Mae teulu Lewis Williams wedi galw ar ymddiriedolwyr Tŷ’r Cymry i sicrhau dyfodol y ganolfan.

Daw hyn wedi iddi ddod i’r amlwg na fydd y ganolfan yn cael ei werthu mewn ocsiwn, am y tro beth bynnag.

Mae’r tŷ ar Heol Gordon, Y Rhath, yn nwylo ymddiriedolwyr, ac roedd disgwyl iddo gael ei werthu mewn ocsiwn yr wythnos nesaf.

Yn ôl yr asiant gwerthu, fydd hynny nawr ddim yn digwydd ond “gallai ddigwydd yn y dyfodol”.

Cafodd Tŷ’r Cymry ei roi i Gymry Caerdydd yn 1936 gan y ffermwr Lewis Williams o Fro Morgannwg er mwyn hybu’r iaith Gymraeg yn y ddinas.

Dros y blynyddoedd, mae wedi bod yn gartref i nifer o sefydliadau, gan gynnwys Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru, Yr Urdd, Ymgyrch Senedd i Gymru, Plaid Cymru, Mudiad Ysgolion Meithrin, Menter Caerdydd, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, a Chymdeithas Tŷ’r Cymry.

Ymddiriedolwyr

Cynhaliwyd cyfarfod rhwng grŵp o bobol leol a’r ymddiriedolwyr er mwyn trafod dyfodol y ganolfan ar Chwefror 6.

Cyflwynodd y grŵp enwau unigolion sy’n dymuno cymryd yr awenau, a chynnal ac adfer yr adeilad.

“Ond cwbl o oriau wedyn cawson ni e-bost, cwpl o frawddegau, dim cyfiawnhad na rhesymeg yn dweud eu bod nhw am fynd ymlaen â’r gwerthiant,” medd Steve Blundell, cadeirydd cangen leol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, sydd hefyd yn rhan o’r grŵp.

“Dw i ddim yn credu eu bod nhw wir wedi ystyried y cais o gwbl.

“Roedden nhw wedi gwneud eu meddyliau i fyny o flaen llaw a phenderfynu cadw at hynny.”

‘Hanes arbennig’

Ond ydi Steve Blundell yn credu y bydd yr ymddiriedolwyr yn ail ystyried?

“Mae’n amhosib dweud, ond mae’n rhaid gobeithio bod hynny yn mynd i ddigwydd.

“Dw i wir yn credu nad oes cyfiawnhad dros werthu’r lle.

“Mae’r hanes mor arbennig, ac mae’n le sydd wedi bod yn ganolog i’r ymgyrch dros yr iaith a’r genedl dros y blynyddoedd.

“Mae wedi bod yn gartref i sawl mudiad sydd wedi cael dylanwad mawr ar yr iaith Gymraeg a dwi wir yn meddwl os na fyddai’r lle wedi bodoli fyddan ni ddim yn lle’r ydan ni gyda’r iaith Gymraeg heddiw.”

‘Dyfodol hirdymor’

Wrth siarad â golwg360, dywedodd Owain Grant, un o ddisgynyddion Lewis Williams: “Rydan ni’n falch iawn (bod y gwerthiant wedi’i atal) achos dydy ni fel teulu ddim eisiau gweld y lle’n cael ei golli.

“Mae’n rhaid sicrhau dyfodol hirdymor y lle a gwneud yn siŵr fod y lle’n cael ei ddiogelu.

“Dyna beth yw’r cam nesaf nawr dw i’n meddwl.

“Dw i wedi bod mor falch o hanes yr hyn wnaeth Lewis Williams ei wneud dros yr iaith, mae o’n rhywbeth mae’r teulu i gyd yn falch iawn ohono.

“I ni, mae o fel symbol o’r hyn wnaeth o, a byddai gweld hynna’n mynd yn drist iawn.”

‘Ymgynnull’

Datgelodd Owain Grant ei fod wedi ysgrifennu llythyr at yr ymddiriedolwyr, gafodd ei arwyddo gan 14 aelod o’r teulu, yn dweud nad oedden nhw am weld y tŷ’n cael ei werthu.

“Roedd y teulu i gyd yn hapus i arwyddo’r llythyr hwnnw achos cafodd y Tŷ ei roi i’r Cymry a dw i dal yn teimlo bod angen lle i ymgynnull,” eglura.

