Mae agweddau pobol sy’n alltud o Gymru tuag at y wlad a’r iaith wedi newid er gwell dros y degawd diwethaf, yn ôl ymchwil newydd.
Mae ymchwil digidol newydd gan GlobalWelsh yn dangos bod y twf mewn trafodaethau digidol gan alltudion o Gymru yn uwch na’r gwledydd Celtaidd eraill.
Dangosodd yr ymchwil fod rhai yn dysgu’r iaith er mwyn magu ymdeimlad o berthyn i’w treftadaeth a’u hachau, ac mae hyn yn rhywbeth mae Beca Brown o gwmni SaySomethingInWelsh wedi’i weld ymysg dysgwyr hefyd.
Yn ôl Beca Brown, mae “dysgu Cymraeg yn gam naturiol yn y broses o ail-ymgyfarwyddo gyda Chymru fel mae hi heddiw”.
Yr ymchwil
Er bod gan Iwerddon a’r Alban fwy o drafodaethau ymhlith y rhai sydd ar wasgar, Cymru welodd y twf mwyaf rhwng 2015 a 2020.
Rhwng 2016 a 2019, Cymru welodd y twf mwyaf mewn ymddiriedaeth ymhlith y rhai sydd ar wasgar, o gymharu â’r Alban, Iwerddon, Ynys Manaw, a Chernyw.
Erbyn hyn, Cymru sy’n arwain ar yr agwedd hon, ac mae ‘ymddiriedaeth’ yn cynnwys barn am bolisïau masnach economaidd, a’r farn ynghylch sut mae cenedl yn masnachu ar lwyfan rhyngwladol.
Y pedwar prif ddiwydiant sy’n cael eu cysylltu â Chymru gan y rhai sydd ar wasgar yw twristiaeth, electroneg, technoleg, a’r diwydiant creu, yn ôl yr ymchwil gan sapient.d.
Dros y ddeg mlynedd rhwng 2008 a 2019, mae’r termau y mae’r rhai sydd ar wasgar yn eu cysylltu â Chymru wedi newid i fod yn llawer mwy cadarnhaol. Yn 2008 roedd geiriau allweddol yn cynnwys ‘tlawd’, ‘diddysg’, ‘tywyll’, a ‘digalon’.
Erbyn 2019, roedd y geiriau hyn wedi cael eu cyfnewid am ‘soffistigedig’, ‘gweithgar’, ‘hyddysg’, ‘anturus’, ac ‘ecolegol’.
Mae’r Cymry ar wasgar yn cysylltu cymdeithas Cymru yn bennaf gyda ‘chlyfrwch’, ‘gweithgarwch’, ‘gwydnwch’, a bod yn ‘foesegol’ erbyn hyn.
O ran y termau diwylliannol sy’n cael eu cysylltu â Chymru, y prif rai oedd llenyddiaeth, derwyddiaeth, meddylwyr, a deallusion, a’r ddraig goch yw’r prif symbol sy’n cael ei gysylltu â’r wlad.
Fe wnaeth yr ymchwil astudio pam fyddai’r rhai sydd ar wasgar yn teithio i Gymru, gyda 47% yn dweud y bydden nhw’n gwneud hynny oherwydd eu treftadaeth a’u hachau.
Dywedodd 33% y bydden nhw’n teithio yma oherwydd y diwylliant Celtaidd, 12% oherwydd antur a theithio ecolegol, ac 8% ar gyfer yr Eisteddfod.
Yn ogystal, mae’r Gymraeg yn gynyddol boblogaidd ymysg y rhai sydd ar wasgar, yn enwedig rhai o’r drydedd a’r bedwaredd genhedlaeth sy’n hoffi dysgu geiriau a brawddegau er mwyn eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol.
Dangosodd yr ymchwil fod hyn yn rhoi teimlad o berthyn i Gymru a’i diwylliant iddyn nhw, ac mae yna gynnydd sylweddol wedi bod mewn diddordeb yn yr iaith Gymraeg rhwng 2016 a 2020.
Pobol eisiau ailgysylltu
“Mae gennym ni, yn sicr, nifer nodweddiadol o ddysgwyr sydd tu allan i Gymru, a thu allan i wledydd Prydain, a fyswn i’n dweud fod nifer fawr ohonyn nhw’n bobol sydd efo’i gwreiddiau yng Nghymru,” meddai Beca Brown, sy’n aelod o staff SaySomethingInWelsh, wrth golwg360.
“Mae hi’n stori rydyn ni’n ei chlywed yn aml, fod pobol eisiau ryw ailgysylltu efo’u gwreiddiau nhw.
“Hwyrach fod ganddyn nhw gof plentyn o nain neu daid, neu hen nain a hen daid, yn siarad Cymraeg, ond fod yr iaith heb gael ei throsglwyddo mor bell â nhw, a’u bod nhw wedi symud oddi yma ers blynyddoedd am amryw resymau, a’u bod nhw eisiau ailgysylltu efo’u hanes teuluol.
