Bydd Y Drenewydd yn chwarae yng Nghyngres Europa y tymor nesaf.

Daw hyn ar ôl iddyn nhw guro Caernarfon o 5-3 yn rownd derfynol gemau ail gyfle’r Cymru Premier.

Doedd dim cefnogwyr yn yr Oval – ond roedd llawer wedi ymgynnull o gwmpas y maes i gael cipolwg o’r gêm.

Gêm gyffrous

Aeth y Cofis ar y blaen ar ôl 16 munud drwy Jack Kenny wrth iddo daro’r bêl dros ben y golwr oddi ar groesiad ar hyd y cae.

Ond roedd Y Drenewydd yn gyfartal ar ôl 37 munud, gyda Nick Rushton yn sgorio o’r smotyn i unioni’r sgôr.

Roedd rhagor o gyffro cyn yr egwyl wrth i’r Drenewydd fynd ar y blaen o 2-1 gyda gôl gelfydd gan Lifumpa Mwandwe oddi ar groesiad o ochr dde’r cwrt cosbi.

Ail hanner gwallgo’

Ergydiodd Darren Thomas o ymyl y cwrt cosbi oddi ar groesiad wrth i’r bêl adlamu i’w draed, ac fe daniodd e chwip o ergyd i gornel ucha’r rhwyd i unioni’r sgôr, 2-2.

Sgoriodd e eto ar ôl 72 munud â’i droed chwith wrth i Gaernarfon wrthymosod – 3-2 i’r Cofis.

Roedd Y Drenewydd yn gyfartal unwaith eto bum munud yn ddiweddarach, wrth i James Davies benio’r bêl i’r rhwyd oddi ar gic rydd o’r asgell chwith ac fe wnaeth e roi ei dîm ar y blaen ar ôl 80 munud gyda Mwandwe yn bylchu cyn trosglwyddo’r bêl i’w draed i orffen symudiad mewn ffordd syml.

Selio’r fuddugoliaeth

Seliodd Y Drenewydd y fuddugoliaeth oddi ar droed Jamie Breese, ar ôl i Gaernarfon fethu â chlirio’r bêl, gyda chyn-chwaraewr Caernarfon, yn osgoi dathlu’r gôl dyngedfennol.

“Rhaid i ni freuddwydio” – Caneris Caernarfon eisiau hedfan i Ewrop!

Huw Bebb

Dim torf ar gyfer Caernarfon v Drenewydd, ond “bydd yna bendant lot o sŵn o gwmpas y cae” meddai rheolwr y Cofis

Mark Drakeford yn lladd unrhyw obaith o gefnogwyr yn cael mynd i’r gêm yn yr Oval

Gareth Williams, Gohebydd Democratiaeth Leol

Bydd Caernarfon yn croesawu’r Drenewydd ddydd Sadwrn (Mai 29), gyda’r ennillydd yn cymhwyso ar gyfer Cyngres Europa

Anfodlonrwydd na chaiff cefnogwyr fynd i’r “gêm bwysicaf yn hanes Tref Caernarfon”

Llywodraeth Cymru wedi “anghofio” am dimau’r Cymru Premier, medd cadeirydd y clwb