Roedd cyfraddau diweithdra Cymru’n is na chyfraddau’r Deyrnas Unedig rhwng mis Ionawr a mis Mawrth eleni.

Mae ffigurau diweddara’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod 68,000 o bobol yn ddi-waith yng Nghymru, sy’n cyfateb i 4.4% o bobol dros 16 oed.

Mae hynny 1,000 yn uwch na’r tri mis blaenorol, ond 19,000 yn fwy na thri mis cyntaf 2020 cyn i’r pandemig daro.

Fodd bynnag, roedd cyfraddau diweithdra’r Deyrnas Unedig yn yr un cyfnod yn 4.8%.

Mae’r ffigurau hefyd yn dangos cwymp o 34,000 yn nifer y bobol nad ydyn nhw’n gweithio ac yn methu â gweithio.

Gallai hynny fod yn gyfrifol am y ffaith fod nifer y bobol sydd wedi’u cyflogi wedi codi 26,000 yng Nghymru rhwng mis Ionawr a mis Mawrth na thri mis ynghynt, ond hefyd am y ffaith nad oes newid sylweddol wedi bod mewn diweithdra.