Mae Brentford wedi ennill dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr ar draul Abertawe.

Collodd yr Elyrch o 2-0 yn rownd derfynol y gemau ail gyfle yn Wembley.

Aeth Brentford ar y blaen ar ôl naw munud ar ôl i’r golwr Freddie Woodman, oedd eisoes wedi ennill y Faneg Aur yn y Bencampwriaeth, faglu Bryan Mbeumo ar ôl i hwnnw dderbyn pêl drwy’r bwlch gan Sergi Canos.

Camodd Ivan Toney i fyny i sgorio gôl rhif 33 y tymor i roi ei dîm ar y blaen.

Ddeng munud yn unig gymerodd hi iddyn nhw ddyblu eu mantais, wrth i Emiliano Marcondes rwydo o’r tu fewn i’r cwrt cosbi.

Dechreuodd y symudiad hwnnw pan gollodd Andre Ayew y bêl yn ei gwrt cosbi ei hun, gyda Mbeumo yn rhedeg hyd y cae.

Cafodd e gefnogaeth Mads Roerslev, a hwnnw’n taro’r bêl i Marcondes.

Gallen nhw fod wedi sgorio trydedd eiliadau’n ddiweddarach wrth i Toney daro’r trawst.

Roedd hi ar ben ar yr Elyrch unwaith ac am byth ar ôl 64 munud, gydag Andre Ayew yn methu â manteisio ar gyfle am beniad i’r rhwyd, cyn i Jay Fulton gael cerdyn coch am dacl flêr ar Mathias Jensen, er iddo fe lithro wrth ddechrau’r dacl.

Dyma ddegfed cynnig Brentford i fynd am ddyrchafiad drwy’r gemau ail gyfle, ac maen nhw wedi llwyddo naw mis ar ôl iddyn nhw golli yn erbyn Fulham.

Maen nhw’n ymuno â chriw dethol o glybiau sydd wedi ennill dyrchafiad flwyddyn ar ôl colli’r ffeinal – criw sy’n cynnwys Caerlŷr, Crystal Palace, West Ham ac Aston Villa.

Thomas Frank hefyd yw’r rheolwr cyntaf o Ddenmarc i ennill dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair.