Prif nod maer newydd Bangor yw “gweiddi am y ddinas mor uchel â phosib.”
Mae Owen Hurcum – sydd wedi ennill eu lle yn y llyfrau hanes fel maer anneuaidd (non-binary) cyntaf y byd, ac fel maer ieuengaf Cymru – yn edrych ymlaen at “roi’n ôl” i’r ddinas y maen nhw’n ei charu.
Mae Owen, a “syrthiodd mewn cariad” gyda’r ddinas ar ôl llai nag wythnos yn byw yno, wedi neilltuo llawer o amser i’r gymuned LHDT+, yn lleol ac yn ehangach
Daw yn wreiddiol o Harrow ger Llundain, ond mae eu teulu ar ochr eu tad yn wreiddiol o Bontypŵl yn ne Cymru. Dywedon nhw wrth golwg360 eu bod nhw wedi cael eu magu â balchder yn eu gwreiddiau Cymreig.
Mae’r newyddion am eu hethol yn faer wedi cyrraedd pedwar ban byd, ar ôl i’w Trydariad fynd yn feiral.
Dywedodd Owen eu bod nhw wedi “synnu” fod yr ymatebion wedi bod “yn gadarnhaol ar y cyfan”, a’u bod nhw’n “falch iawn” fod y newyddion wedi atseinio gyda chymaint o bobol.
‘Gweiddi mor uchel â phosib’
“Yn amlwg mae’n humbling iawn, a dw i’n falch fod aelodau Cyngor y Ddinas, a’r ddinas, wedi rhoi ffydd ynof i fy rhoi mewn safle o’r fath,” meddai Owen, sy’n 23 oed ac yn astudio gradd meistr rhan-amser ym Mangor.
“Dw i’n edrych ymlaen at roi’n ôl i’r ddinas dw i’n ei charu, a gweithio mor galed ag y gallaf gyda’r tîm anhygoel yma dros y flwyddyn hon fel maer.
“Bydd y penderfyniadau rydyn ni’n eu gwneud ar gyfer y ddinas yn cael eu gwneud fel Cyngor llawn, allai ddim mynd ymlaen gyda fy syniadau fy hun.
“Dw i’n awyddus iawn i ddefnyddio fy safle, fel dw i wedi’i wneud yn llwyddiannus fel PR i Fangor, gobeithio.
“Ond, dw i’n gwybod mai pleser y swydd hon yw bod pob un cynghorydd yn llawn syniadau da,” ychwanegodd Owen.
“Mae yna rai prosiectau yr hoffwn i barhau â nhw, fel y rhaglenni i’r dyfodol sydd wedi cael eu harwain gan y cyn-faer John Wyn Williams.
“Byddwn i’n awyddus i gyflwyno rhai pethau diwylliannol i’r ddinas, fel codi’r posibilrwydd o’n dinas ni’n cael bardd, neu wneud rhywbeth gyda’r Peacocks, sy’n adnabyddus.
“Mae’n ymdrech tîm, nid fi sy’n gwneud yr holl benderfyniadau.
“Fy mhrif nod yw defnyddio hyn fel platfform i waeddi am ein dinas mor uchel â phosib, fel bod pobol yn clywed amdani, eisiau ymweld, ag o bosib yn buddsoddi yn y stryd fawr hyd yn oed.”
‘Atseinio gyda phobol’
Dywedodd Owen eu bod nhw “wedi synnu” fod eu trydariad am gael eu hethol yn faer wedi cyrraedd cymaint o bobol.
Mae’r trydariad bellach wedi cael dros 45 mil o likes, ac mae Owen yn dweud eu bod nhw’n falch fod y newyddion wedi atseinio gyda phobol yn lleol, a dros y byd.
“[Ro’n] i’n synnu ei fod e wedi mynd yn feiral, a bod yr ymatebion wedi bod yn gadarnhaol ar y cyfan – sydd wedi bod yn braf iawn,” eglurodd Owen.
“Dw i mor falch ei fod wedi atseinio gyda phobol, dw i wedi bod yn derbyn negeseuon gan bobol LGBTQ+ a phobol anneuaidd yn lleol, ac o ochr arall y byd, yn dweud eu bod nhw’n ddiolchgar am y gynrychiolaeth hon.
“Ac yn amlwg, dw i’n gwybod fod cynrychiolaeth ddim just yn golygu rhoi’r gadwyn amdanaf, ac mae gen i waith i’w wneud, a byddaf yn falch o gael fy marnu ar y llwyddiannau y byddwn ni’n eu cyflwyno yn ystod y term yma fel tîm.
