Mae Kevin Ellison, sy’n chwarae i dîm pêl-droed Casnewydd, yn cael ei gymharu â Stanley Matthews wrth i’w dîm baratoi i chwarae yn Wembley yfory (dydd Llun, Mai 31).

Yn 42 oed, fe fydd e’n gobeithio camu allan i’r cae yn rownd derfynol gemau ail gyfle’r Ail Adran wrth i’r Alltudion herio Morecambe i geisio ennill dyrchafiad.

Ellison yw’r chwaraewr hynaf erioed – ac eithrio gôl-geidwaid – i chwarae yn y Gynghrair Bêl-droed yn dilyn ei ymddangosiad yn y rownd gyn-derfynol yn erbyn Forest Green, ac fe sgoriodd e chwip o gôl â’i droed chwith yn yr ail gymal i sicrhau’r fuddugoliaeth o 5-4 dros y ddau gymal.

Rhoddodd hynny’r cyfle iddo fe herio’i hen dîm Morecambe.

Ond a fydd e wir yn efelychu Stanley Matthews, oedd yn dal i chwarae ar ôl ei ben-blwydd yn 50 oed?

“Wnaeth rhywun grybwyll Stanley Matthews wrtha i ar ôl y gêm yn erbyn Forest Green,” meddai.

“Roedd e’n bêl-droediwr dipyn gwell na fi ond dwi am ei herio fe!

“Rhif yn unig yw oedran a dw i’n cymryd pob blwyddyn yn ei thro.

“Ond dw i eisiau parhau i chwarae, dw i’n teimlo’n dda felly gadewch i ni weld beth sydd gan y dyfodol i’w gynnig.”

Stori dylwyth teg

Roedd Kevin Ellison ar fin ymddeol y llynedd ar ôl 25 mlynedd pan ddaeth yr alwad gan Mike Flynn, rheolwr Casnewydd, yn gofyn iddo fe ymuno â’r clwb.

Roedd e wedi bwriadu mynd i weithio mewn ffatri ar ôl gadael Morecambe dan gwmwl ar ôl naw mlynedd yn dilyn ffrae â’r rheolwr Derek Adams.

Ac mae’n dweud y byddai’r swydd honno mewn ffatri’n golygu y byddai’n derbyn yr isafswm cyflog.

“Pe baen nhw wedi rhoi arian da i fi, byddwn i’n eu henwi nhw,” meddai.

“Ond dyna lle ces i fy hun, yn gwneud cais am swyddi.

“Mae gyda fi blant i’w bwydo, felly doedd hi ddim yn fater o fod yn fyfïol oherwydd fy mod i’n bêl-droediwr.

“Byddwn i wedi gwneud unrhyw beth.”

Magwraeth yng nghysgod caeau Lerpwl ac Everton

Cafodd Kevin Ellison ei eni a’i fagu yn Lerpwl, ac fe ddechreuodd ei yrfa amatur yn chwarae i Winchester ar Stanley Park, y cae sydd rhwng cartrefi Lerpwl ac Everton.

Mae’n rhestri Ian Rush a John Barnes ymhlith ei arwyr, ond fe wnaeth Lerpwl dorri ei galon pan wrthodon nhw ei gadw ar ôl saith mlynedd yn chwarae i’r tîm ieuenctid.

800 o gemau a 160 o goliau’n ddiweddarach, mae e’n dechrau edrych yn ôl ar yrfa sy’n cynnwys ymddangosiad fel eilydd i Gaerlŷr yn erbyn Manchester United yn Old Trafford a cholli gêm ail gyfle yn Wembley gyda Rotherham.

“Dw i’n edrych ar yr hyn sydd gyda fi a’r hyn y galla i ei gynnig i’r ystafell newid a dw i’n meddwl fy mod i’n gwasgu pob diferyn o ‘ngallu,” meddai.

Mae’n dweud mai prin yw’r alcohol mae’n ei yfed, mae’n bwyta’n well ac yn gofalu’n well amdano fe ei hun, gan gynnwys ymarfer ioga.

Talu’r pwyth?

Fe fydd y gêm yn erbyn Morecambe yn gyfle iddo fe herio Derek Adams unwaith eto, ond mae’n pwysleisio mai gêm rhwng dau dîm yw hi, ac nid rhyngddo fe a’i gyn-reolwr.

Pan sgoriodd e yn eu herbyn nhw ddeufis yn ôl, anelodd e am yr eisteddle lle’r oedd tîm hyfforddi Morecambe a dathlu o’u blaenau.

“Dw i’n falch fod yr hyn ddigwyddodd yn y Mazuma yn gynnar yn y tymor wedi digwydd, a ’mod i wedi gallu talu’r pwyth a chael yr emosiynau allan,” meddai.

“Ond mae hynny wedi mynd nawr.

“Mae hyn am Gasnewydd yn erbyn Morecambe, nid Kevin Ellison yn erbyn eu rheolwr nhw.

“Ond dw i’n credu mai ‘Amser Kevin’ fydd y ffeinal yma.”

Casnewydd yn mynd i Wembley

Kevin Ellison, 42, yn torri record drwy fod y sgoriwr hynaf yn hanes y gemau ail gyfle wrth i’r Alltudion guro Forest Green o 5-4 dros y ddau gymal