Fydd tîm pêl-droed Wrecsam ddim yn chwarae yng ngemau ail gyfle’r Gynghrair Genedlaethol eleni.

Daw hyn ar ôl iddyn nhw orffen yn gyfartal 1-1 yn Dagenham & Redbridge wrth geisio buddugoliaeth i sicrhau eu lle.

Roedden nhw ar ei hôl hi ar ôl 50 munud gyda gôl i Paul McCallum yn rhoi’r tîm cartref ar y blaen.

Roedd y sgôr yn gyfartal ym munud ola’r 90 gyda Jordan Ponticelli yn rhwydo.

Ond doedd hynny ddim yn ddigon wrth i ganlyniadau eraill fynd yn eu herbyn nhw.

Fe wnaeth Chesterfield guro Halifax ar eu tomen eu hunain, ac fe wnaeth Bromley guro Notts County hefyd, ac mae hynny’n golygu bod Wrecsam yn gorffen yn wythfed, un safle islaw’r safleoedd ail gyfle.