Mae disgwyl y bydd dwy filiwn o bobol yng Nghymru wedi derbyn dos cyntaf o’r brechlyn yn erbyn Covid-19 erbyn diwedd y penwythnos.
Yn ôl Mark Drakeford, mae cyfradd yr haint yn parhau yn isel iawn yng Nghymru, gyda 1 10 achos i bob 100,000 o’r boblogaeth.
Dim ond tri pherson sydd mewn unedau gofal critigol mewn ysbytai yng Nghymru, ac mae’r nifer o bobol sydd mewn ysbytai yn is nag ers dechrau’r pandemig.
Dywedodd y Prif Weinidog fod y Llywodraeth o fewn cyrraedd eu targed o frechu pob oedolyn erbyn canol mis Gorffennaf, ac os bydd mwy o frechlynnau ar gael, bydd y rhaglen yn cyflymu.
“Dros yr wythnosau nesaf fe fyddwn ni’n cyflymu’r rhaglen frechu hyn yn oed yn gynt,” meddai Mark Drakeford.
Lefel Rhybudd 2
Yn ystod cynhadledd Llywodraeth Cymru heddiw, fe wnaeth e hefyd gadarnhau y bydd Cymru’n symud i Lefel Rhybudd 2 ddydd Llun (Mai 17).
Bydd hyn yn golygu fod lletygarwch tu mewn yn ailddechrau gyda grwpiau o chwe pherson o chwe chartref gwahanol, llety gwyliau yn ailagor yn llawn, canolfannau adloniant yn ailagor, atyniadau dan do yn agor, hyd at 30 o bobol yn cael cyfarfod dan do, a 50 tu allan.
“Dydd Llun, byddwn yn codi’r cyfyngiadau ar y niferoedd sy’n cael ymweld â phobol mewn cartrefi gofal y tu mewn,” meddai Mark Drakeford.
“Bydd yr adolygiad tair wythnos nesaf yn cael ei gynnal ar ddechrau mis Mehefin.
“Os ydy’r iechyd cyhoeddus yn parhau’n gadarnhaol fe fyddwn ni’n ystyried a allwn ni symud i lefel rhybudd un.”
Byddai hynny’n cynnwys edrych ar lacio’r rheolau ynghylch cyfarfod mewn cartrefi, cynyddu nifer y bobol sy’n cael mynychu priodasau, ac ailgychwyn digwyddiadau mwy.
Bydd Cymru ond yn symud i Lefel 1 erbyn dechrau mis Mehefin os yw’r sefyllfa iechyd cyhoeddus yn ffafriol.
Ar Fai 24, bydd y cyfyngiadau ar faint o bobol sy’n cael ymweld â chartrefi gofal yn cael ei godi hefyd.
Ailddechrau digwyddiadau bychan
Gallai’r oedi ar ailddechrau digwyddiadau bach ddod i ben yr wythnos nesaf hefyd, os nad yw amrywiolyn India yn golygu fod angen cyfyngiadau.
Dywedodd Mark Drakeford fod yna 26 achos o’r amrywiolyn newydd yng Nghymru, a’u bod nhw yn gysylltiedig â theithio dramor.
Mae gwyddonwyr yn credu y gallai’r amrywiolyn ledaenu’n haws ac yn gyflymach na’r amrywiolyn a gafodd ei ddarganfod yng Nghaint llynedd.
Yn ôl Mark Drakeford, roedd Llywodraeth Cymru wedi bwriad caniatáu “gwyliau bwyd rydych chi’n eu gweld mewn cymunedau lleol, a digwyddiadau bychan fel cerddoriaeth neu gelf byw”.
Mae disgwyl i grŵp SAGE y Deyrnas Unedig roi cyngor yn hwyrach ymlaen heddiw, a bydd cynghorwyr gwyddonol Cymru yn gwneud yr un fath “yn fuan”.
Dywedodd Mark Drakeford nad yw’n “poeni’n ormodol” am yr amrywiolyn newydd yng Nghymru, ond fod y broblem yn fwy yn Lloegr.
Bydden nhw’n gwylio’r sefyllfa yng ngogledd orllewin Lloegr, meddai’r Prif Weinidog, ac yn ystyried sut y gallai’r feirws ledaenu i ogledd ddwyrain Cymru.
Pwysleisiodd nad ydyn ni’n gwybod digon am yr amrywiolyn, y ffordd mae’n teithio, a pha mor effeithiol yw’r brechlyn yn ei erbyn eto.
Sefyllfa iechyd cyhoeddus
Nid oes yr un farwolaeth Covid-19 wedi’u cyhoeddi yng Nghymru heddiw (dydd Gwener, Mai 14), sy’n golygu fod cyfanswm y marwolaethau yn aros ar 5,558 ers dechrau’r pandemig.
Cafodd 54 o achosion newydd eu cofnodi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan fynd a’r cyfanswm achosion positif i 212,095.
Dydy’r ffigurau ddim yn debygol o fod yn fanwl gywir yn sgil y ffordd y caiff achosion a marwolaethau eu cofnodi a’u hadrodd.
Erbyn hyn mae 1,990,738 o bobol yng Nghymru wedi derbyn dos cyntaf o’r brechlyn, a 891,569 o bobol wedi derbyn cwrs llawn.