Mae disgwyl i brisiau tai gynyddu eto dros y Gwanwyn yn sgil llacio’r cyfnod clo, meddai adroddiad Rightmove.
Ar hyn o bryd mae prisiau tai yng Nghymru, yr Alban, a Lloegr yn parhau i godi wrth i’r galw gynyddu.
Ym mis Chwefror 2021, roedd y gwahaniaeth rhwng y galw am dai a’r stoc yn fwy nag y bu ers degawd, yn ôl adroddiad Rightmove.
Cododd cyfartaledd pris tŷ 0.8% yn ystod mis Chwefror, ac mae mwy o bobol nag erioed yn holi am dai.
Yng Nghymru, roedd prisiau tai 8% yn uwch yn ystod Chwefror eleni o gymharu â llynedd – y cynnydd mwyaf yng ngwledydd Prydain.
Cododd cyfartaledd pris tŷ yng Nghymru i dros £200,000 am y tro cyntaf erioed fis Chwefror, ac erbyn diwedd Chwefror pris cyfartalog tŷ’n cael ei roi ar y farchnad oedd £215,163.
Roedd hyn 1.3% yn uwch nag ym mis Ionawr, ac ar gyfartaledd mae tŷ yng Nghymru yn cymryd 62 diwrnod i’w werthu.
Wrth edrych ar bob sir, Ynys Môn a Phowys welodd y cynnydd mwyaf mewn prisiau rhwng 2019 a 2020.
Roedd cynnydd o 12% ym mhrisiau tai yn y ddwy sir, gyda thai yn costio ychydig dan £230,000 ar gyfartaledd yno.
“Mae’r broblem tai yn fy nghadw i fyny yn y nos”
Bythefnos yn ôl, dangosodd ffigurau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod prisiau tai bron i chwe gwaith yn uwch na chyfartaledd cyflog yng Nghymru.
Un sydd wedi cael trafferth prynu tŷ yw Elfed Wyn ap Elwyn o Drawsfynydd, ac yn ôl gwefan Rightmove bu cynnydd o 59% ym mhrisiau tai yn yr ardal honno rhwng 2019 a 2020.
“Dw i a fy mhartner wedi bod yn chwilio am dŷ yn Nhrawsfynydd. Roeddwn i wedi meddwl prynu tŷ cyn cwrdd ag Anwen, ac wedi bod yn arbed arian,” esboniodd Elfed Wyn ap Elwyn wrth golwg360.
“Ond, mae’n anodd arbed gan fod lot o arian yn mynd ar drafnidiaeth ac ati yn fan hyn, felly, roeddem ni’n dau’n meddwl cael morgais.
“Roedd gan y ddau ohonom ni ddigon o bres i gael deposit ar forgais efo’n gilydd, ond mae’r tai fyddai o fewn ein cyrraedd fwy neu lai wedi gwerthu i gyd.
“Roedden ni’n edrych ar un tŷ yn Nhrawsfynydd sydd tua £45,000, ond mae’n dŷ rhad gan mai dim ond pobol o fewn deng milltir sy’n gallu ei brynu.
“Sy’n swnio’n grêt, ond doedd yr un banc yn fodlon rhoi benthyciad i ni gael tŷ felly. Yn ychwanegol, byddai angen gwario £40,000 i ail-wneud y tŷ.
“Mae’r tai rhataf, ella un ystafell wely am tua £60,000, i gyd wedi’u gwerthu fel tai haf.
“Mae yna gynllun tai fforddiadwy, ond dw i dal yn meddwl y bydden nhw allan o’n cyrraedd.
“Rydym ni’n sownd ar hyn o bryd, felly rydym ni’n mynd i fod yn rhentu tŷ yn fuan – ond rhywbeth dros dro fydd hynny gobeithio,” meddai Elfed Wyn ap Elwyn sy’n gweithio gyda Chwmni Bro Ffestiniog, a’i bartner yn gweithio fel gofalwraig.
“Mae gan y ddau ohonon ni dair neu bedair o swyddi ychwanegol, yn trïo arbed arian, ond fe wneith hi dal gymryd andros o lot o amser i ni allu cael tŷ yn y pen draw.
“Mae’n eithaf rhwystredig, mae yna dai yr oedden ni’n credu y byddem ni’n gallu eu fforddio yn dod ar y farchnad, ond cyn i ti hyd yn oed holi amdanyn nhw, maen nhw wedi mynd.
“Mae’r broblem tai yn fy nghadw i fyny yn y nos.”
