Bydd Caernarfon yn herio’r Drenewydd yn y “gêm fwyaf yn hanes y clwb” ddydd Sadwrn (Mai 29), gyda’r enillwyr yn sicrhau lle yng Nghyngres Europa y tymor nesaf.
Caernarfon yw’r tîm cartref, gyda’r gêm yn cael ei chwarae ar yr Oval, a’r gic gyntaf am hanner dydd.
Bydd modd gwylio’r gêm yn fyw ar Sgorio ar S4C o 11:45 o’r gloch.
? Edrych 'mlaen i rownd derfynol y gemau ail gyfle gyda'r ddau reolwr, Huw Griffiths a Chris Hughes.@CaernarfonTown v @NewtownAFC
Yn fyw ar S4C ddydd Sadwrn am 11.45 ? pic.twitter.com/Pj4BR5weeu
— ⚽ Sgorio (@sgorio) May 28, 2021
“Rhaid i ni freuddwydio”
“Mae hi’n mynd i fod yn gêm anodd yn erbyn y Drenewydd,” meddai rheolwr Caernarfon, Huw Griffiths, wrth golwg360.
“Ond one off game ydi hi, felly ein job ni ydi paratoi yn iawn a dw i’n edrych ymlaen amdani.
“Dyma oedd ein nod ni ar ddechrau’r tymor, yn gyntaf rhaid aros yn y gynghrair, ac wedyn mynd am y cam nesaf a’r cam nesaf.
“Rhaid i ni freuddwydio, achos heb freuddwydio dwyt ti ddim yn mynd i’w wneud o.
“Rydan ni 90 munud – neu extra time neu penalties neu be’ bynnag – oddi wrth cyrraedd Ewrop.
“Dw i’n meddwl bydd y Drenewydd yn gwybod bo’ nhw’n chwarae oddi cartref er bod yna ddim cefnogwyr yn y cae.
“Bydd yna bendant lot o sŵn o gwmpas y cae ac mi fasa gallu rhoi rhywbeth yn ôl i’n cefnogwyr ni yn anhygoel.
“Mae lot o’r chwaraewyr wedi cael lot o glod yn barod, ond mae ganddyn nhw gyfle dydd Sadwrn i fod mewn erthyglau, sylw ar y cyfryngau cymdeithasol a mynd lawr mewn llyfrau hanes.”
“Un Clwb”
Un o’r ffactorau mwyaf yn llwyddiant Caernarfon y tymor hwn yn ôl Huw Griffiths yw ei ymwneud gyda’r Cadeirydd Paul Evans, a’r bwrdd rheoli.
“Mae gen i berthynas wych efo Paul a’r bwrdd… unrhyw beth dw i’n ei ofyn amdano, maen nhw’n gwneud eu gorau i sicrhau fod o’n digwydd.
“Mae cael pobol fel’na i weithio gydag yn anhygoel, a dw i’n gwybod pa mor galed maen nhw’n gweithio.
“A dw i’n cofio yn ystod pre-season, roedd yno gefnogwyr yn peintio’r ffensiau, symud waliau, pawb yn chwarae rhan.
“Un clwb yda ni, ac mae hynna yn bwysig ofnadwy.”
Canu clodydd y tîm hyfforddi
Mae rôl y tîm hyfforddi yn hanfodol yn y byd pêl-droed, ond yn aml mae’n cael ei anghofio gyda’r rheolwr yn derbyn y rhan fwyaf o’r clod.
Dyna sut y mae Huw Griffiths yn ei gweld hi beth bynnag.
“Mae’r tîm hyfforddi hefyd wedi bod yn brilliant efo fi,” meddai.
“Dw i’n cael lot o’r clod ar y funud, ond mae gen i staff sy’n gwneud gymaint o waith does yna neb yn ei weld.
“Mae’r bois yna yn haeddu lot o glod, yn enwedig Richard Davies (yr is-hyfforddwr).
“Dw i ddim yn clywed digon am ei enw fo a be’ mae o wedi’i wneud i’r clwb dros y blynyddoedd.
“Fi ydi’r trydydd rheolwr mae o wedi cael yma dw i’n meddwl, a dw i jyst eisiau rhoi o allan yna bod o wedi gwneud gwaith anhygoel i fi.”
“Dangos beth mae clwb cymunedol yn gallu ei wneud”
Mae yno gyffro mawr yn nhref Caernarfon wrth i’r clwb baratoi am y gêm dyngedfennol, yn ôl Paul Evans, y Cadeirydd.
“Dw i wedi clywed gan bobol dw i ddim wedi clywed ganddyn nhw ers blynyddoedd,” meddai wrth golwg360.
“Mae pawb eisio llongyfarch y clwb ac yn gobeithio y rhown ni sioe dda ymlaen fory.
“Roedd y clwb bron a mynd i’r wal yn 2010 pan ges i alwad gan un o’r cefnogwyr a’r Cadeirydd ar y pryd, yn gofyn i mi ymuno â’r bwrdd.
