Mae Swyddog Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) o Landrindod wedi cael ei ddewis i gynrychioli Cymru mewn cystadleuaeth saethu bwa a saeth Brydeinig dros y penwythnos.
Bydd Rhodri Curnow, 32, sy’n aelod o Dîm Cymwysiadau TGCh Cyngor Sir Powys, yn un o chwech o saethwyr a fydd yn cystadlu dros ei wlad yn Kingsclere, Hampshire, Lloegr.
Ni chafodd y gystadleuaeth ei chynnal y llynedd yn sgil y pandemig, a bydd tîm Cymru’n ceisio amddiffyn eu teitl, am y tro cyntaf ers 13 mlynedd, ar ôl ennill yn 2019.
Mae cystadleuwyr yn saethu ar draws ystod eang o diroedd gan gynnwys mewn coedwigoedd.
“Braint”
“Mae bob amser yn fraint cael eich dewis ar gyfer tîm Cymru,” meddai Rhodri Curnow.
“Roedd y fuddugoliaeth yn 2019 yn un o’r dyddiau hynny lle’r oeddem i gyd yn saethu’n dda iawn. Rhyngddon ni, torron ni chwe record Cymru ac rwy’n credu i bron pob un ohonon ni saethu’r gorau rydym wedi gwneud erioed y penwythnos hwnnw.
“Mae’r drefn eleni’n wahanol iawn ac yn cynnwys cystadlu tebyg i’r hyn a welwch yn [Olympics] Tokyo dros yr haf. Nid oes gan y rhan fwyaf o’r tîm, gan fy nghynnwys i, brofiad o gystadlu yn y math yma o gemau.
“Mae’r cyfyngiadau symud yn golygu bod y rhan fwyaf ohonom yn mentro heb fawr o amser paratoi.
“Bydd yn her anodd, ond y nod yw efelychu’r math o brofiad y bydd rhaid i’r rheiny ohonom sydd am gamu ymlaen i dîm Prydain Fawr ei wynebu os cawn ein dewis ar gyfer Pencampwriaethau’r Byd neu Gemau’r Byd. Felly hyd yn oed os byddwn yn colli, byddwn yn cael llawer o wybodaeth dda am yr hyn i’w ddisgwyl wrth symud ymlaen i 2022 a thu hwnt.”
Fel rhan o’i swydd fel swyddog data, mae Rhodri Curnow darparu mapio i’r cyngor er mwyn helpu gwasanaethau, ac yn gofalu am restr cyfeiriadau’r Cyngor.
“Dewch ymlaen Gymru!”
“Rydym yn dymuno pob lwc i Rhodri a gweddill ei dîm yn nhwrnamaint y Gwledydd Cartref y penwythnos hwn,” meddai’r Cynghorydd Graham Breeze, Aelod y Cabinet ar faterion Llywodraethu Corfforaethol Cyngor Sir Powys:
“Mae’n rhan o’n tîm Digidol sy’n gweithio’n galed iawn i fanteisio ar dechnoleg newydd i wella’r gwasanaethau rydym yn eu darparu i bobl Powys. Ac os bydd tîm saethyddiaeth maes Cymru’n dangos yr un ymroddiad, rwy’n siŵr y byddan nhw’n llwyddiannus iawn.
“Dewch ymlaen Gymru!”