Jonny Clayton yw pencampwr Uwch Gynghrair Dartiau’r PDC.
Curodd e Jose de Sousa o Bortiwgal o 11-5 yn rownd derfynol ym Milton Keynes i sicrhau y bydd e’n cael cystadlu eto y flwyddyn nesaf.
“Mae Cymru ar y map, mae fy mhentref bach Pontyberem ar y map,” meddai’r Cymro Cymraeg ar Sky Sports ar ôl ennill.
What can I say — ABSOLUTELY BUZZING 🏴🏴🏴🏴🥳🥳🥳- get in there 🏆2021 PREMIER LEAGUE CHAMPION – did I really say that 🙈🥳🥳- BUZZING pic.twitter.com/PtrAfQAIMy
— Jonny Clayton (@JonnyClay9) May 28, 2021
Curodd e’r Iseldirwr Michael van Gerwen o 10-8 yn y rownd gyn-derfynol.
Roed van Gerwen yn mynd am chweched tlws yn y gystadleuaeth, ond roedd gan y Cymro gyfartaledd o 103 wrth sicrhau ei le yn y ffeinal ar ôl bod ar ei hôl hi o 8-7 cyn ennill y tair gêm olaf.
Yr Iseldirwr oedd ar frig y tabl am yr wythfed tro mewn naw mlynedd, ond dyma’r tro cyntaf iddo fe golli yn y rownd gyn-derfynol.
Cyrhaeddodd de Sousa y ffeinal ar ôl curo Nathan Aspinall o 10-9.
Collodd Clayton y gêm gyntaf ond fe aeth yn ei flaen wedyn i fynd ar y blaen o 6-3.
Tarodd de Sousa ’nôl i 7-5 ond adeiladodd y Cymro gryn fomentwm wrth ennill pedair gêm o’r bron cyn cipio’r tlws.
Dyma’r tro cyntaf i Gymro ennill y gystadleuaeth, a’r tro cyntaf hefyd i’r chwaraewr wnaeth orffen yn bedwerydd yn y tabl ei hennill hi.
Yn ogystal â’r tlws, mae e wedi ennill £250,000 bedwar mis yn unig ar ôl ennill y Meistri.
Dyma’i bedwerydd tlws y tymor hwn, a hynny ar ôl iddo fe a Gerwyn Price ennill Cwpan y Byd dros Gymru.
𝗖𝗟𝗔𝗬𝗧𝗢𝗡 𝗜𝗦 𝗧𝗛𝗘 𝗖𝗛𝗔𝗠𝗣𝗜𝗢𝗡!🏆🏴
Jonny Clayton wins the 2021 Unibet Premier League!
The Welsh sensation defeats Jose de Sousa 11-5 in the final to take the title in his debut year. pic.twitter.com/2qnATAKKYI
— PDC Darts (@OfficialPDC) May 28, 2021
Ymateb
“Hollol ryfeddol,” oedd ei ymateb wrth siarad â Sky Sports ar ôl y gêm.
“Diolch i bawb sy’n credu ynof fi, mae’n golygu cymaint.
“Dw i’n dal yn ôl yn y gwaith ddydd Llun!
“Mae’n hollol anhygoel.
“Dw i’n caru’r gêm, dw i’n ddiog wrth ymarfer ond ar ddiwedd y dydd, pan dw i’n dod i’r llwyfan, dw i’n trio fy ngorau glas.”