Mae Heddlu’r Gogledd wedi arestio un dyn ac yn dal i chwilio am ddau berson arall wedi i garafanau gael eu dwyn yn y gogledd dros nos.

Yn gynnar y bore yma roedd yna rybudd i yrwyr osgoi Ffordd y Gogledd yng Nghaernarfon wedi i blismyn stopio cerbydau a oedd yn tynnu’r carafanau.

Credir bod dau berson wedi dianc mewn pedwerydd cerbyd a bod platiau adnabod y ceir, o bosib, wedi cael eu newid.

Mae’n debyg, hefyd, fod platiau adnabod y carafanau wedi cael eu newid ac yn dangos rhifau Gwyddelig.

Mae sôn ar led fod o bosib saith neu fwy o garafanau wedi cael eu dwyn dros nos.

Dywedodd yr Arolygydd Trystan Bevan o Heddlu’r Gogledd wrth y BBC: “Ry’n yn parhau i geisio canfod pwy yw perchnogion y carafanau.

“Ry’n yn ymwybodol bod y digwyddiad yn rhan o weithred ar y cyd lle cafodd o leiaf chwe charafan o ogledd Cymru eu dwyn dros nos.

“Mae ymchwiliadau cychwynol yn awgrymu bod hi’n drosedd sydd wedi’i threfnu gan gang o bobl a deithiodd yn benodol i’r gogledd er mwyn dwyn carafanau.

“Ry’n yn gofyn i berchnogion carafanau a safleoedd gwersylla i adolygu eu trefniadau diogelwch yn sgil y troseddau yma.

“Ry’n hefyd yn apelio ar unrhyw un sydd â lluniau fideo o ffyrdd yr A499 a’r A487 rhwng hanner nos a 07:00, fore Gwener i gysylltu â ni ar 101 gan nodi cyfeirnod Z066677.”

Atal

Cafodd y stori sylw gan golwg360 y bore yma wedi i Heddlu’r Gogledd rannu gwybodaeth ar Trydar.

Digwyddodd cyrch yr heddlu ger trofan Morrisons ar Ffordd y Gogledd toc wedi chwech o’r gloch y bore pan gafodd tair carafan a cherbyd eu hatal.

Roedd y cerbydau oedd yn tywys y carafannau a’r carafanau eu hunain wedi cael eu gadael ynghanol y ffordd brysur gan greu cryn oedi i fodurwyr a thrafnidiaeth arall.

Roedd nifer o aelodau Heddlu’r Gogledd yn rhan o’r cyrch ynghŷd a nifer o geir yr heddlu.

Fe greodd y digwyddiad giwiau hirion o draffig ar ffordd yr A487 i’r ddau gyfeiriad – tuag at Fangor a Phorthmadog.

Cafodd teithwyr gyngor gan yr heddlu i osgoi’r ardal oherwydd y ciwiau.