Mae Michael Hogan, y bowliwr sy’n un o hoelion wyth tîm criced Morgannwg ac sy’n dathlu ei ben-blwydd yn 40 oed heddiw (dydd Llun, Mai 31), wedi llofnodi cytundeb i’w gadw gyda’r sir am o leiaf un tymor arall.
Y bowliwr sy’n enedigol o Awstralia sydd ar frig rhestr wicedi’r sir y tymor hwn (20), ac fe gipiodd e bum wiced yn y fuddugoliaeth dros Gaint yn ddiweddar.
Ers ymuno â Morgannwg yn 2012, mae e wedi cipio cyfanswm o 398 o wicedi mewn 104 o gemau (ar gyfartaledd o 22.96).
Mewn 44 o gemau undydd Rhestr A, mae e wedi cipio 67 o wicedi, a dim ond dau chwaraewr sydd wedi cipio mwy o wicedi na’i 94 e mewn gemau ugain pelawd i’r sir.
Roedd e’n gapten ar Forgannwg yn 2018, a chafodd ei enwi’n Chwaraewr y Flwyddyn ar ddiwedd ei ddau dymor cyntaf gyda’r sir yn 2013 a 2014.
‘Hapus iawn i ymrwymo’
“Dw i’n hapus iawn i ymrwymo i Forgannwg am flwyddyn arall,” meddai.
“Dw i’n troi’n 40 heddiw ond dw i’n teimlo fy mod i wedi bod yn bowlio cystal ag erioed, ac mae hen ddigon ar ôl yn y tanc.
“Mae’n gyfnod cyffrous yn y clwb gyda llawer o chwaraewyr ifainc talentog yn torri trwodd ac fel tîm, rydyn ni wedi chwarae criced da iawn eleni.
“Fy uchelgais o hyd yw ennill tlws gyda’r clwb a dw i ddim yn meddwl ein bod ni’n bell i ffwrdd o wneud hynny.”
‘Un o’n chwaraewyr sy’n sefyll allan’
“Mae Hoges wedi mwynhau dechrau gwych i’r tymor ac mae e wedi bod yn un o’n chwaraewyr sy’n sefyll allan,” meddai Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced Morgannwg.
“Mae e’n sicr yn dal i arwain yr ymosod ac yn gallu perfformio er mwyn ennill gemau fel dangosodd e yn erbyn Caint.
“Mae e hefyd wedi chwarae rhan fawr wrth helpu i ddod â’n bowlwyr ifainc drwodd, gan rannu ei gyfoeth o wybodaeth a phrofiad gyda nhw, sydd wedi cyflymu eu datblygiad.
“Mae Hoges wedi bod yn was ffyddlon iawn i Forgannwg ers bron i ddegawd bellach, ac mae’n newyddion gwych i’r tîm, y clwb a’r cefnogwyr ei fod e wedi llofnodi am flwyddyn arall.”