Mae pleidiau Esquerra a Junts per Catalunya wedi dod i gytundeb er mwyn ffurfio llywodraeth yng Nghatalwnia.

Daw hyn fwy na thri mis ar ôl yr etholiad cyffredinol.

Bydd yn cael ei harwain gan Pere Aragonès, yr arlywydd dros dro ers mis Medi y llynedd.

Un o brif flaenoriaethau’r llywodraeth newydd fydd hunanlywodraeth ac amnest i’r rhai sydd wedi’u carcharu ac sy’n alltud yn sgil eu rhan yn yr ymgyrch tros annibyniaeth.

Mae’r weinyddiaeth wedi ymddiheuro am yr oedi cyn dod i gytundeb, ond maen nhw’n dweud eu bod nhw am ganolbwyntio ar y dyfodol ac nid y gorffennol.

Bydd 14 o weinidogion yn y llywodraeth newydd – saith o bob plaid – ac mae swyddi newydd wedi’u creu ar gyfer Ffeministiaeth a Gweithredu ar yr Hinsawdd.

Bydd Esquerra yn gyfrifol am Addysg, Materion Mewnol a’r Diwyllint, tra bydd Junts per Catalunya yn mynd i’r afael â Iechyd, yr Economi a Materion Tramor.

Ond mae’r gwrthbleidiau’n rhybuddio y bydd y llywodraeth newydd yr un mor ansefydlog â’r un flaenorol.

Beth fydd y blaenoriaethau eraill?

Bydd yr awdurdodau iechyd yn cynnal adolygiad dros yr wythnosau nesaf i benderfynu a fydd hi’n orfodol i bobol barhau i wisgo mygydau.

Byddan nhw’n asesu effaith llacio’r rheol mewn gwledydd eraill cyn penderfynu a fydd y rheol yn aros.

Bydd y llywodraeth newydd yn gobeithio adeiladu ar y cynnydd o 10% mewn allforion yn ystod chwarter cynta’r llynedd, gyda’r diwydiant cemegol yn perfformio’n well na’r un diwydiant arall.

Bydd datblygu pêl-droed i ferched hefyd ar agenda’r llywodraeth, a hynny yn dilyn llwyddiant tîm merched Barcelona enillodd y tlws Cynghrair y Pencampwyr cyntaf erioed i ferched.

Baner Catalwnia

Mwy na 1,200 o bobol yn dod ynghyd yn Barcelona i alw am ffurfio llywodraeth o blaid annibyniaeth

Enillodd pleidiau o blaid annibyniaeth 52% o bleidleisiau yn yr etholiad fis Chwefror