Mae Michael Flynn, rheolwr Casnewydd, wedi beirniadu Cymdeithas Bêl-droed Cymru am enwi eu carfan Ewro 2020 cyn gornest fawr Casnewydd yn Wembley, oherwydd yr effaith bosibl ar Josh Sheehan.
Fe allai chwaraewr canol cae Casnewydd orfod delio gyda’r siom o fethu cael ei gynnwys yn y garfan genedlaethol, cyn gêm sy’n enfawr i’w glwb.
Bydd Robert Page, prif hyfforddwr Cymru, yn cyhoeddi ei garfan o 26 dyn ar gyfer Ewro 2020 nos Sul (Mai 30) cyn i Gasnewydd herio Morecambe yn rownd derfynol gemau ail-gyfle League Two y prynhawn canlynol.
Mae Michael Flynn yn credu y dylai Cymru fod wedi oedi cyn enwi eu carfan tan ar ôl gêm Casnewydd.
Mae gan dimau Ewro 2020 sy’n cystadlu tan ddydd Mawrth nesaf, y cyntaf o Fehefin, i gofrestru eu carfan – 10 diwrnod cyn gêm agoriadol y twrnament.
“Dw i’n mynd i orfod siarad efo FA Cymru i weld os ydyn nhw’n gallu ei wthio yn ôl tan nos Lun,” meddai Flynn.
“Dyw hyn heb gael ei gynllunio yn ddigon da yn fy marn i. P’un a yw’n gadarnhaol neu’n negyddol, bydd yn rhaid i Josh ddelio ag ef.
“Mae o naill ai’n mynd i fod yn siomedig neu’n gyffrous. Ond beth bynnag ddigwyddith, gall y penderfyniad ei wthio i gael gêm dda.
“Os ddaw newyddion drwg, mae’n rhaid iddo ei droi’n beth positif a dangos beth maen nhw’n mynd i’w golli.
“Os ddaw newyddion da, yna mae’n rhaid iddo barhau i ddangos beth maen nhw’n mynd i’w gael ganddo a faint mae’n mynd i wthio am le yn y tîm cyntaf.
“Rwy’n siŵr y bydd yn chwarae ar fy meddwl yn fwy na’i feddwl o, ond mae o bendant yn ddigon da [i gael ei gynnwys yn ngharfan Cymru].”