“Mae’n annheg iawn i mi feirniadu’r bobol sydd wedi bod yn rhedeg y lle, ond efallai y gallai wedi cael ei redeg yn well.

“Er enghraifft, maen nhw wedi bod yn talu treth ar y lle, pan rili dylan nhw wedi cael statws elusennol ar y tŷ.

“Felly mae arian wedi cael ei golli dros y blynyddoedd oherwydd hynny.”

Cyfreithwyr

“Mae pobol allan yna sydd â syniadau da ar gyfer y lle ac maen nhw wedi cael eu hanwybyddu,” meddai wrth drafod cynlluniau’r grŵp o bobol leol.

“Mae yno dri pherson yna sy’n gwneud y penderfyniadau i gyd, mae un wedi bod yn brilliant ac yn erbyn y gwerthiant a dyw’r ddau arall ddim hyd yn oed wedi ymateb i ni o gwbl.

“Dw i ddim wedi clywed dim byd ganddyn nhw, a dw i’n gweld hynna yn gwbl amharchus.

“Doeddwn i hefyd ddim yn hapus o gwbl i weld bod y plac oedd yn deyrnged iddo wedi cael ei dynnu i lawr.

“Dw i’n becso os nad yw’r bobol yma’n bod yn fwy agored a dechrau cynnal trafodaeth gyda phobol y bydd yn rhaid i ni ddod â chyfreithwyr i mewn.

“Dw i ddim eisiau gorfod gwneud hynny, ond mi fyddwn i’n fodlon gwneud oherwydd dyna pa mor gryf rydyn ni’n teimlo fel teulu i achub y lle.”

‘Teimladau cryf’

Un ddynes sy’n cofio Tŷ’r Cymry’n cael ei roi i Gymry Caerdydd gan Lewis Williams ydi, Megan Grant, wyres Lewis Williams.

“Roedd o (Lewis Williams) eisiau i’r tŷ fod ar gyfer pobol Cymru,” meddai wrth golwg360.

“Doedd dim llawer o arian ar gael bryd hynny, felly fe wnaeth o eu hariannu fel bod gan Gymry Caerdydd, y myfyrwyr ac ati le i gyfarfod ac i siarad gyda’i gilydd yn yr iaith Gymraeg.

“Gwelodd yr angen am hynny yng Nghaerdydd, yn enwedig yn y 1930au, lle saff i bobol allu siarad yn ei hiaith eu hunain, a dysgwyr wrth gwrs.

“Oherwydd yn y 30au, doedd dim llawer o gwmpas o gwbl… roedd yr iaith o dan ymosodiad.

“Roedd ganddo deimladau cryf iawn am yr iaith Gymraeg, dyna oedd popeth iddo.”

Saunders Lewis

Ychwanegodd: “Byddai ddim ond yn siarad Cymraeg ar ei ffarm, oni bai bod rhaid trafod busnes gyda phobol.

“Roedd yn cynnal cyfarfodydd cyson gyda phobol megis Saunders Lewis, a fyddai’n dod draw am swper a thrafod yr iaith gyda fy nhaid.

“Pe bai’n gallu gweld y ffordd mae’r iaith wedi esblygu erbyn hyn, byddai’n hynod falch.

“Roedd hynny’n uchelgais fawr ganddo, a beth fyddai o wir wedi mwynhau i weld byddai’r Mudiad Meithrin yn Nhŷ’r Cymry, a chael gweld y plant yn dysgu’r iaith oherwydd dyna lle mae dy ddyfodol di ynte.

“Ond pe bai’n gweld bod cynlluniau i werthu’r lle, byddai hynny yn ei arswydo.

“Pa hawl sydd ganddyn nhw i wneud hynny? Dw i’n meddwl bod yr holl beth yn od iawn.”

Mae golwg360 wedi ceisio cysylltu â’r ymddiriedolwyr er mwyn cael ymateb.

Ffrae ynghylch dyfodol canolfan Gymraeg Tŷ’r Cymry

Cymdeithas yr Iaith “methu’n lan â deall” penderfyniad i werthu’r adeilad ar Gordon Road yng Nghaerdydd

Galw am achub canolfan Tŷ’r Cymry yng Nghaerdydd

Rhodd “i Gymry Caerdydd” gan Lewis Williams oedd Tŷ’r Cymry yn 1936