“A’u bod nhw’n gweld dysgu Cymraeg fel ffordd o wneud hynny, wedyn mae o’n rhywbeth rydyn ni’n ei glywed yn aml,” esbonia Beca Brown, sy’n pwysleisio mai dyma ei hargraffiadau hi yn sgil cynnal grwpiau i gefnogi dysgwyr dros y byd ar Zoom, ac nid ystadegau’r cwmni.
“Alla i ddim dweud os ydyn ni’n ei glywed o’n amlach, mae SaySomethingInWelsh yn bodoli ers tua deuddeg mlynedd.
“Achos ein bod ni’n dysgu Cymraeg yn rhithiol, does yna erioed wedi bod ddosbarthiadau… mae o’n broses o ddysgu Cymraeg dros ap neu wefan.
“Wedyn mae hynny’n rhywbeth maen nhw’n gallu ei wneud eu hunain yn lle bynnag maen nhw.
“Dw i’n meddwl fod y ffordd rydyn ni’n dysgu wastad wedi apelio at bobol ar hyd y byd, wedyn alla i ddim sylwebu os oes yna gynnydd.”
“Agweddau positif a brwdfrydedd”
“Ond fedra i’n sicr dystio fod o’n bodoli, bod yna agweddau positif a brwdfrydedd gan bobol, a’u bod nhw’n ei weld o fel ffordd o aildanio hen gysylltiad teuluol,” meddai Beca Brown.
“Hwyrach eu bod nhw’n teimlo fod y byd wedi mynd yn llai, a bod y ffordd o gysylltu gydag elfennau Cymreig ar-lein yn haws dros y cyfryngau cymdeithasol erbyn hyn.
“Maen nhw’n gallu dilyn gwahanol grwpiau a gwefannau, a theimlo eu bod nhw’n fwy cysylltiedig gyda Chymru nag oedden nhw cynt, a bod dysgu Cymraeg yn gam naturiol yn y broses o ailymgyfarwyddo gyda Chymru fel mae hi heddiw.
“Mae yna tua 25,000 o bobol yn dilyn ein tudalen Facebook ni, ac mae yna bobol eisiau ymuno efo’n grŵp ni drwy’r amser.
“Dw i heb edrych o le maen nhw’n dod, ond mae gennym ni ychydig o gwestiynau pan mae rhywun yn ymuno â’r grŵp.
“’Pam ydych chi eisiau dysgu Cymraeg?’ ydi un ohonyn nhw, ac mae lot ohonyn nhw’n dweud ‘am fy mod i wedi symud i ffwrdd ac mae gen i ddiddordeb mewn ailgysylltu’.
“Mae hwnna’n ateb eithaf cyson i’r cwestiynau.”
“Dadeni diwylliant Celtaidd”
“Be sy’n dueddol o ddigwydd ydi bod yr iaith yn gam cyntaf er mwyn agor y drws ar y diwylliant yn ehangach,” meddai wedyn.
“Mae lot o’n dysgwyr ni’n mynd ati i archebu llyfrau, yn darllen i’w gilydd dros y ffôn [o wahanol wledydd], mae yna ddilyn mawr ar S4C, gwrando mawr ar Radio Cymru.
“Mae yna ymddiddori mawr mewn cerddoriaeth Gymraeg. Mae o’n ddilyniant naturiol mewn ffordd, unwaith maen nhw’n cychwyn gyda’r iaith, maen nhw’n ffeindio cymaint o bethau eraill sy’n gysylltiedig â’r iaith.
“Maen nhw’n dweud yn aml fod o yn agor drws ar y diwylliant.
“Dw i’n meddwl ‘lasai hynny fod yn fwy gwir am bobol sy’n byw tu allan i Gymru, achos bod o’n ffordd iddyn nhw wneud ymgysylltiad cryf â’r wlad.
“Os wyt ti’n mynd ati o safbwynt yr iaith, ac wedyn yn trwytho dy hun yn yr elfennau diwylliannol, ti’n mynd i deimlo dy fod di’n rhan o’r peth hyd yn oed os ydych chi’n byw ym mhen draw byd.”
“Newid mawr mewn agweddau”
“Mae Cymru’n mwynhau rhan o’r dadeni diwylliant Celtaidd o amgylch y byd,” meddai Giles Crouch, o sapient.d, a gafodd ei eni yn y Deyrnas Unedig ac sy’n byw yng Nghanada, ond sydd â’i achau yng Nghymru.
“Mae Cymru wedi dod yn llawer mwy amlwg dros yr ychydig o flynyddoedd diwethaf.
“Mae yna newid mawr wedi bod mewn agweddau dros y ddeg mlynedd diwethaf mewn ffordd gadarnhaol a thrawsnewidiol.”
“Mae Cymru ar ymyl adeg gyffrous iawn o gyfleoedd, ac mae’r diaspora yn rhan allweddol o hynny,” ychwanegodd Walter May, Prif Swyddog Gweithredol a sylfaenydd GlobalWelsh.
“Maen nhw’n gysylltiedig, yn debygol o allu buddsoddi yng Nghymru, yn deall fod economi newydd Cymru yn tyfu, ac mae ganddyn nhw gysylltiadau diwylliannol cryf iawn, ac (fel arfer!) maen nhw’n ffynhonnell dwristaidd gryf.”