Yn wreiddiol o Lundain, mae Maer 23 oed dinas Bangor, Owen Hurcum, yn astudio Archeoleg ac yn gweithio mewn tafarn leol. Daeth yn adnabyddus yn ddiweddar am fod y Maer anneuaidd (non-binary) cyntaf yn y byd…

Pam ydech chi mor frwd tros wleidydda?

Rydw i’n beio fy nheulu sy’n griw gwleidyddol, asgell chwith o werinwyr.

Roedd fy nhaid ar ochr fy mam yn gynghorydd Llafur yn Henley-on-Thames ac mi fyswn i’n trafod gwleidyddiaeth gyda o.

Ac mae rhieni fy nhad o Gymru, a wnes i ymuno â Phlaid Cymru cyn symud yma.

Fe wnes i ymuno gyda Plaid Ifanc ym Mangor ar ôl dod yma i’r coleg, er mwyn bod yn weithgar yn y gymuned, a chael fy ethol i Gyngor Dinas Bangor yn 19 oed.

Wedyn ar ôl graddio, roeddwn i yn gweithio yn Burger King am flwyddyn yn coginio byrgyrs tra’r oeddwn i hefyd yn Ddirprwy Faer Bangor.

Ond pan ddaeth covid, fe gawson ni ein diswyddo heb unrhyw ffyrlo, felly’r oeddwn i yn byw ar fudd-daliadau nes cael swydd mewn tafarn.

Pam bod person o aelwyd asgell chwith yn Llundain wedi dewis Plaid Cymru tros Lafur?

Doeddwn i byth yn simsanu a meddwl ‘ydw i’n Gymro neu yn Sais?’.

Roeddwn i wastad yn teimlo yn Gymro i’r carn.

Wnes i ddechrau cefnogi annibyniaeth i Gymru ar ôl darllen am Feibion Glyndŵr a’r mudiad annibyniaeth.

Tydw i ddim yn cytuno gyda dulliau’r Meibion, gan fy mod yn heddychwr, ond mae’r syniad o annibyniaeth yn gwneud synnwyr perffaith.

Felly roedd Plaid, dan Leanne Wood yn enwedig, yn blaid flaengar, Sosialaidd, ac yn berffaith i mi.

Cymry o le yw teulu eich tad?

Pont-y-pŵl.

Am bod ganddon ni gyfenw unigryw, rydw i wedi pori mewn hen bapurau newydd ym Mhont-y-pŵl, a darllen am sut y byddai fy hen neiniau a theidiau yn dwyn o siopau pan oedden nhw yn chwech oed, ar droad yr ugeinfed ganrif.

Pam dod i Fangor?

Roeddwn i eisiau astudio Archeoleg ac mae’r brifysgol yn lle delfrydol i wneud hynny.

Hefyd, mae hi’n ddinas gydag ysbryd cymunedol anhygoel – fedrwch chi gychwyn sgwrs ar y stryd a chael moider efo pawb.

Hefyd, o gymharu gyda lle ges i fy magu, er eich bod chi ynghanol dinas yma, tyda chi ond pum munud o’r mynyddoedd, y môr, a phopeth allech chi fod eisiau.

Sut mae’r gwersi Cymraeg yn dod yn eu blaenau?

Wnes i ddechrau mynychu dosbarthiadau pan wnes i symud yma yn 2017, ond mae llwyth gwaith wedi tarfu ar y dysgu.

Mae gen i ‘Gymraeg caffi’ eitha’ da, ond dw i’n anobeithiol am ddysgu gyda’r gwersi yma sydd ar aps.

Ond pan ddaw lle yn nosbarth dysgu Cymraeg ffrind i mi, fydda i yna!

Faint o ddiddordeb sydd wedi bod ers eich ethol yn Faer ieuengaf Cymru, a’r un anneuaidd (non-binary) cyntaf drwy’r byd i gyd?

Mae’r holl beth wedi cael lot mwy o sylw nag oeddwn i wedi’i ddisgwyl.

Y bore yma, fe ges i fy nghyfweld ar gyfer cylchgrawn yng Ngwlad Groeg, ac rydw i wedi gwneud cyfweliadau gyda newyddiadurwyr yn America, a’r Iseldiroedd hefyd.

