen-ôl tost ond nad oedd yn sôn am friwiau pwyso.
Dywedodd Mrs Cawte, sy’n nyrs, wrth y cwest bod ei mam yn agos at farwolaeth pan gafodd ei derbyn i’r ysbyty o’r cartref ym mis Tachwedd 2006.
“Beth wnaethon nhw i’ch mam yn y cartref gofal??”
“Dwi’n gallu cofio bod yno gyda fy nhad a’m brawd ac aros am beth amser a dw i’n cofio nyrs yn dod i mewn i’n gweld ni a dweud geiriau fel: ‘O Duw, beth wnaethon nhw i’ch mam yn y cartref gofal?? Mae ganddi friwiau pwyso ac mae ei thiwb bwydo yn fudr ac wedi’i flocio.’
“Rwy’n cofio … [rhywun yn dweud] na fyddai mam yn para’r penwythnos oherwydd ei bod mewn iechyd mor wael.
“Fe’n hysbyswyd ei bod wedi dadhydradu’n ddifrifol ac yn dioddef o ddiffyg maeth difrifol. Dyna’r tro cyntaf i ni glywed am y briwiau pwyso.”
Mewn datganiad ysgrifenedig dywedodd gŵr Mrs Hale, Laurence, fod ei wraig wedi’i derbyn i’r ysbyty ar 18 Tachwedd gan fod ei hiechyd yn gwaethygu.
“Allan o’m rheolaeth”
“Fe’n hysbyswyd ei bod mewn cyflwr cyffredinol gwael a bod briwiau pwyso mawr ar ei chefn – doedd gennym ni ddim gwybodaeth flaenorol am hynny,” meddai Mr Hale, sydd wedi marw ers hynny.
“Ar ol i Dorothea ddioddef y strôc roeddwn i’n ymwybodol nad oedd hi byth yn mynd i wella. Cafodd ei pharlysu i lawr ei hochr chwith ac ni lwyddodd i droi ei hun na gwneud symudiadau rheolaidd o ddydd i ddydd.
“Roedd hi’n ei chael hi’n anodd iawn cyfathrebu ac nid oedd yn gallu cynnal sgwrs.
“Doedd gen i ddim profiad blaenorol o’r proffesiwn gofal ac roedd popeth allan o’m rheolaeth a dilynais y cyngor a roddwyd i mi ar bob cam.”
Yn gynharach eleni, canfu crwner fod esgeulustod wedi cyfrannu at farwolaethau pum preswylydd yng nghartref nyrsio Brithdir, yn Nhredegar Newydd, a gafodd sylw yn ‘Operation Jasmine’, gallwch ddarllen mwy am hynny isod.