Mae Amgueddfa Cymru yn paratoi i ailagor drysau eu saith amgueddfa yfory (dydd Mercher, Mai 19).
Daw hyn ar ôl blwyddyn heriol yn sgil pandemig y coronafeirws sydd wedi cyfyngu ar allu’r amgueddfeydd i weithredu.
Mae saith amgueddfa yn rhan o Amgueddfa Cymru, sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Big Pit, Amgueddfa Lechi Cymru, Amgueddfa Wlân Cymru ac Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru.
“Mae Sain Ffagan a’r Amgueddfa Lechi wedi bod ar agor y tu allan dros yr wythnosau diwethaf ond bydd hi’n wych cael ymwelwyr yn ôl i mewn yn y gofodau i fwynhau’r amgueddfa eto,” eglura Nia Williams, Cyfarwyddwr Addysg a Rhaglenni Cyhoeddus Amgueddfa Cymru wrth golwg360.
“Mae pethau wrth gwrs yn wahanol ac mae yno fesurau diogelwch i sicrhau bod pawb yn mwynhau’r ymweliad yn ddiogel ar draws y saith amgueddfa.”
Cynnal gweithdai a digwyddiadau ar-lein yn y cyfnod clo
Er i’r cyfnod clo gael effaith ar weithredoedd Amgueddfa Cymru, dywed Nia Williams eu bod wedi llwyddo i addasu er mwy parhau i gynnal gweithdai a digwyddiadau ar-lein.
“R’yn ni i gyd, dw i’n credu, wedi wynebu heriau digynsail, ond er ein bod ni wedi bod ar gau, rydyn ni wedi medru cefnogi miloedd lawer o bobol mewn cymunedau ledled Cymru drwy ymgysylltu â’n hamgueddfeydd ni yn ddigidol ac ar-lein.
“Ry’n ni wedi parhau i gynnal gweithdai i ysgolion er enghraifft o’n hamgueddfeydd ni yn ddigidol.
“Mae’n rhaglenni ni wedi bod yn parhau ar-lein, mae nifer o ddigwyddiadau wedi bod yn hynod o boblogaidd.
“O’n ni byth yn meddwl blwyddyn yn ôl… roeddwn i’n arfer gwneud sesiynau cysgu dros nos yn yr amgueddfa ac ry’n ni wedi symud y rheina ar-lein ac maen nhw wedi bod yn ofnadwy o boblogaidd – mae un gyda ni’r penwythnos yma fydd yn canolbwyntio ar fyd natur.
“Ry’n ni hefyd wedi medru cefnogi’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn ystod y cyfnod hwn drwy gael copïau o’r casgliad celf genedlaethol wedi’i arddangos mewn ysbytai maes.
“Beth yr ydym ni wedi’i weld, mewn ffordd, yw bod pobol wedi colli’r profiadau yma ac wedi gweld budd mawr o ddiwylliant yn ystod y cyfnod clo.”
“Gobeithiol am y dyfodol”
Mae Amgueddfa Cymru wedi “colli incwm masnachol yn ystod y cyfnod clo”, medd Nia Williams wedyn.
“Fodd bynnag, rydan ni yn gobeithio y bydd potensial masnachol yn tyfu wrth i gyfyngiadau leddfu ac ry’n ni’n obeithiol am y dyfodol.
“Ry’n ni’n gofyn i bobol archebu tocyn o flaen llaw yn rhad ac am ddim ac yn gwneud hynny wrth gwrs fel rhan o’n polisi diogelwch ni.
“Ry’n ni’n gweld pan mae’r rheini’n mynd i fyny ar-lein erbyn dydd Mercher, maen nhw yn llenwi’n syth.
“Mae pobol wedi colli, dw i’n meddwl, y profiadau o fod mewn gofodau fel Sain Ffagan, fel yr Amgueddfa Lechi yn y Gogledd sy’n medru ysbrydoli pobol.
“A dw i’n meddwl bod ysbrydoliaeth o’r math hynny a chefnogaeth i’n llesiant ni yn bwysig iawn ac mae pobol, dw i’n meddwl, wedi gweld hynny wrth fyw drwy’r cyfnod clo.”
“Cof y genedl”
Mae Nia Williams wedi datgelu bod Amgueddfa Cymru wedi bod yn brysur yn “casglu’r cyfnod hwn” drwy gydol y pandemig.
“Ry’n ni wedi casglu profiadau pobol o fyw drwy Covid, a hefyd casglu Black Lives Matter,” meddai.
“Ac wrth gwrs, fel cof y genedl ar gyfer y cenedlaethau sydd i ddod, mae hwnna wedi bod yn waith pwysig iawn ac yn waith emosiynol iawn i’r staff hefyd.
“Mae’r rhain wedi bod yn bethau perthnasol i fywyd yng Nghymru heddiw ac felly mae’n waith ry’n ni wedi ei wneud ar gyfer y dyfodol ac wedi gweithio gyda’r Comisiynydd Plant ac Iechyd Cyhoeddus Cymru ar hynny.
“Mae hwnna’n rôl bwysig mae amgueddfeydd yn ei wneud hefyd.”