Fe fu mwy na 25m o achosion o Covid-19 yn India ers dechrau’r pandemig, yn ôl ffigurau’r wlad.

Fe fu 4,329 o farwolaethau a thros 260,000 o achosion newydd o’r feirws ers ddoe (dydd Llun, Mai 17).

Ond mae’r niferoedd yn dechrau gostwng yn raddol – roedd nifer yr achosion newydd o dan 300,000 am y tro cyntaf ddoe.

Ond mae nifer y marwolaethau’n parhau i gynyddu ac mae ysbytai yn dal o dan gryn bwysau o ganlyniad i’r sefyllfa.

Fe fu bron i 280,000 o bobol farw yn y wlad ers dechrau’r pandemig, ac mae arbenigwyr yn rhybuddio bod y niferoedd gwirioneddol yn debygol o fod yn sylweddol uwch na’r hyn sydd wedi’i gofnodi.

Amrywiolion sy’n cael y bai am y niferoedd uchel ers mis Chwefror, yn ogystal â phenderfyniad y llywodraeth i roi’r hawl i dorfeydd mawr ddod ynghyd ar gyfer gwyliau crefyddol a ralïau gwleidyddol.

Mae nifer yr achosion wedi mwy na threblu yn ystod y mis diwethaf, ac fe fu chwe gwaith y nifer o farwolaethau, ond dim ond 1.6 yn fwy o brofion sydd wedi cael eu cynnal yn ystod y cyfnod hwn.

Yn ôl llywodraeth India, fe fydd 17 o ganolfannau newydd yn cael eu sefydlu er mwyn olrhain yr amrywiolion newydd.

Ond daw hyn wrth i gyfradd frechu’r wlad ostwng yn sylweddol, gyda nifer o daleithiau’n dweud nad oes ganddyn nhw ddigon o gyflenwadau i bawb.

Yn nhalaith Karnataka, mae’r awdurdodau wedi ymateb i’r prinder drwy atal y broses o frechu pobol rhwng 18 a 44 oed am y tro.