Mae Adam Price yn galw ar Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, i anfon “y sylwadau cryfaf posib” at Boris Johnson, prif weinidog Prydain, am yr angen i weithredu er mwyn helpu i atal y gwrthdaro rhwng Israel a Phalesteina.
Daw sylwadau arweinydd Plaid Cymru wrth i Joe Biden, Arlywydd yr Unol Daleithiau, alw ar Benjamin Netanyahu, prif weinidog Israel, i ddod â’r gwrthdaro i ben.
Daw hyn yn dilyn wyth diwrnod o ymosodiadau o’r awyr gan Israel a Hamas, sydd wedi bod yn saethu rocedi sydd wedi lladd dros 200 o bobol, y rhan fwyaf ohonyn nhw’n Balestiniaid.
Ddoe (dydd Llun, Mai 17), dywedodd Benjamin Netanyahu wrth swyddogion diogelwch Israel y byddai’r wlad yn parhau i “saethu at dargedau” yn Gaza “cyn belled â bod angen er mwyn tawelu meddyliau a diogelu holl ddinasyddion Israel”.
Wrth i’r ymladd gwaethaf rhwng Israel a Phalesteina ers 2014 barhau, mae gweinyddiaeth Joe Biden wedi gwrthod anfon cennad lefel uchaf i’r rhanbarth.
Mae hefyd wedi gwrthod pwyso ar Israel yn gyhoeddus ac yn uniongyrchol i ddod a’i gweithrediad milwrol diweddaraf i ben yn Llain Gaza, tiriogaeth chwe milltir wrth 25 milltir sy’n gartref i fwy na dwy filiwn o bobol.
Dydy’r trafodaethau rhwng Israel a Phalesteina yn yr Aifft ddim wedi gweld unrhyw gynnydd hyd yma chwaith.
Cefnogaeth ‘gyson a di-ildio’
“Mae gan Blaid Cymru draddodiad maith a balch o gynnal hawliau pobol a chenhedloedd gorthrymedig ledled y byd a buom yn gyson a di-ildio ein cefnogaeth i hawliau dynol a sifil y Palestiniaid,” meddai Adam Price mewn datganiad.
“Fel y dangosodd y protestiadau gan filoedd o bobol dros y penwythnos, mae pobol yng Nghymru wedi arswydo o weld y trais yn cynyddu a chymaint o bobol ddiniwed yn y rhanbarth yn marw.
“Mae Plaid Cymru’n pryderu’n ddwys am weithredoedd llywodraeth Israel dros y dyddiau diwethaf.
“Anogwn y gymuned ryngwladol i ddod ynghyd i fynnu cadoediad ac i drafod terfyn i feddiannu’r Lan Orllewinol a’r blocâd ar Gaza.
“Rhaid rhoi terfyn yn syth ar y troi allan anghyfreithlon yn Sheikh Jarrah.
“Rydym yn condemnio pob trais a mynegwn ein cydymdeimlad dwysaf â theuluoedd y cannoedd a laddwyd neu a anafwyd gan luoedd Israel a Hamas.
“Galwn ar y prif weinidog i anfon y sylwadau cryfaf posib at brif weinidog y Deyrnas Gyfunol i fynnu camau i roi terfyn ar y trais a sicrhau heddwch parhaol.”