Mae pedwar dyn a gafodd eu harestio ar amheuaeth o weiddi sylwadau gwrth-Semitaidd drwy ffenest car yng ngogledd Llundain wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth.

Cafodd digwyddiad ei ffilmio lle’r oedd nifer o geir yn teithio gyda’i gilydd yn ardal St. John’s Wood, ac yn chwifio baneri Palesteina.

Roedd y pedwar wedi’u harestio ar amheuaeth o drosedd yn erbyn y drefn gyhoeddus oedd â chymhelliant hiliol.

Dywed Heddlu Llundain fod y pedwar wedi cael eu harestio ar amheuaeth o drosedd debyg yn Salford fore Sul (Mai 16).

Mae’r heddlu’n parhau i gynnal ymchwiliad i’r digwyddiad.