Bydd ‘pentref ailddefnyddio’ yn lleihau gwastraff drwy atygyweirio a rhoi bywyd newydd i eitemau yn lle eu taflu.

Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin a chwmni CWM Environmental wedi datgelu cynllun newydd a fydd yn lleihau gwastraff yn y sir.

Y bwriad y darparu canolfan addysgu, caffi, a thoiledau ar y safle yn Nantycaws, yn ogystal â phrofiad siopa cynaliadwy drwy roi bywyd newydd i wahanol eitemau cartref.

Yn ôl y Cyngor Sir, bydd y prosiect yn annog ymwelwyr i roi eitemau yn hytrach na chael gwared arnynt, a phrynu eitemau ail law.

Ynghyd â hynny, bydd prosiectau ar gyfer y dyfodol yn cynnwys siop ailddefnyddio yn nhref Llanelli, ac mewn lleoliadau eraill yn y sir gan gyfrannu at y nod o greu economi gylchol ar gyfer y sir.

Gwerthfawr

Mae economi gylchol yn canolbwyntio ar ddileu gwastraff drwy leihau’r defnydd o eitemau sy’n cael eu taflu, a throi hen ddeunyddiau yn adnoddau gwerthfawr.

Bydd y prosiect yn cael ei ariannu drwy gronfa Economi Gylchol Llywodraeth Cymru er mwyn helpu i sefydlu economi gylchol yng Nghymru.

Yn ogystal, mae’r math yma o economi yn rhan allweddol a gweithredu ar newid hinsawdd, ac yn cynnig cyfleoedd economaidd sylweddol.

“Mae’r pentref ailddefnyddio yn gam cyffrous fel rhan o daith Sir Gaerfyrddin tuag at economi gylchol,” meddai’r Cynghorydd Hazel Evans, Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd.

Rhesymol

“Mae’r prosiect yn ceisio lleihau gwastraff ac mae’n hybu ailddefnyddio ac addasu eitemau, yn hytrach na’u gwaredu heb fod angen.

“Bydd y pentref ailddefnyddio yn darparu profiad siopa amgen lle gellir prynu eitemau o safon am gost resymol,” ychwanegodd.

“Bydd mannau rhoi eitemau ar gael yng nghanolfannau ailgylchu gwastraff y cartref y sir lle gall preswylwyr roi eitemau o ansawdd rhesymol nad ydynt yn eu defnyddio mwyach.

“Gallai hyn gynnwys unrhyw beth, megis beic sy’n rhy fach, cist ddillad sydd angen eu huwchgylchu neu gonsol gemau nad yw’n cael ei ddefnyddio mwyach.”