“Cymunedau yn marw”
“Dw i’n meddwl mai effeithio pobol ifanc mae o’n bennaf,” meddai Mared Llywelyn, sy’n gynghorydd tref dros Blaid Cymru ym Morfa Nefyn.
“Ond mae o’n effeithio’r gymuned gyfan achos dw i’n adnabod pobol broffesiynol, sydd wedi bod mewn gwaith ers blynyddoedd, sydd dal methu fforddio prynu’r tai,” meddai wrth golwg360.
“Mae’n hollol wallgof â dweud y gwir,” meddai, “Ti’n disgwyl nad ydi pobol ifanc am fedru prynu clamp o dŷ yn syth bin, ond y jôc ydi na fedra nhw fforddio fflat na dim byd.
“Rydyn ni wedi sôn llwyth o weithiau am y penthouse yn Nhywod Arian ym Morfa Nefyn, yn cyrraedd bron i filiwn o bunnau.
“Mae pris felly yn hollol anfoesol, dwn i’m sut ti’n cyfiawnhau hynny.”
Wrth gyfeirio at dŷ sydd newydd gael ei roi ar y farchnad am £625,000 ym Morfa Nefyn, dywedodd Mared Llywelyn ei fod yn “anghredadwy sut eu bod nhw’n gallu rhoi ffasiwn bris ar dy. Mae o’n wallgo’”.
Bu cynnydd o 19% mewn prisiau tai yn Nefyn rhwng 2019 a 2020, ac mae ffigurau diweddar yn dangos bod 38% o’r eiddo a werthwyd yng Ngwynedd rhwng Mawrth 2019 ac Ebrill 2020 yn destun cyfradd uwch y dreth breswyl o dan y Dreth Trafodiadau Tir, cyfradd sy’n cael ei thalu ar ail gartrefi ac eiddo prynu-i-osod ymhlith eraill, yn ôl ystadegau diweddaraf Awdurdod Cyllid Cymru.
Awgryma data tai Cyngor Gwynedd bod 59% o bobol y sir yn methu fforddio prynu tŷ yno.
“Os ti’n mynd i golli’r bobol ifanc, colli’r bobol sydd am gyfrannu i gymuned Gymraeg a Chymreig, mae o am effeithio’n andwyol ar yr iaith,” meddai Mared Llywelyn.
“Ond be mae rhywun eisiau ei wneud yn hollol glir ydi nad mater English versus Welsh ydi hyn,” pwysleisiodd Mared.
“Mae yna lot o bethau wedi codi’n ddiweddar, mae yna dudalen GoFund Me sy’n dweud bod codi premiwm treth cyngor 100% yn erbyn pobol Saesneg – a dim dyna ydi hyn o gwbl.
“Mae hyn yn ymwneud ag ail gartrefi, a chymunedau yn marw achos nad oes neb yn byw yn y tai.
“Mae yna ddwy ochr i’r geiniog – mae’r iaith yn fregus a ti’n colli pobol ifanc a phlant, felly mae ysgolion yn cau, a heb ysgolion ti’n colli asbri yn y cymunedau yma.
“Ond mae eisiau gwneud yn hollol glir mai cartrefi i bobol leol ydan ni eisiau, ddim tai haf,” meddai Mared Llywelyn, oedd yn cefnogi’r ymgyrch Hawl i Fyw Adra.
“Dw i’n meddwl fod y pandemig wedi deffro pobol i’r broblem, er ei fod o’n bodoli ers degawdau.
“Mae o wedi cyflymu’r broses, yn sicr. Ond be mae o hefyd wedi’i wneud ydi gwneud i bobol sylweddoli, o’r diwedd, hold on, rydym ni angen gwneud rhywbeth am y sefyllfa yma ar frys.”
“Edrych yn o ddu”
Ag ystyried prisiau tai ar Ynys Môn, dangosa gwefan Rightmove mai Rhosneigr oedd yr ardal ddrytaf – gyda thŷ yn costio £428,563 ar gyfartaledd.
Roedd hyn yn gynnydd o 37% rhwng 2019 a 2020, gyda phris gofynnol am dŷ teras yn cyrraedd hyd at £270,000.
“Yn sicr, mae’n cael effaith ar gymunedau, ac yn cael yr effaith fwyaf ar bobol ifanc,” meddai’r cynghorydd annibynnol lleol, Gwilym O Jones.
