Mae’r canwr Neil Rosser, sy’n gefnogwr brwd o dîm pêl-droed Abertawe ac a gafodd y cyfle i fod yn Wembley ddoe (dydd Sadwrn, Mai 30) yn teimlo bod y tîm wedi “gorgyflawni” y tymor hwn er iddyn nhw golli o 2-0 yn rownd derfynol y gemau ail gyfle yn erbyn Brentford.
Aeth yr Elyrch gam ymhellach y tymor hwn na’r tymor diwethaf, pan gollon nhw yn erbyn Brentford yn y rownd gyn-derfynol, ac mae eu llwyddiant wedi dod er mai prin yw’r arian sydd wedi bod ar gael i brynu chwaraewyr, a’r rheolwr Steve Cooper yn dibynnu ar y to iau a chwaraewyr sydd ar fenthyg o glybiau eraill.
“Roedd e’n wych,” meddai am y profiad o fod yn y stadiwm.
“Roedd tipyn o awyrgylch yna. I feddwl mai dim ond 5,000 o gefnogwyr o’r ddwy ochr oedd yna, roedd tipyn o sŵn.
“Ac roedd hi’n grêt bo nhw wedi chwarae anthem Cymru ar y dechrau, oedd wedi rhoi cyfle i ni ddangos bo ni’n wahanol.
“Roedd y cefnogwyr oedd yna wir yn gefnogwyr y clwb, felly roedd yr awyrgylch yn eitha’ sbesial.”
Ar ben hynny, mae’n dweud ei fod yn teimlo’n “saff” yn y stadiwm gyda’r trefniadau Covid-19 yn eu lle.
“Roedd o leia’ saith neu wyth sedd rhyngof fi a’r person drws nesa’, felly os o’ch chi’n mo’yn cadw pellter, roedd hi’n bosib cadw pellter. Felly roedd e’n wych, y trefniadau’n dda a’r awyrgylch yn dda.
“Dyna’r pedwerydd tro i fi fod yn Wembley gyda’r Elyrch a dyw e byth yn siomi. Mae rhywbeth sbesial am y peth.”
Y canlyniad ‘ddim yn hollol annisgwyl’
Ond yn ôl Neil Rosser, doedd y canlyniad “ddim yn hollol annisgwyl” yn erbyn tîm Brentford oedd wedi colli yn y rownd derfynol y tymor diwethaf.
“Ar y diwrnod, roedd Brentford, yn enwedig yn ymosod, yn dîm oedd yn dangos y safon a’r profiad sydd gyda nhw,” meddai.
“Fi’n credu, ar ôl 90 munud, mai nhw yn haeddiannol oedd wedi ennill y gêm, doedd dim unrhyw ddadleuon fynna, er bod ambell i chwaraewr Brentford yn cael trafferth gyda’u balans nhw ac yn anffodus yn gorfod cwympo ar y llawr yn aml – ro’n i’n teimlo drostyn nhw, druan â nhw!”
Wrth edrych ar y tymor yn ei gyfanrwydd, gyda’r Elyrch yn gorffen yn bedwerydd yn y tabl gan ennill hanner eu gemau, dydy e ddim yn teimlo bod y ffeinal yn adlewyrchiad o’u perfformiadau trwy gydol y tymor.
Mae Andre Ayew a Jamal Lowe wedi bod yn arwain yr ymosod, gyda 31 o goliau rhyngddyn nhw allan o gyfanswm o 56 i’r tîm cyfan – ond dydy’r naill na’r llall ddim yn ymosodwr cydnabyddedig ond yn flaenwyr.
Yn y cefn, mae Ben Cabango a Marc Guehi, dau chwaraewr 20 oed, wedi bod yn arwain y llinell amddiffynnol am ran helaeth o’r tymor.
Ond mae’r cyfan wedi dod ynghyd yn erbyn y ffactorau.
