Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn dweud ei fod e’n “siomedig” ar ôl i’w dîm golli o 2-0 yn erbyn Brentford yn ffeinal gemau ail gyfle’r Bencampwriaeth yn Wembley ddoe (dydd Sadwrn, Mai 29), ond na ddylid “colli golwg ar y ffaith fod cyrraedd mor bell yn ymdrech anhygoel”.

Roedd hi ar ben ar yr Elyrch, i bob pwrpas, yn gynnar yn yr ornest wrth i Ivan Toney ac Emiliano Marcondes rwydo o fewn yr ugain munud agoriadol.

Daeth cyfle gorau’r Elyrch oddi ar beniad gan Andre Ayew.

Ond roedd y dasg yn fwy anodd fyth ar ôl i Jay Fulton gael cerdyn coch ar ôl 64 munud am dacl flêr anffodus wrth lithro i’r llawr yn ddamweiniol.

Serch hynny, mae Steve Cooper wedi canmol ei garfan am eu hymdrechion drwy gydol y tymor hir.

“Rydyn ni’n siomedig na wnaethon ni ennill y gêm, ond dw i ddim yn mynd i eistedd yma a beirniadu unrhyw beth oherwydd y tymor gawson ni,” meddai.

“Does dim byd alla i ei ddweud fydd yn gwneud i neb deimlo’n well ar hyn o bryd, ond allwn ni ddim colli golwg ar y ffaith fod cyrraedd mor bell yn ymdrech anhygoel.

“Dw i ddim am dynnu unrhyw beth o hynny oddi ar y chwaraewyr, rhaid i ni ei gymryd e fel mae e.

“Cafodd Brentford y fuddugoliaeth, llongyfarchiadau iddyn nhw.

“Roedd pethau y gallen ni fod wedi’u gwneud yn well yn y gêm, ond dw i ddim wir eisiau canolbwyntio arnyn nhw nawr.

“Dw i eisiau rhoi’r clod a’r parch i’r bois maen nhw’n ei haeddu am eu hymdrechion y tymor hwn.”

Elyrch yn Wembley

Siom i’r Elyrch yn Wembley

Brentford yn ennill o 2-0 i sicrhau eu lle yn Uwch Gynghrair Lloegr