“Dw i’n cynrychioli ardal Rhosneigr, ardal glan môr, ardal hynod boblogaidd, ac rydym ni’n ymwybodol ers blynyddoedd lawer bod yna nifer uchel o dai haf yno, ond yn sicr mae rhywun yn gweld erbyn hyn fod y prisiau wedi mynd allan o gyrraedd pobol gyffredin.
“Maen nhw wedi mynd allan o gyrraedd pobol fyddai’n arferol yn gallu prynu tai mewn ardal o’r fath, ond i bobol ifanc – amhosib… does yna ddim gobaith o gwbl,” pwysleisiodd Gwilym O Jones, sy’n cynrychioli ward Llifon ar Gyngor Sir Ynys Môn.
“Yn sicr, mae yna Gymry da mewn ardal fel Rhosneigr, rhai sydd wedi byw yno ar hyd eu hoes, ac yn weithgar iawn gyda’r ysgol a’r capel ac yn y blaen.
“Ond fel y gallwch chi ddychmygu, efo’r ffaith bod yna bobol gynhenid leol yn methu prynu’r tai yma mae synnwyr cyffredin yn dweud ei fod yn gwanhau’r gymuned leol.
“Fel y mae hi ar hyn o bryd, mae hi’n edrych yn o ddu.
“Mae rhywun yn pryderu’n ofnadwy am y bobol ifanc, dyna pam mae Cyngor Môn yn gwneud popeth o fewn eu gallu er sicrhau bod mwy a mwy o dai fforddiadwy.
Ar flaen y gad?
“Mae ein polisi tai ni’n dangos yn berffaith glir bod rhaid rhoi ystyriaeth i’r rhai â chysylltiadau lleol, bod y tai yn cael eu gosod i bobol a chysylltiadau lleol.
“Felly, mae’r Cyngor Sir ar flaen y gad yn fan yma.
“Mae yna rai tai wedi bod yn wag am beth amser ac mae’r Cyngor yn eu prynu nhw a’u gosod nhw ar gyfer pobol ifanc ac yn gosod nhw fel tai fforddiadwy,” esboniodd Gwilym O Jones wrth golwg360.
“Mae hwnnw’n gynllun sy’n mynd ymlaen ers peth amser.
“Hefyd, rydym ni’n prynu tai cyngor oedd wedi cael eu gwerthu – eu prynu nhw yn ôl fel stoc dai.
“Ac mae Cyngor Sir Môn, yn wahanol i nifer o gynghorau eraill, wedi cadw eu stoc dai. Dydyn nhw heb roi nhw allan i gwmnïau. Mae gennym ni nifer fawr o dai ar gyfer y boblogaeth leol.”
“Angen blaenoriaethu ystyriaethau dynol”
Ynghyd â’r problemau economaidd y mae’r cynnydd mewn prisiau tai, a’r diffyg stoc, yn eu hachosi, mae pryderon hefyd wedi codi ynghylch effaith mewnfudo ar y Gymraeg.
“Mae’n gwneud hi’n anodd iawn i bobol aros yng Ngheredigion, ac rydym ni’n gweld bod llwyth o bobol ifanc yn gadael am lefydd lle mae’r cyflogau’n uwch oherwydd eu bod nhw methu fforddio tŷ yn yr ardal,” meddai Jeff Smith, Cadeirydd Rhanbarth Ceredigion o Gymdeithas yr Iaith.
“Ar yr un pryd, yn sgil Covid ac ati, mae gen ti lwyth o bobol yn gadael dinasoedd. Pobol sydd eisoes yn gefnog, yn symud yn gyfan gwbl neu yn prynu ail dŷ yng nghefn gwlad, sy’n cynyddu’r prisiau yn uwch fyth.
“Mae gweithio o bell yn gallu gweithio o’n plaid ni mewn rhai achosion, ond mewn achosion eraill mae’n gweithio yn erbyn cymunedau Cymraeg eu hiaith.”
Er y pryderon dros yr iaith, mae Jeff Smith wedi dweud wrth golwg360 ei fod yn fater o gyfiawnder dynol a chymdeithasol.
“Fyswn i’n hoffi tanlinellu ein neges bod hyn yn fater o gyfiawnder hefyd, bod gan bawb hawl i gael to dros eu pennau.
“Mae angen i ystyriaethau dynol a chymdeithasol [gael eu blaenoriaethu dros] ystyriaethau’r farchnad, ac mae angen i lywodraethau warchod cymunedau yn hytrach na gadael i farchnad rydd greu sefyllfa lle nad oes gan un person un lle i fyw, tra bod person arall efo dau dy.”