“Mae’r rheolwr wedi gorfod bod yn ymarferol iawn yn y ffordd mae e’n chwarae, newid steil, newid patrwm yn aml, newid y personél er mwyn trio cael y canlyniadau, felly mae e wedi gwneud gwyrthiau gydag ychydig iawn o adnoddau a heb ymosodwr sy’n gallu sgorio goliau yn gyson,” meddai.
“Os rhywbeth, mae Abertawe wedi gor-gyflawni.
“Gyda’r adnoddau sydd gyda nhw, mae’r rheolwr wedi gwneud gwyrthiau.
“Fi’n credu mai’r broblem oedd fod e wedi methu dod ag ymosodwr mewn ym mis Ionawr. Fi’n gwybod fod yna foi o Southampton [Michael Obafemi] gyda nhw mewn golwg ond gafodd e anaf.
“Ond ar ôl hynna, doedd hi ddim fel tase neb arall gyda nhw mewn golwg i ddod mewn i’r clwb, felly mae e wedi gorfod chwarae Lowe ac Ayew allan o’u safle naturiol ac o achos hynny, roedd y goliau wedi sychu lan.
“Ac er mor dda ry’n ni wedi bod yn amddiffynnol, roedd y blip yna gawson ni ym mis Mawrth [pedair colled heb gôl] wedi costio ni’n ddrud.
“Ond fi’n dal ddim yn feirniadol o’r rheolwr, fi wir yn credu mai tîm canol adran yw Abertawe ond o achos Cooper, mae e wedi gor-gyflawni ac wedi llwyddo i gael ni mewn i’r gemau ail gyfle, so mae yna lot o glod iddo fe.”
Dyfodol y rheolwr
Ond fel yn achos Graham Potter, a gafodd ei benodi’n rheolwr gan Brighton yn dilyn tymor llwyddiannus gydag Abertawe yn 2018-19, gallai’r Elyrch dalu’r pris am ddau dymor llwyddiannus o dan reolaeth y Cymro Steve Cooper.
Mae adroddiadau’n ei gysylltu â swydd rheolwr Crystal Palace, ac mae ei enw’n cael ei grybwyll bron bob tro y daw swydd rheolwr yn wag ar hyn o bryd.
Ac mae Neil Rosser yn poeni y gallai colli Cooper arwain at drafferthion mawr i’r clwb, sydd newydd golli’r cyfle i gael dyrchafiad cyn i’w taliadau parasiwt o’r Uwch Gynghrair ddod i ben dair blynedd ar ôl iddyn nhw ostwng i’r Bencampwriaeth.
Y prif bryder, meddai, yw y gallai Abertawe golli nifer o chwaraewyr i Crystal Palace hefyd – o’r rhai mwyaf profiadol i’r cysylltiadau posib sydd gan Cooper ar ôl bod yn gweithio gyda chwaraewyr ifainc Lloegr.
“Fi’n poeni am y dyfodol achos os elai fe, gallai e fynd â rhai o’n sêr ni gyda fe fel sydd wedi digwydd yn y gorffennol yn Abertawe,” meddai.
“Mae Andre Ayew yn Connor Roberts yn ddigon da i chwarae rywle arall.
“Byddwn ni’n colli’r chwaraewyr yma sydd ar fenthyg beth bynnag – maen nhw yna achos bod Cooper wedi’u denu nhw yna, felly gallai’r ffynhonnell yna o chwaraewyr da ar fenthyg sychu lan.
“Felly byddai’r sgwad yn edrych yn wahanol iawn, fi’n credu, ar ddechrau’r tymor nesa’ os byddai Steve Cooper yn cael ei ddenu i glwb fel Palace.”
Y dyfodol heb y rheolwr
Pe bai Steve Cooper yn mynd, byddai’r cefnogwyr yn gobeithio bod cynllun wrth gefn gan yr Elyrch fel oedd ganddyn nhw ar ddechrau’r degawd cyn iddyn nhw golli eu ffordd a gwneud sawl penodiad aflwyddiannus wrth i’w tranc ddechrau.
