Mae Wrecsam wedi cadarnhau bod eu rheolwr Dean Keates wedi gadael y clwb.

Daeth y cyhoeddiad neithiwr ar ôl i’r tîm golli cyfle i sicrhau lle yng ngemau ail gyfle’r Gynghrair Genedlaethol.

Roedd cytundeb Keates yn dod i ben ar ddiwedd y tymor ac ni fydd yn cael ei adnewyddu.

Mae wedi bod wrth y llyw ers 2019, ei ail gyfnod fel rheolwr yn y clwb.

Cyn hynny roedd yn chwaraewr i’r Dreigiau.

Roedd Wrecsam wedi colli eu lle yn safleoedd gemau ail gyfle Cynghrair Genedlaethol Lloegr ar ddiwrnod ola’r tymor wedi iddyn nhw gael gêm gyfartal oddi cartref yn Dagenham & Redbridge.

Mae Keates yn gadael y Cae Ras ynghyd â’r rheolwr cynorthwyol, Andy Davies a hyfforddwr y tîm cyntaf, Carl Darlington.

Mewn datganiad, dywedodd y cyd-gadeiryddion Rob McElhenney a Ryan Reynolds: “Hoffen ni ddiolch i Dean, Andy a Carl am eu holl ymdrechion ar ran y clwb, mewn amgylchiadau a oedd ar adegau yn heriol.

“Rydym wedi ymrwymo i ddychwelyd y clwb i’r Gynghrair ar y cyfle cyntaf ac rydym yn teimlo y bydd newid rheolwr yn rhoi’r cyfle gorau i ni gyflawni’r amcan hwnnw.

“Bydd croeso bob amser i Dean, Andy a Carl yn y clwb.”