Mae Cyngor Tref Nefyn yn gwahodd Cynghorau ar draws y gorllewin i ddod ynghyd er mwyn datrys yr argyfwng ail gartrefi.

Er mwyn ceisio mynd i’r afael â’r sefyllfa, mae’r Cyngor wedi ysgrifennu at Gynghorau Sir, Tref a Chymuned y gorllewin er mwyn pwyso ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar fesurau i reoli pryniannau.

Mae ardal Nefyn wedi gweld tai yn gwerthu am “grocbris” yn ôl y llythyr, ac mae tua 30% o’r stoc dai yn ail gartrefi.

“Cwbl annerbyniol”

Yn ôl y Cyngor Tref, maen nhw’n gweld erydiad yr iaith Gymraeg, a dydyn nhw ddim yn rhagweld dyfodol i’r gymuned fel cymuned fyw wrth i genhedlaeth o bobol ifanc gael eu prisio allan o’r gymuned.

“Mae’n sefyllfa gwbl annerbyniol, ac mae dyletswydd arnom i sicrhau fod cenedlaethau’r dyfodol yn gallu cael yr ‘Hawl i Fyw Adra’ yn eu bro,” meddai’r llythyr.

“Hyd yma, nid oes rheoliadau na chyfyngiadau i warchod cymunedau rhag gormodedd o ail gartrefi.

“Mae’n rhaid deddfu er mwyn i’n cymunedau oroesi.

“Dychmygwch petaen ni yn llwyddo i berswadio’r Llywodraeth i warchod ein cymunedau, ein cyfoeth diwylliannol ac i flaenoriaethu pobol sy’n ceisio prynu eu hunig gartref dros bobol sy’n prynu cartref ychwanegol.

“Pe baem yn llwyddo, byddem yn gosod esiampl byd eang ac yn dangos ein bod yn genedl foesol ac egwyddorol.”

Gweithredu

Hyd yn hyn, mae Cyngor Tref Nefyn wedi gweithredu drwy lythyru Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Gwynedd, ac annog y Llywodraeth i weithredu ar yr adroddiad Ail Gartrefi – Datblygu Polisïau.

Roedd yr adroddiad yn argymell gosod cyfyngiadau ar nifer yr ail gartrefi sydd ymhob cymuned, a datganoli treth tir fel bod cyfraddau gwahanol ar gyfer cymunedau sydd â gormodedd o ail gartrefi.

Ynghyd â’r llythyr, mae Cyngor Tref Nefyn wedi cerdded 20 milltir o Nefyn i Gaernarfon er mwyn galw ar y Llywodraeth i ddatganoli pwerau i’r Siroedd.

Mae’r Cyngor eisoes wedi cynnal protest yn Nefyn mis yma, ac wedi gyrru llythyr at Mark Drakeford yn dilyn yr etholiad yn galw ar y Llywodraeth i wireddu’r addewid a roddodd iddyn nhw yn ystod cyfarfod ym mis Tachwedd.

Bryd hynny, dywedodd y byddai’n paratoi pecyn parod o fesurau i’w gweithredu gan y Llywodraeth nesaf.

Ar ôl cael ei enwebu gan y Senedd yn Brif Weinidog yr wythnos ddiwethaf, dywedodd Mark Drakeford y byddai’n mynd i’r afael â’r ffaith fod pobol yn cael eu prisio allan o gymunedau Cymraeg.

“Salwch Tai Gwledig Cymru”

Sian Williams

“Mae hwn yn fater i ni i gyd sy’n byw yn yr ardal, beth bynnag yw eich cefndir gwleidyddol”