Wrth siarad â golwg360, mae un o gefnogwyr tîm pêl-droed Casnewydd yn dweud ei fod yn gobeithio y byddai ennill dyrchafiad i’r Adran Gyntaf yn “sbardun” i ddatblygu’r clwb.
Fe fydd yr Alltudion yn herio Morecambe yn Wembley yfory (dydd Llun, Mai 31) am le yn yr Adran Gyntaf – trydedd haen y Gynghrair Bêl-droed – a hynny ar ôl rownd gyn-derfynol gyffrous yn erbyn Forest Green, wrth i dîm Mike Flynn fynd â’r ornest o 5-4 dros y ddau gymal.
Mae Ben Moss, un o drigolion y ddinas sy’n gweithio fel athro Mathemateg, yn gobeithio y byddai codi un adran yn golygu bod y clwb yn cael mwy o sylw a buddsoddiad.
“Byddai ennill dyrchafiad yn golygu llawer i Gasnewydd,” meddai.
“Pan o’n i’n blentyn, roedd Casnewydd yn chwarae tu allan i’r Football League ac roedd pawb yn fy ysgol yn dilyn Uwchgynghrair Lloegr.
“Erbyn hyn, dw i’n gweithio fel athro a dw i’n gweld llawer o blant sy’n cefnogi Casnewydd.
“Mae gweld y baneri ar y tai yn fy ardal i’n arbennig o dda.
“Tasen ni’n chwarae yn y drydedd lefel, bydden ni’n cael mwy o sylw arnon ni.
“Y peth pwysicaf i ni, wrth symud ymlaen, yw cael ein cae ein hunain.
“Gobeithio y bydd ennill dyrchafiad yn sbardun i ni; efallai y byddai mwy o help o’n Cyngor yn help i ni, neu fuddsoddiad gan fusnesau lleol.”
Cofio siom a gorfoledd
Mae Casnewydd yn hen gyfarwydd ag ymweld â Wembley dros y degawd diwethaf.
Dychwelon nhw i’r Gynghrair Bêl-droed yn 2013 ar ôl absenoldeb o chwarter canrif, wrth iddyn nhw guro Wrecsam o 2-0, ond fe gollon nhw ffeinal y gemau ail gyfle o 1-0 yn erbyn Tranmere ddwy flynedd yn ôl.
Ac fe fydd y ddau achlysur yn aros yn y cof i Ben Moss, sy’n dweud na fydd e’n mynd i Wembley y tro hwn gan ei fod e a’i wraig yn disgwyl babi yn fuan.
“Dw i’n cofio’r siom o 2019 yn glir, ond dw i’n cofio’r gorfoledd o 2013 hefyd,” meddai.
“Dw i’n credu taw’r gemau ail gyfle yw’r ffordd orau o benderfynu pwy sy’n ennill dyrchafiad, ond mae’n greulon iawn hefyd.
“Gobeithio y bydd y chwaraewyr yn cofio 2019 yn iawn hefyd ac yn ei ddefnyddio fe fel ysbrydoliaeth.”
Ond yn sgil Covid-19, mae’n cydnabod y bydd y profiad ychydig yn wahanol y tro hwn – er ei bod hi’r un fath i’r ddau dîm.
“Roedd y broses o brynu tocynnau yn anodd ond mae’n swnio fel bod y rhan fwyaf o’r ffans ffyddlon yn mynd,” meddai.
“Mae gyda ni chwaraewyr wnaeth chwarae yn Wembley yn 2018 a 2019, a gobeithio y bydd y profiad hwnnw yn ein helpu ni.
“Bydd yn hyfryd i glywed Hen Wlad Fy Nhadau yn Wembley eto – ac yn gyfle iddyn nhw ymarfer cyn mis Gorffennaf gobeithio!” meddai wedyn wrth gyfeirio at y posibilrwydd y gallai’r tîm cenedlaethol gyrraedd rowndiau ola’r Ewros.
Josh Sheehan a Kevin Ellison
A beth am Josh Sheehan, un o’r rheiny allai fod yng ngharfan Cymru ar gyfer yr Ewros – a ddylai fod wedi cael cyfle i serennu unwaith yn rhagor yn Wembley cyn i’r garfan gael ei chyhoeddi heno (nos Sul, Mai 30)?
“Dw i ddim yn siŵr,” meddai Ben Moss.
“Dw i’n disgwyl gweld Josh Sheehan yn rhedeg y sioe beth bynnag sy’n digwydd gyda chyhoeddiad y garfan.
“Beth bynnag sy’n digwydd yn y gêm, bydd Sheehan siŵr o fod yn chwarae ar lefel uwch y tymor nesa’ – gyda ni, gobeithio!”
Oni bai am yr ysbryd yn y garfan, gallai’r gêm gyn-derfynol fod wedi bod yn wahanol iawn i Gasnewydd, wrth iddyn nhw fynd ar ei hôl hi’n gynnar yn yr ornest.
Ond a oedd e’n amau y bydden nhw’n ennill?
“Ar ôl yr wyth munud cyntaf, ro’n i’n nerfus iawn!” mae’n cyfaddef.
“Dechreuodd Forest Green fel trên stêm a do’n ni ddim yn gwybod sut i ddelio â nhw.
“A hefyd doedd dim ffans Casnewydd yna i roi hwb i’r chwaraewyr, ond gwellon ni ar ôl hynny, diolch byth, ac wedyn gwnaeth yr eilyddion wahaniaeth mawr.”
Un o’r rheiny fydd yn ysu i berfformio ar y llwyfan mawr – o’r fainc eto, o bosib – yw Kevin Ellison, y chwaraewr 42 oed oedd wedi torri record drwy fod y chwaraewr allanol hynaf erioed i sgorio gôl yn y Gynghrair Bêl-droed wrth rwydo yn y gêm gyn-derfynol yn erbyn Forest Green.
Y tro hwn, bydd e’n herio’i hen glwb Morecambe.
“Am gôl!” meddai.
“Am stori hefyd. Rhoddodd e hwb i’r tîm i gyd.
“Ro’n i’n arfer ei gasáu e pan oedd e’n chwarae yn ein herbyn ni i Morecambe, ond mae e wedi gwneud cyfraniad mor bwysig i’n tymor eleni (ar y cae ac oddi ar y cae hefyd).
“Dw i ddim yn disgwyl iddo fe ddechrau’r ffeinal, ond bydd e’n benderfynol iawn o gael effaith ar y canlyniad – bydd Derek Adams [rheolwr Morecambe] yn poeni amdano fe, does dim amheuaeth!”