Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, wedi dweud wrth golwg360 mai edrych ymlaen, ac nid yn ôl, fydd e a’i dîm wrth deithio i Wembley heddiw (dydd Sadwrn, Mai 29, 3 o’r gloch).
Wrth herio Brentford yn ffeinal gemau ail gyfle’r Bencampwriaeth, fe fydd e a’i garfan yn sicr yn ymwybodol o hanes cythryblus y clwb dros y degawd diwethaf.
Ar ôl cwympo i’r Drydedd Adran yn 2001, cafodd y clwb ei werthu i’r cyn-berchennog Mike Lewis am £1, ac fe benderfynodd hwnnw ei werthu eto i gonsortiwm oedd yn cael ei arwain gan Tony Petty, dyn busnes yn Awstralia ac un a ddaeth y destun casineb yn y ddinas.
Yn ystod cyfnod byr Petty wrth y llyw, cafodd saith o chwaraewyr a sawl rheolwr eu diswyddo ac roedd y clwb yn wynebu sancsiynau cyn i Mel Nurse, un o fawrion y clwb, arwain consortiwm arall i brynu’r clwb yn ôl.
Arweiniodd y cyfan at sefydlu Ymddiriedolaeth Cefnogwyr ac fe gafodd y clwb ei werthu gan Petty iddyn nhw am £1, ond roedd pethau’n dal yn ddrwg ar y cae ac fe ddaeth yr Elyrch o fewn un gêm i ostwng o’r Gynghrair cyn curo Hull o 4-2 ar ddiwrnod olaf tymor 2002-03 i oroesi.
Wyth mlynedd yn ddiweddarach, ar ôl i Roberto Martinez osod y seiliau wrth ailadeiladu’r tîm, roedden nhw bellach o dan reolaeth Brendan Rodgers, gan gyrraedd y gemau ail gyfle a herio Nottingham Forest yn y gêm gyn-derfynol.
Gorffennodd y cymal cyntaf oddi cartref yn gyfartal ddi-sgôr, gyda Neil Taylor yn gweld cerdyn coch, cyn i’r Elyrch ennill yr ail gymal yn Stadiwm Liberty o 3-1, gyda goliau gan Leon Britton, Stephen Dobbie a chwip o gôl o’r llinell hanner gan y capten Darren Pratley.
Wembley
Reading oedd y gwrthwynebwyr yn y ffeinal yn Wembley, gyda’r ornest yn cael ei disgrifio fel “gêm £90m”.
Sgoriodd Scott Sinclair ddwy gôl o fewn dwy funud – gan gynnwys un o’r smotyn – i wneud yr ornest yn un gyfforddus cyn i Dobbie ychwanegu’r drydedd cyn hanner amser.
Tarodd Reading yn ôl wrth i Joe Allen daro’r bêl i’w rwyd ei hun ar ôl 48 munud, cyn i Matthew Mills rwydo wyth munud yn ddiweddarach i’w gwneud hi’n 3-2 ac yn gyfnod nerfus i’r Elyrch.
Ond daeth cic arall o’r smotyn ar ôl 79 munud, ac fe gamodd Sinclair i fyny unwaith eto i’w gwneud hi’n 4-2 ac i selio’r fuddugoliaeth fwyaf yn hanes y clwb.
Saith mlynedd yn unig barodd y freuddwyd i’r Elyrch cyn iddi gael ei chwalu, a’r clwb yn ôl yn y Bencampwriaeth unwaith eto.
Yn y blynyddoedd ers hynny, bu’n rhaid i’r Elyrch fod yn ofalus yn ariannol, ac mae eu taliadau parasiwt yn dod i ben y tymor hwn, felly maen nhw’n sylweddoli pwysigrwydd ychwanegol y gêm fawr ddydd Sadwrn.
Dosbarth 2021 yn llawn profiad
“Fyddwn ni ddim yn dweud ein bod ni wedi edrych ar hynny fel carfan,” meddai Steve Cooper wrth golwg360 wrth gael ei holi am hanes rhyfeddol y degawd diwethaf.
“Ond bydd y chwaraewyr yn ymwybodol o hynny, wrth gwrs, oherwydd mae gan bawb ddiddordeb gwirioneddol a gwybodaeth am hanes y clwb, yn enwedig yr eiliadau pwysig ar y cae ac oddi arno.
“Dw i’n gredwr mawr yn hynny.”
Mae’n dweud bod profiad rhai o’r chwaraewyr yn y garfan bresennol o’r gemau ail gyfle a gemau mawr eraill lawn mor bwysig ag unrhyw gemau hanesyddol.
“Mae gyda ni chwaraewyr yn y garfan sydd wedi chwarae yn y gemau hyn o’r blaen – Ryan Bennett [Wolves], Conor Hourihane [Barnsley ac Aston Villa], Wayne [Routledge, Newcastle a QPR] – ac sydd wedi chwarae mewn gemau mawr,” meddai.
“Mae Andre [Ayew] wedi chwarae’n rhyngwladol mewn ffeinals [i Ghana yng Nghwpan y Byd].
“Felly maen nhw wedi bod yn myfyrio ar hynny, ac mae hynny’n beth normal, a gobeithio y gall hynny ein helpu ni i fod mor barod â phosib ar gyfer [y gêm] hon.”
‘Dydy’r tymor ddim ar ben’
Os nad yw’r Elyrch wedi bod yn talu llawer o sylw i’r hanes ddegawd yn ôl, ychydig iawn o sylw maen nhw wedi’i dalu hefyd i daith bresennol yr Elyrch ers i Steve Cooper gael ei benodi cyn dechrau’r tymor diwethaf.
Mewn dau dymor, mae e wedi arwain yr Elyrch i’r gemau ail gyfle ddwywaith – gan golli yn y gêm gyn-derfynol yn erbyn Brentford y tymor diwethaf, a mynd gam ymhellach y tro hwn wrth guro Barnsley.
Ond ac yntau’n ddiymhongar ac yn gwrthod newid ei agwedd o ‘un gêm ar y tro’, mae’n dweud mai ar ddiwedd y tymor fydd yr amser i bwyso a mesur unrhyw lwyddiant.
“Dw i’n credu bod hynny i ddilyn,” meddai.
“Dw i’n credu ein bod ni am ganolbwyntio’n llwyr ar edry