Roedd penodiadau yn ystod y cyfnod hwnnw, yn ôl Neil Rosser, yn gyfuniad o benodiadau da a lwc.
“Rwyt ti’n meddwl ’nôl mor bell yn ôl â Brendan Rodgers a Martinez,” meddai.
“Mae pob un rheolwr heblaw Michael Laudrup wedi gwneud argraff ac wedi symud y clwb ymlaen.
“Felly maen nhw wedi bod yn lwcus, fi’n credu, ac wedi gwneud penodiadau da.
“Ond mae’r lwc yna’n mynd i redeg ma’s rywdro.”
At bwy ddylai’r Elyrch droi, felly, pe bai Cooper yn mynd?
“Yr unig beth, fi’n credu, allai gael ni ma’s o’r sefyllfa os byddai Cooper yn mynd yw bo ni’n troi ’nôl at un o chwaraewyr y clwb fel Leon Britton neu Alan Tate fel bo ni’n cael yr ysbryd yna ’nôl a rhywun sy’n deall pwysigrwydd y clwb i’r cefnogwyr,” meddai.
“Yr unig beth, fi’n credu, allai achub ni yw bo ni’n mynd ’nôl i edrych ar rywun fel Leon Britton neu hyd yn oed Alan Tate fel rhyw fath o gyd-reolwyr a bydden nhw’n cael amser gyda’r cefnogwyr wedyn achos bo nhw mor boblogaidd yn y clwb.
“Mae Steve Cooper yn deall hyn achos mae e’n foi o Bontypridd yn wreiddiol, ond mae’n rhaid i chi gadw’r angerdd yna yn y cefnogwyr er mwyn symud y clwb ymlaen.
“Fydden i ddim mo’yn gweld rhywun o dramor yn ei chael hi.
“Dw i ddim yn gweld neb arall yn gallu troi’r sefyllfa hyn rownd.
“Mae pwy bynnag sy’n cymryd e’n gorfod derbyn fod yna ddim adnoddau a dim cefnogaeth ariannol yn mynd i fod iddyn nhw – tra bod yr Americanwyr yna, dyna’r sefyllfa sydd gyda ni.
“Does dim unrhyw ddiddordeb gyda rheiny i fuddsoddi yn y clwb, felly mae’n mynd i fod yn anodd iawn os collwn ni Cooper a fi yn ofni y byddai e’n mynd ac o bosib yn mynd â chwaraewyr gyda fe.
“Y broblem nawr, wrth gwrs, yw os allwn ni gadw ymlaen i Cooper, os gallwn ni sicrhau bo fe’n aros gyda ni.
“Byddai’n drueni mawr tase fe’n mynd.”
Sefyllfa ariannol – tymor ola’r parasiwt
Ar ben sefyllfa’r rheolwr, gallai parhau i werthu’r chwaraewyr gorau arwain at ragor o drafferthion i’r clwb, meddai, yn enwedig wrth iddyn nhw orfod cadw’r ddisgl yn wastad o ran arian y clwb ar ôl colli’r taliadau parasiwt.
“Mae yn edrych yn eitha’ ansefydlog arnon ni nawr achos y sefyllfa ariannol a hefyd o achos y tueddiad yma sydd wedi bod yn y tair neu bedair blynedd diwetha’ o werthu’r chwaraewyr gorau a dod â chwaraewyr newydd mewn ar fenthyg,” meddai.
“Neu, wrth gwrs, ry’n ni wedi datblygu lot o chwaraewyr ifainc ein hunain ac mae hwnna wastad yn dda i’w weld ond eto, mae Cooper â lot i’w wneud â’r llwyddiant yna.
“Felly wy wir yn meddwl fod e’n hanfodol bo ni’n cadw ymlaen i Steve Cooper os ydyn ni’n mynd i symud ymlaen eto.
“Gyda fe, fi yn gweld gobaith. Ond hebddo fe, fi’n credu mae’n mynd i fod yn eitha’ ansefydlog yn y clwb.”