“Ond mae’n neis ei fod e wedi atseinio gyda phobol yn barod, ac mae’n humbling iawn.”
Perthynas ‘arbennig’
Gadawodd Owen Blaid Cymru ychydig fisoedd yn ôl, yn sgil sylwadau trawsffobig a rannwyd gan Helen Mary Jones, a’r diffyg gweithredu ar ran y Blaid, gan ddweud na allent “sefyll dros blaid sy’n parhau i lwyfannu’r rhai sy’n hyrwyddo trawsffobia”.
Er hynny, nid oes ganddyn nhw gynlluniau i ymuno â phlaid arall, ac maen nhw’n pwysleisio fod ganddyn nhw berthynas “arbennig” â’r holl gynghorwyr, waeth pa blaid y maent yn perthyn iddi.
“Dw i’n hapus i weithio fel maer annibynnol,” meddai Owen, wrth esbonio fod gweithio fel tîm er lles pobol Bangor yn bwysicach na lliwiau eich plaid ar lefel lleol.
“Un peth y byddwn ni ei bwysleisio yw bod gen i berthynas arbennig gyda’r cynghorwyr, ar lefel y cyngor, waeth pa liw yw eu roset, a hoffwn feddwl fod ganddyn nhw berthynas dda efo fi.
“Rydyn ni bob tro’n gweithio gyda’n gilydd fel tîm er lles pobol Bangor. Dw i’n meddwl fod hynny’n bwysicach na lliwiau eich plaid ar lefel leol iawn fel hyn.”
Yn ôl Owen, mae eu teulu nhw wastad wedi bod yn wleidyddol, a chawson nhw eu trwytho mewn “lot o werthoedd sosialaidd”.
“Er fy mod i wedi cael fy magu yn Llundain, cefais fy magu gyda balchder yn fy ngwreiddiau Cymraeg,” gan gyfeirio at y ffaith fod teulu eu tad yn dod o Bontypŵl.
“Ar yr adeg, roedd Plaid dan Leanne [Wood] yn blaid sosialaidd iawn, ac roeddwn i’n cefnogi annibyniaeth hefyd felly roedd o’n naturiol iawn i mi ymuno â nhw. Fe wnes i ymuno â nhw cyn symud i Gymru.
“Pan wnes i gyrraedd yma, fe wnes i ymuno â Phlaid Ifanc a dod yn rhan o wleidyddiaeth leol Bangor trwy hynny.
“Mae gen i berthynas dda yn dal i fod gyda phobol Plaid yn lleol, hyd yn oed os ydw i wedi camu i ffwrdd oddi wrth y blaid. Maen nhw’n cadw fi’n onest yn nhermau fy ngwerthoedd gwleidyddol hefyd.”
Ysgrifennu llyfr
Mae gan Owen lyfr, sy’n gyflwyniad i’r maniffesto ar gyfer cydraddoldeb, yn dod yn allan ym mis Ebrill 2022 hefyd.
“Doeddwn i erioed yn bwriadu ysgrifennu’r llyfr, ond dw i’n aml wedi bod yn rhan o drafodaethau ar baneli neu drafodaethau lle dw i’n siarad am hawliau traws, a ro’n i’n ysgrifennu’r nodiadau hyn allan a chyrhaeddais tua 40,000 o eiriau ar un ddogfen,” eglurodd.
“’Waeth i mi drio ei droi o’n rhywbeth, a gweld os oes unrhyw un yn ei weld yn ddiddorol.
“Yn ffodus, fe wnaeth rhywun, ac mae Black Bee Books yn ei gyhoeddi.
“Mae’n gyflwyniad i’r maniffesto ar gyfer cydraddoldeb, dyw e ddim yn mynd yn ddwfn iawn i mewn i un elfen benodol fod yn anneuaidd.
Yn ôl Owen, mae’r llyfr yn trafod sawl agwedd megis rhagenwau, perthnasoedd teuluol, y gwahaniaethu y maen nhw’n ei wynebu, sut mae posib ei herio, a sut all cynghreiriaid ei herio.
“Dw i’n gobeithio ei fod yn llyfr sy’n hygyrch i bawb.
“Bydd gwybodaeth ynddo fydd yn ddefnyddiol i bobol sy’n cwestiynu eu rhyw, a bydd gwybodaeth yno sy’n ddefnyddiol ar gyfer pobol sydd eisiau ein cefnogi ni yn ein brwydr dros gydraddoldeb.”
Mae’n bosib rhagarchebu’r llyfr Don’t Ask About My Genitals gan Paned o Ge.