Mae Joe Biden, Arlywydd yr Unol Daleithiau, wedi mynegi cefnogaeth i ddod â’r gwrthdaro rhwng Israel a milwyr Hamas i ben, a hynny yn ystod sgwrs ffôn â Benjamin Netanyahu, prif weinidog Israel.

Fodd bynnag, wnaeth e ddim gorchymyn bod y trais yn dod i ben ar unwaith.

Daw hyn yn dilyn wyth diwrnod o ymosodiadau o’r awyr gan Israel a Hamas, sydd wedi bod yn saethu rocedi sydd wedi lladd dros 200 o bobol, y rhan fwyaf ohonyn nhw’n Balestiniaid.

Roedd datganiad Joe Biden wedi’i eirio’n ofalus gyda’r weinyddiaeth o dan bwysau i ymateb yn fwy grymus, er gwaethaf eu penderfyniad i symud ffocws polisi tramor yr Unol Daleithiau oddi wrth wrthdaro yn y Dwyrain Canol.

Dywed y Tŷ Gwyn fod Joe Biden wedi “annog Israel i wneud pob ymdrech i sicrhau bod pobol ddiniwed yn cael eu hamddiffyn”.

Er bod cynorthwywyr blaenllaw’r arlywydd yn ofidus am y cynnydd mewn trais a marwolaethau pobol ddiniwed, mae’r penderfyniad i beidio gorchymyn bod y trais yn dod i ben ar unwaith yn adlewyrchu penderfyniad yr Unol Daleithiau i gefnogi hawl Israel i amddiffyn ei hun.

Ddydd Llun (Mai 17), dywedodd Benjamin Netanyahu wrth swyddogion diogelwch Israel y byddai’r wlad yn parhau i “saethu at dargedau” yn Gaza “cyn belled â bod angen er mwyn tawelu meddyliau a diogelu holl ddinasyddion Israel”.

Wrth i’r ymladd gwaethaf rhwng Israel a Phalesteina ers 2014 barhau, mae gweinyddiaeth Joe Biden wedi gwrthod anfon cennad lefel uchaf i’r rhanbarth.

Mae hefyd wedi gwrthod pwyso ar Israel yn gyhoeddus ac yn uniongyrchol i ddod a’i gweithrediad milwrol diweddaraf i ben yn Llain Gaza, tiriogaeth chwe milltir wrth 25 milltir sy’n gartref i fwy na dwy filiwn o bobol.

Dydy’r trafodaethau rhwng Israel a Phalesteina yn yr Aifft ddim wedi gweld unrhyw gynnydd hyd yma chwaith.

Ar wahân i hynny, ddoe (dydd Llun, Mai 17), fe wnaeth yr Unol Daleithiau rwystro am y trydydd tro yr hyn a fyddai wedi bod yn ddatganiad unfrydol gan Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig yn mynegi “pryder difrifol” ynghylch y gwrthdaro’n dwysáu rhwng Israel a Palesteiniaid a cholli bywydau dinasyddion.

Dywedodd Jen Psaki, ysgrifennydd y wasg y Tŷ Gwyn, a’r cynghorydd diogelwch cenedlaethol Jake Sullivan fod yr Unol Daleithiau yn canolbwyntio, yn hytrach, ar “ddiplomyddiaeth dawel, ddwys”.