Felly mae wedi bod braidd yn boncyrs… ond gobeithio fy mod wedi gallu gwerthu Bangor i’r byd.

Fel Maer, fy ngwaith yw bod yn beiriant PR i Fangor.

Beth yw eich atgofion cynharaf?

Fe gefais fy magu yn Harrow, dafliad carreg o’r ysgol posh enwog – ond doeddwn i ddim yn posh!

Fy atgof cynharaf oedd mynd i’r feithrinfa yn gwisgo ffroc a chymryd arnaf mai fi oedd yr athrawes.

Beth yw eich ofn mwyaf?

Fedra i ddim bod o fewn 30 llath i ffynnon, wir yr!

Beth yw eich gwaith fel cynghorydd?

Bydd pobol yn gofyn i mi drefnu torri gwair neu egluro’r broses o geisio am dai a chartrefi.

Hefyd mae cyngor y ddinas yn gyfrifol am gaeau chwarae a pharciau a’r pier.

Ac rydan ni’n trefnu digwyddiadau i ddathlu’r ddinas a’i diwylliant.

Rydan ni hefyd yn cynnal cynlluniau i fwydo pobol, fel nad oes neb yn llwgu.

A beth ydych chi’n wneud tu hwnt i fyd gwleidyddol y ddinas?

Rydw i’n astudio gradd Meistr rhan amser, ac yn sgrifennu traethawd hir am y gynrychiolaeth i bobol LGBT+ ym myd Archeoleg.

Hefyd, rydw i’n gweithio tua 30 awr yr wythnos yn gogydd yn nhafarn y Tap a Sbeil ger y pier ym Mangor.

Beth wnewch chi i gadw yn heini?

Rydw i’n hoffi mynd i gerdded lonydd cefn Bangor.

Ac mae bod ar fy nhraed mewn cegin boeth ar shifft 12 awr yn fy nghadw mewn rhyw fath o siâp go-lew!

Beth sy’n gwylltio chi?

Pobol sy’n gweld annhegwch ond yn dewis aros yn niwtral a gwneud dim.

Pwy fyddech chi’n gwadd i’ch pryd bwyd delfrydol?

Leanne Wood – rydw i yn ei hadnabod hi ac mae hi yn arwr anferthol.

Magid Magid – fe brofodd cyn-Faer Sheffield bod modd gwneud y gwaith o fod yn Faer mewn ffordd wahanol. Fe roddodd yr hyder i mi fod yn fi fy hun tra hefyd yn gwneud y gwaith yma.

A Philip Normal, Maer hollol unigryw Lambeth.

Gan bwy gawsoch chi sws orau eich bywyd?

Un ges i yn feddw mewn clwb hoyw ryw dro – mae’r rheiny wastad yn lot o hwyl!

Pa ddywediad ydech chi’n gorddefnyddio?

Rydw i’n dweud ‘Chwarae teg’ ormod mewn negeseuon tecst.

Hefyd, rydw i’n dweud ‘indeedy’ yn hytrach nag ‘indeed’.

Beth yw eich hoff wisg ffansi?

Frank-N-Furter o The Rocky Horror Show.

Hoff barti?

Fe gawson ni barti yn y coleg unwaith, gyda dau o fy ffrindiau yn reslo yn yr ardd ffrynt, a phawb yn gwylio, ac un wedi gwisgo fel blaidd…

Y gwyliau gorau i chi fwynhau?

Fues i ar brofiad gwaith i’r Almaen am fis, ac er fy mod i yn gweithio ar safle archeolegol, roedd yr holl brofiad yn ffantastig.

Beth yw eich hoff ddiod feddwol?

Seidr y Mynydd. Gewch chi o mewn potel yn nhafarn y Glôb!

Beth yw eich hoff lyfr?

Trans Like Me gan C N Lester. Wnes i ei ddarllen ar ôl i mi ddod allan, ac mae wedi bod yn gymaint o help gyda fy siwrne. Alla i ddim argymell y llyfr yma ddigon i bobol sydd eisiau dysgu am y gymuned trans a non-binary.

 

Prif nod maer newydd Bangor yw “gweiddi am y ddinas mor uchel â phosib”

Cadi Dafydd

Mae Owen Hurcum wedi ennill eu lle yn y llyfrau hanes fel maer anneuaidd cyntaf y byd, ac fel maer ieuengaf Cymru