“Mi wnes i, a dw i’n meddwl mai fi ydi’r unig un sydd dal yna ar y bwrdd.
“Mae hi wedi bod yn siwrne hir, ond mae hi wedi bod yn un lwyddiannus, ac mewn ffordd mae gêm fory i bawb sydd wedi cefnogi ni ac wedi noddi ni a gweithio fel gwirfoddolwyr ar hyd y blynyddoedd.
“Mae o’n dangos i chdi hefyd beth mae clwb cymunedol yn gallu ei wneud.
“Dyda ni ddim yn glwb cyfoethog o gwbl, ond rydan ni’n glwb cymunedol lle mae pawb yn tynnu at ei gilydd a dw i’n meddwl mai dyna ydi’r peth neis amdano fo, ein bod ni wedi’i wneud o hefo’n gilydd.”
“Rydan ni eisiau ennill y gynghrair”
Byddai’r cyllid fasa Caernarfon yn ei dderbyn o gyrraedd Ewrop yn hwb mawr i’r clwb, medd Paul Evans.
“Mi fasa’r arian yna yn ein sefydlu ni fel clwb am y ddwy flynedd nesaf,” meddai.
“Yng Nghaernarfon, dyda ni ddim yma i wneud y numbers i fyny yn y gynghrair, rydan ni eisiau ennill y gynghrair – dyna ydi’r nod.
“Ond er mwyn ennill y gynghrair, mae’n rhaid i chdi gael ‘chydig bach o arian wrth gefn fel bo’ chdi’n gallu mynd allan ac arwyddo rhywun ella fasa ti ddim yn gallu fel arfer.
“Rydan ni’n gobeithio mai’r cam cyntaf ydi hwn, byddai’n wych gwneud hi i Ewrop am y tro cyntaf ac wedyn bod mynd i Ewrop a chael yr arian ac ati yn galluogi ni i gystadlu am y gynghrair yn y blynyddoedd i ddod.”
Cyhuddo Mark Drakeford o “fychanu’r gynghrair”
Mae Paul Evans yn cyhuddo Mark Drakeford o “fychanu’r gynghrair”, gan ddweud nad yw’r Prif Weinidog yn deall pwysigrwydd y Cymru Premier.
Daw hyn yn dilyn penderfyniad y Llywodraeth i beidio caniatáu torf yn yr Oval ddydd Sadwrn, er bod pwysau wedi bod arnynt i wneud hynny.
Fe gafodd tair mil o gefnogwyr fynd i weld Abertawe yn chwarae Barnsley gartref y Sadwrn diwethaf, a 500 wedi cael mynychu Tafwyl yng Nghaerdydd.
Ond doedd Llywodraeth Cymru ddim am weld torf ar gyfer Caernarfon v Drenewydd.
“Be’ mae o’n ei ddangos ydi fod gan Mr Drakeford a’r Llywodraeth ddim dealltwriaeth o bwysigrwydd y Cymru Premier,” meddai Paul Evans.
“Cafodd y gynghrair ei sefydlu er mwyn achub tîm cenedlaethol Cymru… roedd yn rhaid i ni gael y gynghrair i sicrhau dyfodol tîm Cymru.
“Roedd hyn yn y 1990au ac roedd yna sôn bryd hynny ella na fyddai yna dîm Cymru oherwydd nad oedd ganddo ni gynghrair genedlaethol.
“Be’ sy’n siomedig ydi bo’ nhw’n siarad amdana ni fatha grassroots – tydan ni ddim, mae’r Uwchgynghrair yn elite league… does yna ddim pêl-droed gwell na hyn yng Nghymru.
“Dim Sunday League ydan ni, y Cymru Premier ydan ni, felly mae o’n bychanu’r gynghrair.
“Tydi [peidio caniatau torf] ddim yn gwneud dim sens i fi oherwydd bydd y clubhouse yn packed yfory efo pobol yn gwylio’r gêm ac mae [Mark Drakeford] yn dweud ei bod yn saffach mynd i’r dafarn neu i’r clubhouse ysgwydd yn ysgwydd, heb fasgiau, yn lle gwylio’r gêm yn yr awyr agored.
“Mae’r peth yn hollol hurt, a dw i’n meddwl ei fod o’n gywilydd arno fo a’r Llywodraeth.”
Ymateb Llywdoraeth Cymru
Er i ni holi’r Llywodraeth yn benodol am ymateb i’r honiad fod Mark Drakeford wedi “bychanu” Uwchgynghrair Cymru, ymateb cyffredinol gawson ni i’r sefyllfa:
“Mae’r Prif Weinidog wedi dweud os yw sefyllfa iechyd y cyhoedd yn parhau i fod yn gadarnhaol, yn yr adolygiad tair wythnos nesaf ddechrau mis Mehefin, byddwn yn ystyried symud i rybudd lefel un, a allai ganiatáu i ddigwyddiadau mwy a gweithgareddau wedi’u trefnu gael eu cynnal, wedi’u llywio gan y rhaglen o ddigwyddiadau peilot, sydd ar y gweill ar hyn o bryd.”