Bydd Amgueddfa Cymru yn dechrau ailagor ei amgueddfeydd i’r cyhoedd o ddydd Mercher ymlaen.

Bydd Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe, oll yn ailagor ddydd Mercher, Mai 19 a byddant ar agor bob dydd Mercher, Iau, Gwener, Sadwrn a Sul drwy archebu o flaen llaw.

Bydd Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru yn ailagor ddydd Iau, Mai 20a bydd ar agor bob dydd Iau, Gwener, Sadwrn a Sul drwy archebu o flaen llaw.

Nid yw’r daith danddaearol ar gael ar hyn o bryd.

‘Pleser’

Bydd Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis yn ailagor ddydd Iau Mai 20 a bydd ar agor bob dydd Iau, Gwener, Sadwrn, Sul a Llun yn mis Mai ac yn newid i Mercher-Sul o Fehefin ymlaen.

Bydd Amgueddfa Wlân Cymru, Drefach Felindre ac Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion hefyd yn agor ddydd Iau, Mai 20 ac ar agor bob dydd Iau, Gwener a Sadwrn drwy archebu o flaen llaw.

Bydd pob un o’r saith Amgueddfa hefyd ar agor ar Wyliau Banc – dydd Llun Mai 31 a dydd Llun, Awst 30 2021.

Dywedodd David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru: “Mae’n bleser gennym allu croesawu ymwelwyr yn ôl i’n hamgueddfeydd cenedlaethol.

“Rydym yn ailagor unwaith eto gydag ystod lawn o fesurau diogelwch yn eu lle er mwyn sicrhau fod pawb yn gallu mwynhau ymweliad diogel a braf.”