Mae deiseb sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i roi grymoedd i gynghorau sir reoli’r farchnad dai yn ardaloedd gwledig a thwristaidd, bellach wedi ei harwyddo gan bron i 2,000 o bobol.

Fe gafodd y ddeiseb ei lansio ddydd Llun, ac o fewn y 48 awr gyntaf roedd dros 1,500 o enwau arni.

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wnaeth greu’r ddeiseb, ac mae eu llefarydd yn dweud fod y nifer sy’n arwyddo yn brawf o deimladau cryfion.

“Mae’n amlwg fod y sefyllfa fel y mae yn gwbl annerbyniol,” meddai Ffred Ffransis, “fe gyhoeddwyd ein deiseb ar wefan y Senedd ddydd Llun, ac mae’r ffaith fod 1,580 o bobl eisoes wedi ei arwyddo yn profi fod yna ymdeimlad cryf o ddicter ynghylch y mater ar lawr gwlad.”

Mae’r ymgyrch, sy’n ymateb i bryderon bod cartrefi yn ardaloedd gwledig Cymru yn cael eu “bachu fel buddsoddiad” ac “yn ddihangfa yn sgil y feirws”, wedi parhau i gynyddu momentwm, gydag bron i 2,000 llofnod erbyn hyn.

“Cyfran helaeth o drigolion yn cael eu hamddifadu o gartrefi”

Yn sgil y ddeiseb, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw ar Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford i gyfarwyddo gweinidogion priodol i gychwyn trafodaethau gyda chynghorau sir i lunio strategaeth “ar frys.”

“Mewn nifer o ardaloedd gwledig a thwristaidd, mae cyfran helaeth o drigolion yn cael eu hamddifadu o gartrefi am fod prisiau tai wedi eu chwyddo gan y galw am ail gartrefi a thai gwyliau,” meddai Ffred Ffransis.

Ffred Ffransis

Er bod y ddeiseb yn cyfeirio’n benodol at ardaloedd gwledig a thwristaidd, dywedodd mai’r bwriad hirdymor yw mynd i’r afael a’r broblem sy’n effeithio cymunedau ar draws y wlad, gan gynnwys ardaloedd dinesig.

“Mae’r ddeiseb hon yn gam pwysig ymlaen tuag at ddatrys y broblem ym mhob rhan o Gymru,” meddai, “ac mae’n sicr yn hwyluso’r drafodaeth bresennol.”

“Sut fedrwn ni gystadlu?”

“Mae’n amlwg bod eiddo ym Mhen Llŷn neu’r ardaloedd arfordirol, ar un llaw yn cael eu bachu fel buddsoddiad, ac ar y llaw yn ddihangfa yn sgil y feirws,” meddai Rhys Tudur, Cynghorydd Tref Nefyn.

Wrth drafod y sefyllfa, dywedodd bod ffigyrau a gyhoeddwyd llynedd yn dangos fod 40% o dai yng Ngwynedd yn dai haf.

Mae’n rhagweld bod y pandemig wedi bod yn gatalydd ar gyfer cynnydd sylweddol o ran y nifer yn prynu tai haf, gan eithrio pobl leol ymhellach.

“Rydan ni’n gweld yr arwyddion yn mynd i fyny ac mae rhywun yn digalonni gan feddwl – Sut fedrwn ni gystadlu?

“Yn y dyfodol, byddwn yn mynd i’n cymunedau ble’r ydan ni wedi cael ein magu, fel twristiaid ein hunain,” meddai.

 

Gorymdaith diweddar Gynghorwyr Trefn Nefyn

“Y catalydd i ddirywiad y Gymraeg ydi ail gartrefi”

Wrth drafod rhai o sgil effeithiau’r argyfwng, dywedodd Rhys Tudur:

“Y catalydd i ddirywiad y Gymraeg ydi ail gartrefi – does dim dwywaith am hynny.

“Y pryder mawr ydi, mae’r Llywodraeth yn ymgyrchu i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg, ond fydd yna ddim llawer o werth i hynny os nad ydyn nhw yn gwarchod cymunedau ble mae’r iaith yn cael ei siarad o ddydd i ddydd, ar y strydoedd, mewn siopau, mewn caffis.

“Y munud mae hi wedi mynd o’r diriogaeth honno, ble mae’n cael ei siarad gan y mwyafrif, mae perig i’r iaith ddiflannu.

“Hwyrech bod yna bocedi o’r Gymraeg mewn rhai llefydd yn Arfon, er enghraifft, ble mai ar ei chryfaf rŵan. Ond os fyddwn ni’n mynd am dro i’r lan y môr neu i bentrefi yn y dyfodol, fydda ni’n mynd yno fel twristiaid.

“Pa fath o neges mae hynny’n ei roi i’n cenhedlaeth ifanc ni wedyn?”

Ymgyrch ‘Hawl i Fyw Adra’

Galw am newid y ddeddf

Ddechrau’r wythnos hon, roedd Cadeirydd Pwyllgor Cynllunio Parc Cenedlaethol Eryri yn galw ar Lywodraeth Cymru i newid y ddeddf mewn perthynas â thai haf.

Mae’r Cynghorydd Elwyn Edwards eisiau gorfodi perchnogion i gyflwyno cais cynllunio cyn gallu troi tŷ yn ail gartref neu dŷ haf.

Fe ddywedodd wrth Radio Cymru fod pobol wastad wedi bod yn prynu tai haf yn ardal y Parc, ond bod y broblem wedi gwaethygu yn ddiweddar.

Rali ‘Nid yw Cymru ar Werth’

Mae modd arwyddo’r ddeiseb hyd at Dachwedd 21, sef diwrnod Rali aml-leoliad ‘Nid yw Cymru ar Werth’ sy’n cael ei chynnal yn Llanberis, Caerfyrddin ac Aberaeron.

Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r rali i’w canfod ar dudalen Facebook ‘Nid yw Cymru ar werth’.

Rali ‘Nid yw Cymru ar Werth’